{"id":10346,"date":"2025-05-14T10:06:54","date_gmt":"2025-05-14T10:06:54","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10346"},"modified":"2025-05-14T10:18:47","modified_gmt":"2025-05-14T10:18:47","slug":"y-peth-pwysicaf-i-mi-ywr-ffrindiau-rydw-i-wedi-cwrdd-a-nhw-ailgysylltu-a-phrifysgol-caerdydd-ddegawdau-yn-ddiweddarach","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2025\/05\/14\/y-peth-pwysicaf-i-mi-ywr-ffrindiau-rydw-i-wedi-cwrdd-a-nhw-ailgysylltu-a-phrifysgol-caerdydd-ddegawdau-yn-ddiweddarach\/","title":{"rendered":"\u201cY peth pwysicaf i mi yw&#8217;r ffrindiau rydw i wedi cwrdd \u00e2 nhw\u201d: ailgysylltu \u00e2 Phrifysgol Caerdydd ddegawdau yn ddiweddarach"},"content":{"rendered":"<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Peiriannydd yw Joseph Rapoport (MA 1990) ac mae\u2019n byw yn Houston, Texas. 18 mlynedd ar \u00f4l gorffen ei radd meistr mewn Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd, sefydlodd gr\u0175p LinkedIn gan ddod \u00e2 chyd-gyn-fyfyrwyr ynghyd yn yr Unol Daleithiau. Dyma Joseph yn myfyrio ar gadw mewn cysylltiad \u00e2 Phrifysgol Caerdydd, hyd yn oed o ochr arall yr Iwerydd.<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">\u201cBob hyn a hyn rwy&#8217;n hiraethu am fy ail gartref \u2013 Caerdydd,\u201d meddai Joseph. \u201cFe wnes i fwynhau fy amser yn y Brifysgol yn fawr ac mae gen i lawer o atgofion gwych gyda ffrindiau.\u201d<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Gan ei fod wedi astudio ei radd israddedig yn Texas, roedd Joseph yn ymwybodol bod pobl leol Houston yn dod at ei gilydd o bryd i&#8217;w gilydd i wylio gemau chwaraeon colegol. Mae cymdeithasau cyn-fyfyrwyr yn boblogaidd iawn yn UDA, ac maen nhw\u2019n ffordd ddefnyddiol o aros mewn cysylltiad \u00e2 chymuned coleg. Ysbrydolodd hyn Joseph i ddod \u00e2 chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd at ei gilydd &#8211; boed am ddiod, sgwrs, neu ychydig o rwydweithio. Y canlyniad oedd gr\u0175p LinkedIn, lle gallai Joseph drefnu cyfarfodydd, rhannu newyddion, a chadw mewn cysylltiad \u00e2 ffrindiau yng Nghymru.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Ers dechrau\u2019r gr\u0175p yn 2008, ymunodd dros 5,500 o gyn-fyfyrwyr o bedwar ban byd. Mae Joseph hyd yn oed wedi ailgysylltu \u00e2 ffrindiau yr oedd wedi colli cysylltiad \u00e2 nhw ers iddo raddio ym 1990. \u201cY peth pwysicaf i mi yw&#8217;r ffrindiau rydw i wedi cwrdd \u00e2 nhw ac yn dal i fod yn ffrindiau \u00e2 nhw,\u201d meddai. \u201cAr \u00f4l 36 mlynedd, mae ein cyfeillgarwch wedi gwrthsefyll amser a phellter ac yn mynd o nerth i nerth.\u201d<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Yn dilyn arweiniad Joseph, mae <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\">gr\u0175p swyddogol LinkedIn<\/a> bellach ar gael i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/stay-connected\/alumni-chapters-and-groups\">canghennau a grwpiau cyn-fyfyrwyr<\/a> rhyngwladol all-lein hefyd yn gyfle i ailgysylltu a rhwydweithio \u2013 o Efrog Newydd i Hong Kong, mae cymunedau Caerdydd yn dod at ei gilydd i rannu newyddion a chyfleoedd.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Yn y dyfodol, byddai Joseph wrth ei fodd yn gweld <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/stay-connected\/reunions\">digwyddiadau pellach yn cael eu<\/a> trefnu trwy LinkedIn, yn debyg iawn i&#8217;r cyfarfodydd sy\u2019n digwydd yn Houston. \u201cFe wnes i ymweld \u00e2 Chaerdydd ar ddechrau&#8217;r 2000au a gweld fy athrawon a darlithwyr, yn ogystal \u00e2 mwynhau bwyd gwych gyda fy ffrindiau a oedd yn dal i fyw o amgylch Caerdydd,\u201d meddai. Ers hynny, mae cannoedd o gyn-fyfyrwyr wedi dod at ei gilydd ar gyfer \u201cNosweithiau i ail-groesawu myfyrwyr&#8217;\u201d bywiog yn <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/media\/set\/?set=a.631876241885907&amp;type=3\">2022<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/media\/set\/?set=a.1152989053107954&amp;type=3\">2024<\/a>. Fis Awst, <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/events\/view\/2894737-80s-re-freshers-night\">byddwn ni\u2019n croesawu cyn-fyfyrwyr o\u2019r 1980au i droi&#8217;r cloc yn \u00f4l<\/a> yn Undeb y Myfyrwyr.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae gan Joseph atgofion melys o\u2019i holl ffrindiau a&#8217;r lleoedd y bu&#8217;n byw yn ystod ei gyfnod yn fyfyriwr. \u201cYn fy mlwyddyn gyntaf, roeddwn i&#8217;n byw yn Neuadd y Brifysgol ac fe wnes i dreulio ychydig nosweithiau yn eu tafarn yn chwarae p\u0175l ac yn cwrdd \u00e2 ffrindiau newydd. Yn yr ail flwyddyn, roeddwn i&#8217;n byw mewn t\u0177 ar Heol Colum gyda myfyrwyr o Ffrainc, Cernyw, Gwlad Pwyl, ac Ynysoedd Philippines. Roedd profi gwahanol ddiwylliannau a bwydydd yn wych.\u201d<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">P&#8217;un a ydych yn dewis dychwelyd i Gaerdydd neu ddod ynghyd \u00e2 chyn-fyfyrwyr mewn dinas arall, mae aduniadau yn ffordd wych o aros mewn cysylltiad \u00e2&#8217;ch alma mater. Yn sicr, mae Joseph yn eiriolwr dros deithiau i brifddinas Cymru.\u00a0 Dyma rhai o\u2019i uchafbwyntiau: \u201cRoeddwn i wrth fy modd gyda fy nhaith i Ynys y Barri gyda Dr Chris Williams a&#8217;i deulu, gwleddoedd gyda ffrindiau yn Bo Zan, a phrydau Eidalaidd bendigedig yn Lucianos. Gwelais Theatr Frenhinol Cymru hefyd yn perfformio Henry IV gan Pirandello, gyda&#8217;r actor gwych, Richard Harris, yn chwarae\u2019r brif ran.\u201d<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae un peth yn sicr &#8211; p&#8217;un a ydych chi&#8217;n awyddus i gael blas ar fyd celfyddydol Cymru, mynd ar daith fwyd o amgylch Heol Albany, neu fynd ar daith i lawr Chippy Lane, bydd Caerdydd yn falch o\u2019ch croesawu chi gartref.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Barod i ymuno \u00e2&#8217;n gr\u0175p ar-lein i gyn-fyfyrwyr Caerdydd? <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\">Ewch i LinkedIn.<\/a> Gallwch chi hefyd ddod<\/strong> <strong>o hyd i Gangen Cyn-fyfyrwyr yn agos atoch chi<\/strong> <strong>neu ailgysylltu \u00e2 hen ffrindiau drwy <\/strong><a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/CardiffUniAlumni\/groups\"><strong>un o&#8217;n grwpiau Facebook i gyn-fyfyrwyr<\/strong><\/a>.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Os oes gennych chi ddiddordeb mewn trefnu eich aduniad eich hun, edrychwch ar rai <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/stay-connected\/reunions\"><strong>awgrymiadau ac adnoddau allweddol i&#8217;ch helpu i<\/strong><\/a> <strong>gynllunio digwyddiad. I weld rhagor o atgofion o Gaerdydd gan ein cymuned o gyn-fyfyrwyr,<\/strong> <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=dzOkMKJ9nG8&amp;list=PLBbUDRHpmzVu-jfRjAcsffl3w9bcPB4E9\"><strong>ewch i&#8217;n sianel YouTube<\/strong><\/a><strong>. <\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Peiriannydd yw Joseph Rapoport (MA 1990) ac mae\u2019n byw yn Houston, Texas. 18 mlynedd ar \u00f4l gorffen ei radd meistr mewn Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd, sefydlodd gr\u0175p LinkedIn gan ddod \u00e2 chyd-gyn-fyfyrwyr ynghyd yn yr Unol Daleithiau.","protected":false},"author":904,"featured_media":10350,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170,203],"tags":[],"class_list":["post-10346","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10346","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10346"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10346\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10355,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10346\/revisions\/10355"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10350"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10346"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10346"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10346"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}