{"id":10452,"date":"2025-07-23T11:34:29","date_gmt":"2025-07-23T11:34:29","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10452"},"modified":"2025-07-23T11:34:29","modified_gmt":"2025-07-23T11:34:29","slug":"sut-i-osgoi-gorflino-bossing-it","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2025\/07\/23\/sut-i-osgoi-gorflino-bossing-it\/","title":{"rendered":"Sut i osgoi gorflino \u2013 Bossing It"},"content":{"rendered":"<p><strong>Yn y byd proffesiynol heddiw, gall y pwysau i berfformio deimlo&#8217;n ddi-baid, ond ni ddylai llwyddo ddod ar draul eich lles. P&#8217;un a ydych chi&#8217;n dringo&#8217;r ysgol gorfforaethol neu&#8217;n ceisio dod o hyd i gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, mae dysgu sut i amddiffyn eich egni a&#8217;ch iechyd meddwl yn allweddol er mwyn i chi ffynnu &#8211; nid goroesi yn unig &#8211; yn y gwaith. Gwnaethon ni siarad \u00e2 rhai o&#8217;n cymuned o gyn-fyfyrwyr anhygoel sydd wedi cynnig eu safbwyntiau ar sut i osgoi gorflino yn y gweithle.<\/strong><\/p>\n<figure id=\"post-10448 media-10448\" class=\"image align-left\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2025\/07\/Togzhan-Headshot-web.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h2>Togzhan Talibayeva (BSc 2017, MSc 2018)<\/h2>\n<p>Mae Togzhan yn Rheolwr Marchnata Digidol yng nghwmni Gridlines, gwasanaeth ymgynghori modelu ariannol byd-eang. Mae hi\u2019n arbenigo ym maes strategaeth, cynnwys, a marchnata ar sail perfformiad gyda ffocws ar dwf sy\u2019n cael ei arwain gan ddata.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l cwblhau ei gradd israddedig a\u2019i gradd meistr ym Mhrifysgol Caerdydd, datblygodd ei gyrfa ym maes y gwasanaethau proffesiynol. Mae gan Togzhan ddiddordeb penodol yn y cysylltiad rhwng marchnata, gwerthu a systemau gyda ffocws hirdymor ar weithrediadau refeniw, technoleg marchnata, a dod o hyd i adnoddau sy\u2019n helpu i wneud timau yn fwy cynhyrchiol ac effeithiol yn fasnachol.<\/p>\n<p><strong>Gosodwch eich ffiniau eich hun<\/strong><\/p>\n<p>Nid yw gorludded yn golygu gweithio gormod yn unig. Mae&#8217;n ymwneud \u00e2 gweithio heb gael y cyfle i gamu\u2019n \u00f4l neu weld y darlun ehangach. O ran marchnata digidol mae yna wastad ymgyrch arall i&#8217;w haddasu, neu adroddiad arall i&#8217;w ddadansoddi. Rwy wedi dysgu i fod yn agored am fy llwyth gwaith ac i dynnu sylw at bethau\u2019n gynnar os ydyn nhw\u2019n mynd yn ormod. Mae hefyd yn helpu&#8217;r t\u00eem i gynllunio&#8217;n well.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n neilltuo amser i ganolbwyntio ar waith pwysig heb unrhyw ymyriadau. Rwy&#8217;n dewis peidio mynd i gyfarfodydd lle nad oes angen i mi gyfrannu ac yn defnyddio hidlydd effaith-ymdrech cyflym i ganolbwyntio ar beth sydd wir yn gwneud gwahaniaeth. Gan amlaf, rwy&#8217;n anelu at gyflawni tri pheth pwysig y dydd. Rydyn ni hefyd yn agored am faint o waith sydd gennym ni er mwyn gwneud yn si\u0175r bod neb yn dioddef mewn tawelwch.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n gosod nodau sy&#8217;n fy ysbrydoli i ac yn rhoi egni i mi, a chanolbwyntio ar ble rwy eisiau mynd a phwy rwy eisiau bod. Mae hynny&#8217;n fy helpu i ganolbwyntio. Ac rwy&#8217;n ceisio bod yn garedig gyda fy hun. Mae rhai diwrnodau\u2019n wych, a rhai ddim. Mae hynny&#8217;n iawn.<\/p>\n<p>Ar lefel bersonol? Rwy\u2019n ceisio peidio \u00e2 dechrau fy niwrnod yn gweithio. Rwy&#8217;n deffro ac yn mynd am dro, i&#8217;r gampfa, neu i ddarllen llyfr. Pan rwy&#8217;n gwneud hynny, mae&#8217;n newid naws popeth.<\/p>\n<h2>Shelley Pascual (MA 2017)<\/h2>\n<figure id=\"post-10449 media-10449\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2025\/07\/Shelley-web.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/shelleypascual\/\">Shelley<\/a> yn Uwch Arbenigwr Cyfathrebu gyda chwmni Siemens Healthineers, gyda dros ddegawd o brofiad rhyngwladol mewn busnesau newydd a chorfforaethau. Yn gyn-newyddiadurwr, mae hi&#8217;n mwynhau llunio straeon a chynnwys sy&#8217;n helpu pobl yn y pen draw.<\/p>\n<p>Y tu allan i&#8217;r gwaith, mae hi wrth ei bodd yn gweld y byd gyda&#8217;i theulu, mynd ar anturiaethau dyddiol gyda&#8217;i phlentyn bach, pobi, a herio ei hun i roi cynnig ar bethau newydd \u2013 o sg\u00efo i ddysgu Eidaleg.<\/p>\n<p><strong>Cymryd rhan mewn gweithgareddau i ddadflino<\/strong><\/p>\n<p>Ar \u00f4l dod yn agos at orweithio ychydig o weithiau, rwy wedi dysgu blaenoriaethu gweithgareddau sy&#8217;n fy helpu i ddadflino, megis ysgrifennu mewn dyddiadur wrth fwyta brecwast, gwneud Pilates yn ystod amser egwyl a chael sgyrsiau rhithwir ysbrydoledig gyda chydweithwyr wrth gerdded yn yr awyr agored.<\/p>\n<p>Dros y blynyddoedd diwethaf, rwy wedi dysgu sefydlu ffiniau iach trwy therapi. Mae hyn yn cynnwys cadw at amseroedd penodol ar gyfer cau fy ngliniadur ar ddiwedd y dydd, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur. Mae fy therapydd hefyd wedi pwysleisio pwysigrwydd cymryd rhan mewn hob\u00efau. Mae cymryd rhan mewn prosiectau ysgrifennu ystyrlon wedi caniat\u00e1u i mi ddod o hyd i gydbwysedd a chyflawniad gan fy atgoffa mai dim ond un agwedd ar fy mywyd yw fy ngyrfa.<\/p>\n<figure id=\"post-10450 media-10450\" class=\"image align-left\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2025\/07\/Liz-Cochlin-web.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h2>Liz Cochlin (BA 2000)<\/h2>\n<p>Mae Liz (hi) yn arweinydd technoleg medrus sydd \u00e2 hanes diamheuol o ysgogi trawsnewidiadau digidol ar raddfeydd mawr a meithrin timau sy\u2019n rhagori. A hithau wedi ennill y wobr CIO 100 fawreddog yn 2024, mae gan Liz brofiad helaeth ym maes Gweithrediadau TG, Seiberddiogelwch, Pensaern\u00efaeth TG, a Rheoli Prosiectau. Mae hi&#8217;n eiriolwr cryf dros les yn y gweithle, yn angerddol am wella prosesau, chwalu rhwystrau, a chreu amgylcheddau lle gall unigolion ffynnu. Mae Liz yn mynd ati\u2019n rhagweithiol i fentora yng nghymuned Menywod ym maes Technoleg ac mae wedi ymrwymo i addysgu ymwybyddiaeth ofalgar yn y gweithle a thu hwnt. Ar hyn o bryd, mae hi&#8217;n arwain gwasanaethau technoleg English Heritage, lle mae&#8217;n llywio proses trawsnewid digidol cyffrous, ac yn aelod o fwrdd Academi Gwyddor Data Prifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p><strong>Ystyriwch wneud pethau\u2019n raddol<\/strong><\/p>\n<p>Mae gorflino\u2019n rhywbeth rwy wedi&#8217;i brofi fwy nag unwaith yn fy ngyrfa ac un o&#8217;r technegau rwy wedi dysgu amdani yw gwneud pethau\u2019n raddol. Mae&#8217;n hawdd mynd i batrwm &#8216;ffynnu a methu&#8217; lle byddwn ni\u2019n gorweithio am gyfnodau ac yna\u2019n curo wal, gan deimlo ein bod wedi&#8217;n llethu a bod y tanc yn wag. Ceisiwch ddod yn fwy ymwybodol o&#8217;r egni sydd gennych chi a sut mae\u2019n amrywio trwy gydol y dydd, yr wythnos a&#8217;r mis. Sylwch ar y gweithgareddau sy&#8217;n rhoi hwb i\u2019ch egni a\u2019r rhai sy&#8217;n eich blino. Yna daw hi&#8217;n haws cynllunio amserlen realistig sy&#8217;n gynaliadwy i chi a&#8217;ch anghenion unigol.<\/p>\n<p><strong>Yn barod i gysylltu \u00e2 chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\">Ymunwch \u00e2\u2019n gr\u0175p LinkedIn a dechrau rhwydweithio<\/a>.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn y byd proffesiynol heddiw, gall y pwysau i berfformio deimlo'n ddi-baid, ond ni ddylai llwyddo ddod ar draul eich lles. P'un a ydych chi'n dringo'r ysgol gorfforaethol neu'n ceisio dod o hyd i gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, mae dysgu sut i amddiffyn eich egni a'ch iechyd meddwl yn allweddol er mwyn i chi ffynnu - nid goroesi yn unig - yn y gwaith.","protected":false},"author":904,"featured_media":10439,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[207,166,1975,170],"tags":[],"class_list":["post-10452","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-bossing-it-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-gyrfaoedd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10452","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10452"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10452\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10455,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10452\/revisions\/10455"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10439"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10452"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10452"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10452"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}