{"id":10374,"date":"2025-05-27T14:26:40","date_gmt":"2025-05-27T14:26:40","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10374"},"modified":"2025-06-03T08:17:55","modified_gmt":"2025-06-03T08:17:55","slug":"dathlu-wythnos-y-gwirfoddolwyr-2025","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2025\/05\/27\/dathlu-wythnos-y-gwirfoddolwyr-2025\/","title":{"rendered":"Dathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr 2025"},"content":{"rendered":"<h2>Dathlu <strong>11,274<\/strong> o oriau o wirfoddoli gan gyn-fyfyrwyr!<\/h2>\n<p><strong>Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol a gynhelir o ddydd Llun 2 Mehefin i ddydd Sul 8 Mehefin i gydnabod cyfraniad miliynau o bobl ledled y DU trwy wirfoddoli yn eu cymunedau.\u00a0\u00a0\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Bob blwyddyn, mae cyn-fyfyrwyr gwych sy\u2019n gwirfoddoli yn cael cryn effaith ar bopeth a wnawn yma ym Mhrifysgol Caerdydd, boed hynny&#8217;n cefnogi myfyrwyr drwy gynlluniau mentora, llywio strategaeth y Brifysgol, bod yn rhan o Gangen Cyn-fyfyrwyr, dychwelyd yma i roi cyflwyniad ar yrfaoedd i ysbrydoli&#8217;r genhedlaeth nesaf o raddedigion, neu gynnig interniaethau i&#8217;n myfyrwyr i gael profiad mewn diwydiant wrth gwblhau eu hastudiaethau.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<figure id=\"post-10375 media-10375\" class=\"image align-left\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2025\/05\/Vols-Week-Graphic-2025-update-CYM.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae ein cyn-fyfyrwyr sy\u2019n gwirfoddoli wedi rhannu eu profiadau a s\u00f4n am y boddhad maen nhw\u2019n ei gael wrth wneud hynny.<\/p>\n<h3>Dr Mark Davies (BEng 1994, PhD 1999)<\/h3>\n<p>Derbyniodd Mark a\u2019i gwmni fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd yn intern am saith wythnos dros yr haf, gan ei helpu i fagu profiad, datblygu sgiliau a pharatoi ar gyfer byd gwaith. <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2025\/03\/14\/drwy-dderbyn-myfyriwr-yn-intern-roedd-pawb-ar-eu-hennill\/\">Darllen mwy<\/a>.<\/p>\n<p><em>&#8220;Uchafbwynt cynnig lleoliad gwaith i fyfyriwr oedd cael unigolyn galluog a brwdfrydig oedd yn gallu canolbwyntio\u2019n llwyr ar brosiect. Oherwydd hynny, roedd modd symud y gwaith yn ei flaen yn llawer cyflymach. Roedd yr interniaeth yn ffordd wych i RINA ddatblygu prosiect arloesi a allai fod wedi\u2019i roi o\u2019r neilltu fel arall oherwydd pwysau amser. Mae hefyd wedi rhoi cyfle i Harvy gael profiad gwerthfawr a datblygu i ategu ei astudiaethau academaidd, a fydd yn gwella ei gyflogadwyedd, gobeithio. Mae pawb ar eu hennill!&#8221;<\/em><\/p>\n<h3>Emma Young (BSc 1996)<\/h3>\n<p>Cymerodd Joanna ran yn ein cynllun Menywod yn Mentora yn 2025 a oedd wedi paru 26 o fentoriaid gyda mentoreion ar ddechrau eu gyrfa.<\/p>\n<p><em>&#8220;Rwy&#8217;n credu bod rhai menywod yn oedi cyn gofyn am arweiniad a chefnogaeth. Dyna wnes i. Os nad ydych chi\u2019n berson sy\u2019n gwthio&#8217;ch hun ymlaen wrth hyrwyddo eich datblygiad personol neu broffesiynol, gallwch chi golli&#8217;r cyfleoedd sydd ar gael. Mae cynlluniau fel Menywod yn Mentora yn amhrisiadwy gan eu bod yn ffyrdd haws o fanteisio ar gyfleoedd ar gyfer twf. Er nad ydw i wedi cael mentor ffurfiol, mae gweithio gyda hyfforddwr wedi fy nhrawsnewid. Ac mae mentora eraill wedi bod yr un mor werthfawr \u2014 dwi&#8217;n dysgu rhywbeth newydd bob tro. Mae&#8217;n broses ddwyffordd o gyfnewid gwybodaeth a chefnogaeth, ac rwy&#8217;n credu&#8217;n gryf fy mod i&#8217;n elwa cymaint \u00e2&#8217;r mentoreion.&#8221;<\/em><\/p>\n<h3>Jingrui Yang (MBA 2004)<\/h3>\n<p>Mae Jingrui yn un o arweinwyr cangen Cyn-fyfyrwyr Tsieineaidd Prifysgol Caerdydd (CUCA). <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/stay-connected\/alumni-chapters-and-groups\">Dysgwch fwy am Canghennau cynfyfyrwyr.<\/a><\/p>\n<p><em>&#8220;Mae&#8217;n bleser mawr i mi weithio ar y cyd \u00e2&#8217;r holl ganghennau a chyn-fyfyrwyr gyda&#8217;i gilydd i roi ein gweithgareddau ar waith, gan droi&#8217;r syniadau da hynny yn realiti. Mae&#8217;n cyfle pwysig i ni ddysgu. Graddiais gyda MBA 23 mlynedd yn \u00f4l ac mae&#8217;n gyfle gwych i gysylltu \u00e2 chyn-fyfyrwyr y genhedlaeth hon hefyd. Fel y dywed arwyddair Prifysgol Caerdydd, gwirionedd, undod a chytgord. Dylai&#8217;r rhain hefyd fod yn hanfodion y Canghennau Cyn-fyfyrwyr. Dylen ni feddwl am sut i wneud yn si\u0175r bod ein cymuned o gyn-fyfyrwyr yn teimlo&#8217;n rhan o&#8217;r broses, yn ogystal \u00e2\u2019u bod yn cael eu hysgogi a&#8217;u gofalu trwy waith ein gwirfoddolwyr yn ystod eu bywyd ar \u00f4l graddio a thu hwnt.&#8221;<\/em><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\"><strong>Ni fyddai\u2019n bosib cyflawni\u2019r hyn rydyn ni\u2019n ei wneud heb wirfoddolwyr gwych, felly os hoffech chi roi rhywbeth yn \u00f4l, dewch i gymryd rhan. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/volunteer\">Darganfod mwy<\/a>.<\/strong><\/span><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol a gynhelir o ddydd Llun 2 Mehefin i ddydd Sul 8 Mehefin i gydnabod cyfraniad miliynau o bobl ledled y DU trwy wirfoddoli yn eu cymunedau.\u00a0\u00a0\u00a0","protected":false},"author":904,"featured_media":10358,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[170],"tags":[],"class_list":["post-10374","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10374","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10374"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10374\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10380,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10374\/revisions\/10380"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10358"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10374"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10374"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10374"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}