{"id":10315,"date":"2025-04-28T10:31:41","date_gmt":"2025-04-28T10:31:41","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10315"},"modified":"2025-04-28T10:51:44","modified_gmt":"2025-04-28T10:51:44","slug":"cymryd-camau-i-ddatblygu-gyrfa-i-gyn-fyfyrwyr-gan-gyn-fyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2025\/04\/28\/cymryd-camau-i-ddatblygu-gyrfa-i-gyn-fyfyrwyr-gan-gyn-fyfyrwyr\/","title":{"rendered":"Cymryd camau i ddatblygu gyrfa \u2013 I Gyn-fyfyrwyr, Gan Gyn-fyfyrwyr"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/dr-adeola-agbato\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Dr Deola Agbato (MBA 1997)<\/a> yn gyn-fyfyriwr o Ysgol Busnes Caerdydd, gyda dros ddau ddegawd o brofiad ym maes bancio. Mae hi&#8217;n angerddol am ddatblygu a grymuso talent i wella cynaliadwyedd a thwf sefydliadau. Yma, mae hi\u2019n rhannu ei syniadau ar sut i ddatblygu&#8217;n broffesiynol, hyd yn oed wrth ymdopi \u00e2 gwahanol flaenoriaethau.<\/strong><\/p>\n<p>Tua dwy flynedd yn \u00f4l, sylweddolais fy mod eisiau cymryd camau i ddatblygu fy ngyrfa. Felly, ar \u00f4l pendroni dipyn, penderfynais ariannu fy hun ac ymrestru ar raglen mentora i baratoi menywod i fod ar Fwrdd a drefnwyd gan Women in Management and Business and Public Service and Management (WimBiz). Yn ystod y rhaglen honno, dysgais lawer o wybodaeth ddefnyddiol sydd wedi helpu i ddatblygu fy ngyrfa.<\/p>\n<ol>\n<li>\n<h3>Datblygu eich brand ar-lein<\/h3>\n<p>Un o&#8217;r pethau hyn a ddysgwyd oedd bod angen gwelededd brand. Cyn y rhaglen, byddwn i\u2019n dweud nad oeddwn i\u2019n ystyried fy hun i fod yn frand ac roeddwn i\u2019n anweledig yn broffesiynol. Doeddwn i ddim yn defnyddio fy nhudalen LinkedIn i wella fy mhroffil gyrfa. Felly, ar \u00f4l y rhaglen, fe ddiweddarais fy nhudalen a fy llun proffil i wneud fy hun yn fwy gweladwy ac i dynnu sylw at fy hun yn broffesiynol, gan fod y farchnad swyddi fyd-eang bellach ar y cyfryngau cymdeithasol.<\/p>\n<p>I gael rhagor o gyngor ar sut i dynnu sylw at eich hun ar-lein, <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2025\/01\/22\/sut-mae-bod-ar-y-blaen-ar-lein-bossing-it\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">cymerwch gipolwg ar rai o\u2019r awgrymiadau defnyddiol gan gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd<\/a>.<\/li>\n<li>\n<h3>Dod yn &#8216;arweinydd meddyliau&#8217;<\/h3>\n<p>Hefyd, dechreuais i wneud ymdrech i roi negeseuon ar LinkedIn yn fwy rheolaidd, gan ddangos fy mod yn arweinydd meddyliau yn fy maes. Mae&#8217;r ymdrechion hyn wedi bod yn ddefnyddiol, gan ei fod wedi arwain at swydd ar y Bwrdd Cynghori gyda Harvard Business Review, sef gr\u0175p o ymchwilwyr proffesiynol wedi\u2019u dewis. Darllenais i yn rhywle y dylech chi herio eich hun bob blwyddyn &#8211; gwnewch rywbeth rydych chi\u2019n ei ofni a byddwch chi\u2019n datblygu. Felly, eleni, heriais fy hun i fanteisio ar bob cyfle a chyflwyno mewn digwyddiadau arwain meddyliau. Yn bersonol, roedd y digwyddiadau wedi rhoi boddhad i mi ac rwy\u2019n edrych ymlaen at ddigwyddiadau cyflwyno o\u2019r fath yn y dyfodol agos.<\/li>\n<li>\n<h3>Rhwydweithio, rhwydweithio, rhwydweithio<\/h3>\n<p>Tra roeddwn i\u2019n fyfyriwr yn Ysgol Busnes Caerdydd, b\u00fbm yn rhwydweithio \u00e2 chyn-fyfyrwyr ar y cwrs a oedd yn dod o wledydd amrywiol ledled y byd: Affrica, Asia ac Ewrop. Drwy rwydweithio ym Mhrifysgol Caerdydd, mae wedi fy helpu i werthfawrogi a deall diwylliannau eraill, a sylweddoli ein bod ni i gyd yn fodau dynol wedi&#8217;r cyfan. Er hynny, pan ddechreuais i weithio a magu teulu, doeddwn i ddim yn rhwydweithio\u2019n effeithiol mewn modd proffesiynol.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l y rhaglen mentora a\u2019r rhaglen paratoi i fod ar Fwrdd, sylweddolais fod angen i mi rwydweithio i ddatblygu fy ngyrfa. Rwy bellach ar gael yn fentor yn WimBiz, sydd yn ffordd o roi rhywbeth yn \u00f4l i fenywod ifanc a dysgu gan eraill hefyd. Hefyd, rwy\u2019n cymryd rhan yn fwy gweithredol yn fy nghymdeithas broffesiynol, ac yn mynd i ragor o ddigwyddiadau rhwydweithio i gwrdd \u00e2 phobl angerddol o\u2019r un anian.<\/li>\n<li>\n<h3>Mae rheoli amser yn allweddol<\/h3>\n<p>Mae canolbwyntio ar y gweithgareddau proffesiynol hyn wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi. Weithiau gall hyn olygu gwneud aberth bob hyn a hyn, a cholli allan ar ddigwyddiadau cymdeithasol am sbel. Ond ar \u00f4l cyflawni fy nod, byddaf yn ailafael yn y digwyddiadau hynny. Er enghraifft, wrth gydbwyso gradd ddoethurol ddwys llawn amser a swydd llawn amser, methais i fynd i rai digwyddiadau cymdeithasol. Er hynny, ces i\u2019r cyfle i fynd yn ystod egwyliau\u2019r tymor ac ar \u00f4l gorffen y rhaglen. Hefyd, dysgais i sut i wneud y gorau o\u2019r holl amser oedd ar gael pan oeddwn i\u2019n astudio &#8211; wrth sefyll mewn ciwiau er enghraifft, ro\u2019n i\u2019n darllen ac yn edrych dros erthyglau er mwyn cwrdd \u00e2 therfynau amser tynn.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Bydd cymryd amser a gwneud ymdrech i gysylltu \u00e2 datblygiad proffesiynol, gwelededd a rhwydweithio strategol yn eich helpu i ddatblygu eich gyrfa a\u2019ch rhwydweithiau. Mae trywydd eich bywyd presennol yn ganlyniad o\u2019r llyfrau rydych chi wedi\u2019u darllen a\u2019r hyfforddiant rydych chi wedi\u2019i gyflawni, ond hefyd y bobl yn eich rhwydwaith. Rwy\u2019n gobeithio y byddwch chi\u2019n cymryd camau o ran unrhyw un o\u2019r agweddau hyn ar gynnydd proffesiynol, ac rwy\u2019n edrych ymlaen at rwydweithio gyda chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn y dyfodol.<\/p>\n<p><strong>Ydych chi\u2019n barod i gysylltu \u00e2 chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd, fel Deola? <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Ymunwch \u00e2&#8217;r rhwydwaith swyddogol ar LinkedIn<\/a>.<\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Dr Deola Agbato (MBA 1997) yn gyn-fyfyriwr o Ysgol Busnes Caerdydd, gyda dros ddau ddegawd o brofiad ym maes bancio. Mae hi'n angerddol am ddatblygu a grymuso talent i wella cynaliadwyedd a thwf sefydliadau. Yma, mae hi\u2019n rhannu ei syniadau ar sut i ddatblygu'n broffesiynol, hyd yn oed wrth ymdopi \u00e2 gwahanol flaenoriaethau. ","protected":false},"author":904,"featured_media":10312,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[202,170],"tags":[],"class_list":["post-10315","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10315","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10315"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10315\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10317,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10315\/revisions\/10317"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10312"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10315"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10315"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10315"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}