{"id":10471,"date":"2025-09-30T08:46:56","date_gmt":"2025-09-30T08:46:56","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10471"},"modified":"2025-09-30T08:46:56","modified_gmt":"2025-09-30T08:46:56","slug":"wedi-graddio-beth-nawr-5-awgrym-er-mwyn-dod-yn-seren-newydd-ar-ol-graddio","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2025\/09\/30\/wedi-graddio-beth-nawr-5-awgrym-er-mwyn-dod-yn-seren-newydd-ar-ol-graddio\/","title":{"rendered":"Wedi graddio, beth nawr?&#8217; 5 awgrym er mwyn dod yn seren newydd ar \u00f4l graddio"},"content":{"rendered":"<p><strong>Rydych chi wedi diosg eich cap, wedi dathlu eich cyflawniadau, felly beth nesaf? Mae graddio yn garreg filltir enfawr, ond gall penderfynu beth yw\u2019r camau nesaf i chi deimlo&#8217;n frawychus. P&#8217;un a ydych chi&#8217;n chwilio am eich swydd gyntaf ar \u00f4l graddio, yn chwilio am gyfleoedd i rwydweithio neu&#8217;n dysgu am yr hyn y mae llwyddiant yn ei olygu i chi, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Buon ni\u2019n siarad \u00e2 rhai o&#8217;n cyn-fyfyrwyr gwych i gael yr awgrymiadau gorau er mwyn dod yn seren newydd ar \u00f4l graddio.<\/strong><\/p>\n<figure id=\"post-10465 media-10465\" class=\"image align-left\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2025\/09\/Toby-Doman-Headshot-web.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h2>Toby Doman (BScEcon 2003)<\/h2>\n<p>Toby yw Pennaeth Cyfathrebu Allanol PPF Group, sef busnes buddsoddi Ewropeaidd o Prague. Mae ganddo 20 mlynedd o brofiad yn cynghori amrywiaeth o sefydliadau byd-eang ar faterion corfforaethol, enw da, diplomyddiaeth gyhoeddus a materion sy\u2019n ymwneud \u00e2 chysylltiadau \u00e2\u2019r cyfryngau.<\/p>\n<p>Cyn dychwelyd i Ewrop yn 2024, treuliodd ddegawd yn Hong Kong a Singapore, yn gweithio mewn amrywiaeth o rolau. Roedd y rhain yn cynnwys, Pennaeth Cyfathrebu Gr\u0175p y gweithredwr ariannol defnyddwyr byd-eang Home Credit ac arwain ar gyfathrebu yn Asia a\u2019r M\u00f4r Tawel yn Dow Jones a Wall Street Journal. Mae gan Toby brofiad hefyd yn y sector darlledu ar \u00f4l gweithio fel cyflwynydd ar radio masnachol yn y DU, radio lleol y BBC ac ar raglenni radio sgyrsiol yn Singapore.<\/p>\n<p><strong>Dewch o hyd i&#8217;ch ffordd eich hun.<\/strong><\/p>\n<p>Mae&#8217;r wisg graddio bellach yn \u00f4l yn ddiogel gyda\u2019r cwmni rhentu a\u2019r hydref yn ymestyn. Beth sydd nesaf? Peidiwch \u00e2 rhuthro, yw fy nghyngor i. Ydych chi&#8217;n si\u0175r eich bod chi eisiau dilyn gyrfa yn y pwnc a astudioch chi? Os wnaethoch chi gymryd rhan yn un o gymdeithasau\u2019r Brifysgol (Xpress Radio a gweithio fel DJ wnaeth arwain at fy nghyfleoedd gwaith cyntaf,) hwyrach y bod hynny\u2019n ffordd wahanol i ddod o hyd i rywbeth sy\u2019n rhoi boddhad i chi. Nid y llwybr mwyaf amlwg sy\u2019n eich arwain chi at ble rydych chi eisiau mynd bob amser. Dyw gyrfaoedd ddim yn rhagweladwy bellach. Peidiwch \u00e2 bod ofn cymryd y llwybr anghyffredin wrth ddechrau arni.<\/p>\n<h2><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"font-size: 16px;margin: 8px 8px 0px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2025\/09\/Rosie-Headshot-web.jpg\" alt=\"\" width=\"383\" height=\"383\" \/>Rosie Johns (BA 2014)<\/h2>\n<p>Mae Rosie yn meddu ar ddegawd o brofiad yn y diwydiant marchnata, gan weithio i gyhoeddwyr llyfrau byd-eang ac annibynnol, busnesau nid-er-elw, sefydliadau celfyddydol ac asiantaethau marchnata. Ymhlith ei harbenigeddau y mae creu cynnwys, y cyfryngau cymdeithasol, optimeiddio peiriannau chwilio ac allgymorth. Mae hi wedi rheoli ymgyrchoedd, cynnal digwyddiadau ac wedi lansio gwefannau ar gyfer brandiau mawr a bach, gan gynnwys PUIG, Llywodraeth Cymru, Penguin Random House, a Go.Compare. Yn ei hamser hamdden, mae Rosie hefyd yn rhedeg busnes crochenwaith \u00e2 llaw o\u2019r enw <a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=http%3A%2F%2Fheathandseapottery.co.uk%2F&amp;data=05%7C02%7Clewise39%40cardiff.ac.uk%7Cd15252a09535422dc7bd08ddba2dc769%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1%7C0%7C638871428075200132%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJFbXB0eU1hcGkiOnRydWUsIlYiOiIwLjAuMDAwMCIsIlAiOiJXaW4zMiIsIkFOIjoiTWFpbCIsIldUIjoyfQ%3D%3D%7C0%7C%7C%7C&amp;sdata=zeFe4czuJ7OY%2BnuDMNtLmqIz8AEK6a4fDCMvXex28TI%3D&amp;reserved=0\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Heath and Sea<\/a>.<\/p>\n<p><strong>Ydych chi\u2019n meddwl eich bod chi wedi dewis eich llwybr gyrfa? Gwnewch yn si\u0175r eich bod chi\u2019n dysgu am realiti&#8217;r diwydiant cyn i chi ymrwymo iddo.<\/strong><\/p>\n<p>Yn aml, gall realiti gweithio mewn diwydiant penodol fod yn wahanol iawn i sut rydych chi&#8217;n ei ddychmygu pan fyddwch chi&#8217;n astudio ar gyfer eich gradd. Rwy bob amser yn cynghori graddedigion i ennill profiad bywyd go iawn er mwyn deall sut beth fydd y gwaith &#8211; ac i wneud yn si\u0175r ei fod yr union beth rydych chi ei eisiau. Chwiliwch am leoliadau profiad gwaith ac interniaethau ac ystyriwch ystod eang o gyfleoedd. Efallai y byddwch chi&#8217;n dysgu bod swydd neu ddiwydiant nad oeddech chi wedi&#8217;i ystyried o&#8217;r blaen yn fwy addas i chi.<\/p>\n<p>Pan raddiais, neidiais i mewn i yrfa ym maes cyhoeddi llyfrau. Dysgais i nad oedd y diwydiant mor flaengar ag yr oeddwn i\u2019n ei feddwl ac nad oedd yn rhoi&#8217;r cyfle i mi ddatblygu fy niddordeb mewn data a dadansoddeg. Dros sawl blwyddyn, edrychais am rolau yn y diwydiant celfyddydau, gydag elusennau a brandiau. Yn y pen draw, symudais i&#8217;r diwydiant marchnata i r\u00f4l rwy&#8217;n ei mwynhau&#8217;n fawr.<\/p>\n<figure id=\"post-10464 media-10464\" class=\"image align-left\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2025\/09\/Thomas-Tatchell-Headshot-web.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h2>Dr Tom Tatchell (BSc 2002, PhD 2006, MBA 2024)<\/h2>\n<p>Mae gan Tom dros 15 mlynedd o brofiad yn y sector Addysg Uwch, a hynny\u2019n arbenigo mewn strategaeth addysg, gwella gweithredol a rhoi profiad rhagorol i fyfyrwyr. Sefydlodd Tom ei gwmni ei hun, <a href=\"http:\/\/www.cacumatormenorship.org\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Better Generation Solutions<\/a>, ac mae bellach yn ei arwain. Mae&#8217;n cynnig gwasanaeth ymgynghori a hyfforddi gweithredol i sicrhau bod arferion y sectorau addysg, amrywiaeth a chynhwysiant, a chynaliadwyedd yn cyd-fynd \u00e2\u2019r Nodau Datblygu Cynaliadwy.<\/p>\n<p><strong>Peidiwch ag anghofio am Brifysgol Caerdydd! <\/strong><\/p>\n<p>Rydych chi wedi graddio \u2013 llongyfarchiadau! Bydd y rhan fwyaf ohonoch chi&#8217;n gadael Prifysgol Caerdydd ar \u00f4l gorffen eich astudiaethau, ond peidiwch ag anghofio amdanon ni!<\/p>\n<p>Mae bod yn gyn-fyfyrwyr yn fwy na dim ond clywed am ganlyniadau Varsity [INSERT LINK] yn nhymhorau\u2019r gwanwyn yn y dyfodol&#8230;! Bydd eich cysylltiad \u00e2&#8217;r brifysgol hon yn para&#8217;n hir ar \u00f4l i chi raddio, a bydd y cysylltiad hwnnw\u2019n arwain at gyfleoedd. I chi ac i fyfyrwyr y Brifysgol yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l graddio a chael swydd, mae nifer o gyfleoedd ar gael i barhau i ymwneud \u00e2\u2019r Brifysgol. Bydd eich alma mater yn falch o\u2019ch croesawu i roi cyflwyniadau yngl\u0177n \u00e2\u2019ch <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/alumni\/volunteer\/mentoring\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gyrfa a chyfleoedd cyflogaeth posibl i raddedigion y dyfodol<\/a>. Gallwch chi fod yn enghraifft flaenllaw o&#8217;r hyn a wnaethoch chi \u00e2&#8217;ch gradd a&#8217;r sgiliau a ddatblygoch chi ym Mhrifysgol Caerdydd. Gallai eich cyflogwyr, neu hyd yn oed eich cwmni eich hun (os aethoch chi ati i sefydlu eich busnes eich hun) ystyried <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/volunteer\/offer-an-internship\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">croesawu myfyrwyr<\/a> i ddatblygu eu sgiliau. Interniaethau, prosiectau ymchwil, a nawdd &#8211; dyma ffyrdd o roi rhywbeth yn \u00f4l a dylanwadu&#8217;n gadarnhaol ar y genhedlaeth nesaf o raddedigion yr Ysgol.<\/p>\n<p>Mae wastad &#8220;bwlch&#8221; rhwng yr hyn y mae prifysgolion yn ei gynhyrchu a&#8217;r hyn y mae diwydiant ei eisiau. Dyma gyfle i fynd i&#8217;r afael \u00e2 hyn a rhoi adborth ynghylch pa sgiliau sydd eu hangen ar y diwydiant a pha heriau sydd ar y gorwel er m wyn i brifysgolion ymateb a rhoi hyfforddiant yn y meysydd allweddol hynny i leihau\u2019r bwlch.<\/p>\n<p>Peidiwch ag anghofio am Brifysgol Caerdydd &#8211; efallai y bydd angen ei graddedigion arnoch chi yn y dyfodol&#8230;<\/p>\n<figure id=\"post-10466 media-10466\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2025\/09\/Grace-Munyiri-Headshot-web.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h2>Grace Munyiri (MSc 2023)<\/h2>\n<p>Grace yw sylfaenydd <a href=\"http:\/\/www.cacumatormenorship.org\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cacumator Mentorship<\/a>, menter arobryn sy&#8217;n ceisio grymuso merched ifanc o Affrica drwy addysg, mentoriaeth a gwaith datblygu gyrfa ym maes STEM.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Yn ogystal \u00e2 gweithio<\/a> ym maes effaith gymdeithasol, mae hi&#8217;n wyddonydd data ac yn frwd dros ddeallusrwydd artiffisial, ac mae ganddi arbenigedd mewn gwyddor data, dysgu peirianyddol a thechnolegau sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg.<\/p>\n<p>Mae Grace yn cyfuno ei chefndir technegol ag angerdd dros arloesi cynhwysol, gan ddefnyddio data a thechnoleg i ddatrys problemau cymhleth wrth greu cyfleoedd i eraill.<\/p>\n<p><strong>Arhoswch yn wydn.<\/strong><\/p>\n<p>Ar \u00f4l graddio, roeddwn i&#8217;n meddwl bod llwyddiant yn golygu gwybod yn union beth roeddwn i eisiau ei wneud yn syth. Y gwir amdani yw, anaml y mae gyrfaoedd yn llinol; maen nhw&#8217;n datblygu&#8217;n raddol ac yn aml yn mynd i gyfeiriadau annisgwyl. Fy nghyngor yw aros yn chwilfrydig, buddsoddi mewn dysgu parhaus a manteisio ar y cyfleoedd sy&#8217;n eich herio i gamu i dir anghyfarwydd.<\/p>\n<p>Daeth rhai o fy mhrofiadau mwyaf gwerthfawr o ddweud \u2018ie\u2019 cyn i mi deimlo&#8217;n hollol barod. Mae rhwydweithio a mentora hefyd wedi cael effaith bwysig, oherwydd gall y bobl iawn ddatgloi cyfleoedd annisgwyl a chynnig cefnogaeth yn ystod cyfnodau anodd.<\/p>\n<p>Yn bwysicaf oll, credwch yn eich potensial, hyd yn oed pan nad yw\u2019r ffordd ymlaen yn glir. Mae twf yn cael ei sbarduno gan gysondeb, gwydnwch ac ymrwymiad dyddiol i ddysgu. Byddwch yn hyderus y bydd pob cam a gymerwch chi, ni waeth pa mor fach ydyw, yn llywio eich dyfodol.<\/p>\n<h2><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"font-size: 16px;margin: 8px 8px 0px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2025\/09\/Deio-Owen-Headshot-web.jpg\" alt=\"\" width=\"383\" height=\"383\" \/>Deio Owen (BA 2023)<\/h2>\n<p>Deio oedd Swyddog y Gymraeg llawn amser cyntaf Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ac roedd e\u2019n swyddog sabothol yn ystod 2023\/24. Mae bellach yn Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, yn cynrychioli myfyrwyr yng ngholegau a phrifysgolion Cymru, a phrentisiaid yng Nghymru. Mae hefyd yn un o Ymddiriedolwyr Urdd Gobaith Cymru, mudiad ieuenctid mwyaf Cymru. Astudiodd y Gymraeg a Gwleidyddiaeth.<\/p>\n<p><strong>Mae dyfalbarhad yn allweddol.<\/strong><\/p>\n<p>Peidiwch ag anghofio pwy ydych chi ac o ble rydych chi\u2019n dod. Rydych chi&#8217;n newid llawer yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol, p&#8217;un a ydych chi&#8217;n sylweddoli hynny ai peidio. Cofiwch am yr hyn a wnaeth eich ysgogi yn ystod eich astudiaethau a chadw&#8217;r un brwdfrydedd wrth adael y Brifysgol. Dyfal donc a dyr y garreg \u2013 dywediad Cymraeg \u2013 bydd dyfalbarhad yn talu ar ei ganfed, daliwch ati pan fydd pethau\u2019n anodd.<\/p>\n<p><strong>Yn barod i gysylltu \u00e2 chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\">Ymunwch \u00e2\u2019n gr\u0175p LinkedIn a dechrau rhwydweithio<\/a>.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae graddio yn garreg filltir enfawr, ond gall penderfynu beth yw\u2019r camau nesaf i chi deimlo'n frawychus. P'un a ydych chi'n chwilio am eich swydd gyntaf ar \u00f4l graddio, yn chwilio am gyfleoedd i rwydweithio neu'n dysgu am yr hyn y mae llwyddiant yn ei olygu i chi, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. ","protected":false},"author":904,"featured_media":10473,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[207,166,1975,170],"tags":[],"class_list":["post-10471","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-bossing-it-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-gyrfaoedd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10471","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10471"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10471\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10481,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10471\/revisions\/10481"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10473"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10471"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10471"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10471"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}