{"id":10400,"date":"2025-06-05T10:09:29","date_gmt":"2025-06-05T10:09:29","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10400"},"modified":"2025-06-05T10:09:29","modified_gmt":"2025-06-05T10:09:29","slug":"fy-mhrofiad-o-fenywod-yn-mentora-emma-young-bsc-1996","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2025\/06\/05\/fy-mhrofiad-o-fenywod-yn-mentora-emma-young-bsc-1996\/","title":{"rendered":"Fy mhrofiad o Fenywod yn Mentora \u2013 Emma Young (BSc 1996)"},"content":{"rendered":"<p><strong>Awdur yw Emma Young (BSc 1996). Hi hefyd yw sefydlydd a Chyfarwyddwr Emma Young Consulting Ltd. Mae\u2019n gynghorydd cynaliadwyedd annibynnol, ac mae ganddi ddiddordeb angerddol mewn gallu straeon i newid y byd. Mae wedi treulio dros 20 mlynedd yn y proffesiwn, gan gynnwys naw mlynedd yn BT Group lle bu\u2019n creu ac yn arwain strategaeth gyfathrebu\u2019r cwmni rhyngwladol ym maes cynaliadwyedd.<\/strong><\/p>\n<p>Ers dod yn gynghorydd annibynnol yn 2013, mae Emma wedi gweithio gydag ystod eang o gleientiaid, gan roi arweiniad strategol, rhannu ei harbenigedd mewn cyfathrebu ac ymgysylltu, a rheoli\u2019r gwaith o gyflwyno adroddiadau ar gynaliadwyedd.<\/p>\n<p>Cymerodd Emma ran yn ein <a href=\"https:\/\/discover.cardiff.ac.uk\/cy\/menywod-yn-mentora\/\">cynllun Menywod yn Mentora yn 2025<\/a>, a oedd wedi paru 26 o fentoriaid \u00e2 mentoreion ar ddechrau eu gyrfaoedd. Mae hi&#8217;n rhannu ei phrofiadau o fod yn fentor a&#8217;r cipolwg gwerthfawr a gafodd drwy gymryd rhan yn y rhaglen.<\/p>\n<h4>Pam gwnaethoch chi benderfynu ymuno \u00e2 chynllun Menywod yn Mentora i fod yn fentor?<\/h4>\n<p>Penderfynais i\u2019n syth bod yn rhaid i mi ymuno \u2013 er fy mod i wedi bod yn gweithio am amser hir, rwy erioed wedi cael mentor fy hun. Pan o\u2019n i\u2019n gweithio mewn amgylchedd corfforaethol, doedd dim rhaglen swyddogol ar gael, a do\u2019n i ddim yn teimlo\u2019n ddigon hyderus i ofyn i uwch-arweinwyr fy mentora i.<\/p>\n<p>Ers hynny, rwy wedi mentora pobl eraill drwy gyrff proffesiynol, ond dw i erioed wedi cael fy mharu \u00e2 mentor fy hun. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, dwi wedi gweithio gyda hyfforddwr busnes arbennig. Rwy hefyd yn coetsio awduron sy\u2019n dod i\u2019r amlwg ac sy\u2019n cael trafferth goresgyn problemau gyda&#8217;u hyder. Felly, yr ateb byr yw, ro\u2019n i eisiau cynnig y math o gymorth ro\u2019n i ei angen fy hun ar un adeg.<\/p>\n<h4>Pam mae cynllun o\u2019r fath yn bwysig i chi?<\/h4>\n<p>Dw i&#8217;n meddwl bod rhai menywod yn poeni am ofyn am arweiniad a chymorth. Rwy\u2019n gwybod y gwnes i deimlo fel hynny. Os nad ydych chi\u2019n mynd ar \u00f4l twf personol neu broffesiynol, gallwch chi golli&#8217;r cyfleoedd sydd ar gael. Mae cynlluniau megis Menywod yn Mentora yn werthfawr iawn gan eu bod yn cynnig ffyrdd haws o groesawu cyfleoedd a thwf.<\/p>\n<p>Yr hyn dw i wedi\u2019i ddysgu dros y blynyddoedd yw bod pobl ddawnus dawel yn aml yn cael eu diystyru tra bod pobl llai dawnus sy\u2019n fodlon codi eu llais yn cael y sylw. Pan fydd menywod yn cael cymorth i wneud eu hunain yn amlwg, mae pawb yn elwa, gan gynnwys sefydliadau.<\/p>\n<h4>Allwch chi ddweud wrthyn ni am yr hyn sydd ynghlwm wrth y mentora?<\/h4>\n<p>Rwy&#8217;n cynnig pedair sesiwn un-i-un wythnosol i fy mentoreion. Mae pob un yn para tua hanner awr. Sylweddolais i fod sesiynau un-i-un yn arwain at drafodaethau mwy buddiol a gonest. Diben y sesiwn gyntaf yw &#8216;dod i&#8217;ch adnabod chi&#8217;, lle byddwn ni\u2019n canolbwyntio ar yr hyn y mae&#8217;r mentoreion eisiau ei drafod fwyaf. O hynny ymlaen, rwy&#8217;n cynllunio&#8217;r sesiynau sy&#8217;n weddill i ganoli\u2019n bennaf ar eu nod.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l pob cyfarfod, rwy&#8217;n anfon crynodeb byr sy\u2019n cynnwys nodiadau, myfyrdodau ac enwau unrhyw lyfrau, erthyglau neu adnoddau perthnasol. Os oes ganddyn nhw rywbeth pwysig ar y gweill, megis cyfweliad, bydda i\u2019n ceisio anfon neges atyn nhw ar y diwrnod oherwydd, weithiau, mae angen i ni gydwybod bod rhywun yn meddwl amdanon ni.<\/p>\n<h4>Sut mae\u2019r mentora wedi cael effaith gadarnhaol ar eich gyrfa?<\/h4>\n<p>Er nad ydw i wedi cael mentor ffurfiol, mae gweithio gyda hyfforddwr wedi newid pethau\u2019n sylweddol i fi. Ac mae mentora eraill wedi bod yr un mor werthfawr \u2013 dw i&#8217;n dysgu rhywbeth newydd bob tro. Mae&#8217;n broses ddwyffordd o gyfnewid gwybodaeth a chael cymorth, ac rwy&#8217;n credu&#8217;n gryf fy mod i&#8217;n elwa o hynny cymaint \u00e2&#8217;r mentoreion.Rhannwch un awgrym defnyddiol y byddech chi\u2019n ei roi i fenywod ar ddechrau eu gyrfaoedd\/chi eich hun pan oeddech chi\u2019n iau.<\/p>\n<p>Dw i ddim yn hoffi rhoi cyngor cyffredinol oherwydd bod llwybr pawb mor bersonol. Ond pe gallwn i ddweud un peth wrthyf fi fy hun pan oeddwn i\u2019n iau, byddwn i\u2019n dweud: treulia amser ar geisio deall pwy wyt ti.<\/p>\n<p>Dim ots a yw hynny\u2019n golygu mynd i therapi, dod o hyd i hyfforddwr neu fentor, ysgrifennu mewn dyddiadur, mynd ar enciliadau \u2013 gwnewch beth bynnag sy\u2019n eich helpu i ddeall beth sy\u2019n eich ysgogi a pham, gan fod y math yna o hunan-wybodaeth yn archb\u0175er.Rwy&#8217;n teimlo fel fy mod i wedi bod ar daith bersonol drwy gydol fy mywyd, ond erbyn hyn, yn ystod ail hanner fy mywyd, rwy\u2019n teimlo o\u2019r diwedd bod gen i syniad da o bwy ydw i a beth sydd ei eisiau arna i. Mae\u2019n debyg i gael canllaw cynhwysfawr ar gyfer technoleg ddryslyd yn lle chwilio am atebion mewn fforymau i ddefnyddwyr! Ac, yn olaf, byddwch yn garedig. Bob amser. Oherwydd bod hynny\u2019n archb\u0175er, hefyd.<\/p>\n<p>Rhowch eich amser, eich arbenigedd a&#8217;ch profiad i gefnogi ac ysbrydoli myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr eraill. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/volunteer\">Darllen mwy<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Awdur yw Emma Young (BSc 1996). Hi hefyd yw sefydlydd a Chyfarwyddwr Emma Young Consulting Ltd. Cymerodd Emma ran yn ein cynllun Menywod yn Mentora yn 2025, a oedd wedi paru 26 o fentoriaid \u00e2 mentoreion ar ddechrau eu gyrfaoedd. Mae hi'n rhannu ei phrofiadau o fod yn fentor a'r cipolwg gwerthfawr a gafodd drwy gymryd rhan yn y rhaglen. ","protected":false},"author":1812,"featured_media":10395,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170],"tags":[],"class_list":["post-10400","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10400","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1812"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10400"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10400\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10401,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10400\/revisions\/10401"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10395"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10400"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10400"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10400"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}