{"id":10292,"date":"2025-04-22T08:25:24","date_gmt":"2025-04-22T08:25:24","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10292"},"modified":"2025-04-23T08:59:28","modified_gmt":"2025-04-23T08:59:28","slug":"camwch-yn-ol-i-gaerdydd-y-1960au-i-gyn-fyfyrwyr-gan-gyn-fyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2025\/04\/22\/camwch-yn-ol-i-gaerdydd-y-1960au-i-gyn-fyfyrwyr-gan-gyn-fyfyrwyr\/","title":{"rendered":"Camwch yn \u00f4l i Gaerdydd y 1960au \u2013 I Gyn-fyfyrwyr, Gan Gyn-fyfyrwyr"},"content":{"rendered":"<p><strong>Aethoch chi i Brifysgol Caerdydd yn y 1960au? Ymunwch \u00e2&#8217;r cyn-fyfyriwr Steve Pritchard (BA 1965), Llyfrgellydd Emeritws yng Nghaerdydd, am daith ymdrochol trwy Undeb Myfyrwyr y 1960au. Ymhlith y s\u00ear sy\u2019n rhan o\u2019r hanes mae Harold Wilson a Paul McCartney. Mae\u2019r digwyddiadau allweddol yn cynnwys Argyfwng Taflegrau Ciwba, cyngerdd cyntaf Bob Dylan yn y DU, ac (yn bwysicaf oll) agoriad hirddisgwyliedig y bar.<\/strong><\/p>\n<p>&#8216;Codi Gwydr i Ddathlu Undeb y Myfyrwyr yn 50 Oed&#8217; oedd pennawd rhifyn yr haf o&#8217;n cylchgrawn i gyn-fyfyrwyr, <em>Cyswllt Caerdydd<\/em>, yn 2024. Ac wrth gwrs, mae hanner can mlwyddiant yr &#8216;hen&#8217; Undeb Myfyrwyr o 1974 ar Blas y Parc yn werth ei ddathlu.<\/p>\n<p>Ac eto, ac eto. Roedd \u2019na brifysgol cyn 1974, ac Undeb Myfyrwyr cyn 1974. I gyn-fyfyrwyr o oedran penodol, ein Hundeb Myfyrwyr \u2018ni\u2019 oedd yr adeilad annwyl a safai ar Blas Dumfries. Roedd yn ganolog i &#8216;brofiad y myfyrwyr&#8217;, i ddefnyddio term diweddarach, rhwng 1951 a 1974.<\/p>\n<p>Plas Dumfries? Ie, Plas Dumfries. Roedd yn lle gwahanol iawn i Blas Dumfries heddiw. Ac roedd bywyd y myfyrwyr yn yr Undeb honno yn wahanol mewn cymaint o ffyrdd i&#8217;r hyn oedd i ddod. Bywyd gwahanol mewn byd gwahanol. Rydw i a chyn-fyfyrwyr eraill sydd wedi cyfrannu yn gobeithio y bydd y darn hwn yn dwyn atgofion i rai darllenwyr, ac yn cynnig cipolwg ar fyd y myfyrwyr ers talwm i eraill. Er i Shakespeare ysgrifennu (bron), \u2018Mae hen w\u0177r a hen wragedd yn anghofio, a chaiff popeth ei anghofio, ond fe gofiwn y campau a gyflawnom yn ein dyddiau fel myfyrwyr\u2019, mae\u2019r atgofion canlynol, lle y bo modd, wedi\u2019u croeswirio yn erbyn ei gilydd, neu eu dilysu\u2019n annibynnol fel arall.<\/p>\n<h3>Mae hi\u2019n Wythnos y Glas, mis Hydref 1962<\/h3>\n<p>Fe ymunwn ni \u00e2 thorf o israddedigion newydd &#8211; sy\u2019n rhannol gyffrous, rhannol bryderus &#8211; yn crwydro o gwmpas Plas Dumfries. Yn loetran yng nghanol y ffordd, a dweud y gwir, lle mae chwe l\u00f4n o draffig bellach yn rhuo (heblaw pan mae \u2019na dagfeydd) rhwng Heol Casnewydd a\u2019r enfawr Stuttgarter Strasse. Ond 1962 yw hi a does fawr o obaith o gael eich taro gan gar, gan fod Plas Dumfries yn dal i fod yn ffordd bengaead sy&#8217;n dechrau wrth gyffordd Heol Casnewydd \u00e2 Heol-y-Frenhines ac yn gorffen ychydig y tu \u00f4l i ni yn y Neuadd Ymarfer.<\/p>\n<figure id=\"post-10296 media-10296\" class=\"image align-right\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2025\/04\/Aerial-view-of-civic-centre-Cathays-and-Newport-Road-1969.jpg\" alt=\"\" width=\"494\" height=\"355\" \/><figcaption class=\"caption\">Golygfa o\u2019r awyr o\u2019r Ganolfan Ddinesig, Cathays a Heol Casnewydd, 1969<\/figcaption><\/figure>\n<p>Mae Undeb y Myfyrwyr yn sefyll tua hanner ffordd ar hyd ochr orllewinol Plas Dumfries, lle byddai bloc swyddfeydd Haywood House yn sefyll ryw 60 mlynedd yn ddiweddarach. Mae adeilad yr Undeb yn ymdebygu i gartref teuluol Fictoraidd neu Edwardaidd. Yn wir, fe\u2019i cynlluniwyd i gartrefu Ysgol Baratoi Caerdydd a sefydlwyd ym 1875 i baratoi 300 o ysgolheigion, ar gost gymedrol, ar gyfer mynediad i brifysgol, y lluoedd arfog, a\u2019r proffesiynau masnachol. Ym 1892, caeodd yr ysgol a gwerthwyd yr adeilad i Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy \u2013 a ddaeth yn y pen draw yn Brifysgol Caerdydd. Ar \u00f4l bod yn gartref i ddosbarthiadau celf amrywiol, dosbarthiadau technegol, a swyddfeydd y llywodraeth, cafodd ei aileni\u2019n Undeb y Myfyrwyr ym 1951.<\/p>\n<p>Gadawn ni\u2019r dorf o fyfyrwyr newydd. Gwelwn fod llawer o&#8217;r dynion yn gwisgo siacedi chwaraeon brethyn a chrys gwyn a thei, ac ambell i &#8216;fitnic&#8217; (math o hipi cynnar) yn gwisgo cot waith a j\u00eens. Mae&#8217;r merched yn ffafrio ffrogiau a sgertiau, gydag ambell un mewn trowsus. Ac i ddynion a merched fel ei gilydd, nid oes &#8216;treinyrs&#8217; ar gyfyl y lle. Tra\u2019u bod nhw\u2019n aros i fysus eu cludo i Gaeau Chwarae&#8217;r Brifysgol yn Llanrhymni ar gyfer barbeciw Wythnos y Glas, fe groeswn ni\u2019r ffordd ddi-draffig i ddarganfod adeilad yr Undeb.<\/p>\n<p>Fe ddringwn ni ddau neu dri gris, drwy&#8217;r porth, ac rydyn ni yn y cyntedd. Mae&#8217;n lle cyfyng. I\u2019r chwith ohonom mae cownter y ciosg neu siop fach y tu \u00f4l i&#8217;w ffenestr wydr. Pryd bynnag y byddech chi yn yr Undeb, roedd yr un wraig garedig i&#8217;w gweld yn staffio&#8217;r siop ac yn gwerthu pennau, pensiliau, padiau ysgrifennu, stampiau post, a melysion. Yng nghefn y neuadd mae\u2019r ff\u00f4n cyhoeddus. Yr unig un yn yr adeilad. Nid oedd galwadau ff\u00f4n symudol neu negeseuon testun rheolaidd i rieni yn yr oes hon. Yn wir, byddai llawer o\u2019r myfyrwyr wedi dod o gartrefi heb ff\u00f4n, felly fyddai neb i&#8217;w ffonio. Wedi pasio\u2019r ff\u00f4n, rydyn ni ynghanol clwstwr o ystafelloedd cyfarfod a swyddfeydd ar gyfer Llywydd yr Undeb, Ysgrifennydd y T\u0177, Ysgrifennydd UCM, a\u2019r Undeb Athletau. Mae offer swyddfa yn brin. Mae ff\u00f4n yno\u2019n sicr, ond mae\u2019r atgofion yn amrywio am fodolaeth teipiadur. Yma hefyd, yn rhywle, mae\u2019r Ystafell Gwastraffu Amser (yr Ystafell Snwcer).<\/p>\n<p>Yn \u00f4l yn y cyntedd mae&#8217;r grisiau sy&#8217;n arwain at y llawr cyntaf. Fe ddringwn ni\u2019r grisiau yn nes ymlaen. Y tu \u00f4l i&#8217;r grisiau mae \u2019na goridor hir. Mae\u2019r arogl bwyd yn yr adeilad yn cryfhau. Ym mhen y coridor mae\u2019r Ffreutur \u2013 ystafell fawr ac eithaf plaen, a dweud y gwir, nid fel y byddech chi\u2019n ei weld ym mhrifysgolion Caergrawnt neu Rydychen. Nawr, gyda&#8217;r nos, fel amser cinio, mae myfyrwyr yn ciwio i gasglu hambwrdd a chael eu gweini.<\/p>\n<h3>Ar y fwydlen: dadleuon bywiog, nosweithiau sinema, a sw\u00eads stwnsh<\/h3>\n<p>Mae&#8217;r bwyd yn nodweddiadol o ffreutur sylfaenol. Ond yn fforddiadwy, hyd yn oed os, wrth i\u2019r tymor fynd rhagddo, na all y grantiau cynhaliaeth, sydd bellach wedi hen ddarfod &#8211; ymestyn yn bellach na \u201csglodion a ffa pob, os gwelwch yn dda\u201d. Mae&#8217;r fwydlen wedi\u2019i harddangos mewn priflythrennau plastig gwyn wedi&#8217;u gwthio i mewn i fwrdd wedi&#8217;i orchuddio \u00e2 ffabrig. Ai camgymeriad syml yw\u2019r &#8216;PLUM GRUMBLE&#8217; sydd ar gael heddiw, neu a yw\u2019n wahoddiad i gwyno, neu a yw&#8217;r llythyren &#8216;C&#8217; ar goll? A gall y merched sy&#8217;n gweini fod yn reit swta. Ar un achlysur, atebwyd y cais am \u201cdim sw\u00eads stwnsh pl\u00ees, dim ond y porc rhost a thatws rhost\u201d, gyda \u201cmae sw\u00eads ar y fwydlen, felly mae&#8217;n rhaid i chi eu cael nhw\u201d. A hwythau mor ystyfnig \u00e2&#8217;r gweinydd, aeth y ddau fyfyriwr gwrth-sw\u00eads \u00e2&#8217;u hap\u00eal at Lywydd yr Undeb, a ddatrysodd y ddadl drwy drafodaeth. Cytunodd y gweinydd y gallai sw\u00eads stwnsh gael ei ystyried yn opsiwn ychwanegol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r ffreutur, gyda&#8217;r cadeiriau a&#8217;r byrddau wedi&#8217;u gwthio o&#8217;r neilltu, yn dyblu ar nos Wener fel siambr drafod yr Undeb. Mae\u2019r dadleuon yn angerddol \u2013 ni ddangosir trugarhad wrth neb, maen nhw\u2019n chwyrn, ac er bod y siaradwyr yn gwisgo gynau academaidd, dydyn nhw ddim yn parchu na statws na r\u00f4l. Ac mae&#8217;n dipyn o sioc i siaradwyr gwadd o brifysgolion eraill, sydd wedi arfer \u00e2 thipyn o gwrteisi: &#8216;fel y dywedodd fy ffrind dysgedig&#8217; neu &#8216;os y Mr Llywydd yn caniat\u00e1u&#8217;, a ffurfiolrwydd felly. Yn hytrach, fel y cofia un o fyfyrwyr Caerdydd, \u201croedd yn fan lle byddai eich breichiau chi\u2019n cael eu rhwygo i ffwrdd.\u201d<\/p>\n<p>Ac nid dim ond myfyrwyr oedd yno. Ymhlith yr ASau sy\u2019n mentro i siambr ddadlau\u2019r Undeb yn ystod y blynyddoedd hyn mae James Callaghan (a drechwyd gan Harold Wilson ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur ym 1963), Desmond Donnelly (a newidiodd ei deyrngarwch gwleidyddol bum gwaith), a Raymond Gower (y ffigwr cynyddol brin hwnnw, AS Ceidwadol Cymreig). Roedd y rhain yn enwau mawr ar lefel genedlaethol, oedden, ond doedd dim ots gan fyfyrwyr Caerdydd. Dechreuodd un o&#8217;r siaradwyr hynny, y mai ei enw wedi\u2019i gadw\u2019n \u00f4l i osgoi cywilydd i\u2019w ddisgynyddion, ei araith gyda \u201cmae gen i ffrind\u201d. Mewn ymateb, bloeddiodd y dorf \u201camhosib\u201d, \u201cdwi ddim yn credu\u2019r peth\u201d, a \u201ctynna\u2019r un arall\u201d. O&#8217;r pwynt hwnnw doedd dim troi \u2019n\u00f4l, a chollodd y siaradwr anffodus ei bwyll.<\/p>\n<p>Nid oedd gan Gwestiynau\u2019r Prif Weinidog yn San Steffan ddim i&#8217;w ddysgu i Siambr Ddadlau Undeb Caerdydd. Neu a oedden ni\u2019n dyst i ddechreuadau &#8216;dim dangos eich hun&#8217; a &#8216;chanslo&#8217;? Mae&#8217;n debyg bod yr amgylchedd dadlau didostur hwn rhwng 1961-67 wedi bod yn faes hyfforddi effeithiol. Enillodd Llywydd yr Undeb yr Observer Mace, twrnamaint dadlau sydd ar agor i holl brifysgolion Prydain ac Iwerddon, cyn dechrau gyrfa ddarlledu lewyrchus gyda BBC Wales. Daeth un arall yn Arweinydd y Blaid Lafur ac Is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd. Ac yna roedd rhai a aeth ymlaen i yrfaoedd mewn gwleidyddiaeth leol, gan gynnwys un a oedd, am ddeugain mlynedd, yn gynghorydd Llafur uchel ei barch yn ei ardal enedigol yng Ngogledd Lloegr.<\/p>\n<p>Ar nosweithiau Sul, mae&#8217;r ffreutur yn troi&#8217;n sinema. Trwy drefniant (efallai bod arian wedi cyfnewid dwylo, wnawn ni ddim datgelu popeth), mae Ysgrifennydd y T\u0177 ar y pryd yn derbyn y ffilm newydd y bydd Sinema&#8217;r Parc yn ei dangos o ddydd Llun ymlaen. Pam dydd Sul yn yr Undeb? Hawdd \u2013 oherwydd yn y dyddiau hynny roedd sinem\u00e2u masnachol, yn union fel tafarndai, ar gau ar y Sul. A&#8217;r gost? Ar y dechrau, chwecheiniog (2.5c), a oedd yn fforddiadwy iawn, er bod hyn wedi cynyddu i swllt (5c) y flwyddyn ganlynol. Yn hollbwysig, mae\u2019r elw o\u2019r sylltau Sul hyn yn cael ei ail-fuddsoddi ym mywyd y myfyrwyr \u2013 ar \u00f4l dim ond blwyddyn, cafodd y Clwb Jazz fas dwbl newydd sbon.<\/p>\n<p>Un o\u2019r nodweddion o fywyd y myfyrwyr na fydd yn goroesi y tu hwnt i&#8217;r 1960au yw&#8217;r cymanfeydd canu wythnosol. Ym mis Chwefror 1963, daeth myfyrwyr i&#8217;r ffreutur, gyda\u2019r hwyrddyfodiaid yn swatio ar y llawr, i glywed Harold Wilson yn siarad. Y diwrnod cynt roedd wedi ei ethol yn Arweinydd y Blaid Lafur ond anrhydeddodd ei ymrwymiad i\u2019r Gymdeithas Sosialaidd (neu\u2019r Soc Soc yn Saesneg, wrth gwrs) i annerch myfyrwyr Caerdydd. Torrwyd ar draws y cyfarfod, a anerchwyd gan Hugh Gaitskell, rhagflaenydd Wilson fel Arweinydd y Blaid Lafur, gan gr\u0175p o fyfyrwyr afreolus o Abertawe a oedd yn benderfynol o achosi anhrefn. Ac fe lwyddon nhw.<\/p>\n<h3>Profwch s\u00een gerddoriaeth y 60au<\/h3>\n<p>Gadawn ni\u2019r llawr gwaelod a&#8217;r myfyrwyr llwglyd yn ciwio am swper, gan fynd yn \u00f4l i&#8217;r cyntedd, a dringo&#8217;r grisiau i&#8217;r llawr cyntaf. A dyma ni yn y lolfa. Ystafell gyda charped, sy&#8217;n beth prin yn adeilad yr Undeb, wedi&#8217;i dodrefnu ag amrywiaeth o gadeiriau breichiau wedi&#8217;u clustogi, neu gadeiriau bwced. Roedd y lolfa\u2019n boblogaidd iawn, yn cael ei defnyddio gan lawer, yn aml yn orlawn, ac felly braidd yn ddi-raen. A oedd hi\u2019n ddi-raen i ni bryd hynny? Nac oedd, mae\u2019n si\u0175r. Roedd hi\u2019n gyfforddus a chlud. Mewn gair, i lawer ohonom ym Mhrydain ar \u00f4l y rhyfel, roedd yn &#8216;gartrefol&#8217;.<\/p>\n<p>Ond cofiwch, mae&#8217;r lolfa\u2019n cynnwys y dechnoleg adloniant ddiweddaraf &#8211; radiogram, uned hirsgwar fawr sy&#8217;n cyfuno radio a chwaraewr recordiau. Mae\u2019n si\u0175r y gallai\u2019r trofwrdd hwn hawlio\u2019r anrhydedd o chwarae Bob Dylan am y tro cyntaf mewn gofod cyhoeddus yng Nghaerdydd. Rhuthrodd dau fyfyriwr, yn dychwelyd ar ben eu digon o gyngerdd cyntaf erioed Dylan &#8211; nad oedd yn adnabyddus ar y pryd &#8211; yn y DU (y Royal Festival Hall, 17 Mai 1964), at y radiogram i chwarae eu LPs Dylan newydd <em>(Bob Dylan, The Freewheelin\u2019 Bob Dylan, The Times They Are A-Changin)<\/em>. Nid y ddau yma oedd unig ffans Dylan yn yr Undeb. Roedd myfyriwr arall yn aml yn hawlio\u2019r radiogram i chwarae ei unig LP Dylan drosodd a throsodd nes i un gwrand\u00e4wr anfodlon, ar \u00f4l clywed mwy na digon, neidio i fyny a thynnu&#8217;r LP oddi ar y trofwrdd, ei lithro i mewn i\u2019w lawes, ei stwffio i fyny siwmper y troseddwr, a\u2019i anfon ymaith.<\/p>\n<p>Mae atgof cerddorol arall o\u2019r 1970au cynnar iawn yn cynnwys unigolyn ifanc hirwallt yn dod i\u2019r Undeb ac yn cynnig chwarae cyngerdd am ddim i\u2019r myfyrwyr y noson honno gyda\u2019i fand newydd. Yr ymateb? \u201cSori, m\u00eat, y ffreutur yw\u2019r unig \u2019stafell sy\u2019n ddigon mawr, ac mae honno wedi\u2019i bwcio gan y Clwb Badminton heno.\u201d Gadawodd y cerddor, gan anelu tua&#8217;r dwyrain, a&#8217;r noson honno chwaraeodd Paul McCartney a&#8217;i fand newydd Wings gyngerdd am ddim yng Nghasnewydd.<\/p>\n<p>Hefyd i fyny\u2019r grisiau mae\u2019r Ffreutur Uchaf \u2013 mae\u2019n llai, yn lanach, ac, fel mae\u2019r enw\u2019n ei awgrymu efallai, yn fwy detholus na\u2019r ffreutur lawr grisiau. Yn wir, ni wnaeth llawer o fyfyrwyr erioed ddarganfod ei bodolaeth. Gerllaw mae&#8217;r ystafell deledu a&#8217;i set fach ddu a gwyn. Yn llai o faint ac yn llai poblogaidd na&#8217;r lolfa, mwynhaodd yr ystafell hon ei hanterth rhwng 16 a 28 Hydref 1962 wrth i Argyfwng Taflegrau Ciwba ddatblygu ac wrth i ryfel niwclear rhwng yr Undeb Sofietaidd ac UDA ddod yn bosibilrwydd go iawn. Yn y pen draw, gwnaeth diplomyddiaeth ddad-ddwys\u00e1u\u2019r gwrthdaro ac anadlodd y byd eto, gan gynnwys myfyrwyr pryderus Caerdydd. Buon nhw\u2019n gwylio&#8217;r delweddau du a gwyn aneglur yn ofni rhyfel niwclear ac yn pendroni a ddylen nhw fynd adref at eu rhieni neu aros yn y ddinas. Roedd y lolfa deledu yn lle hapusach ym 1964 wrth i ddelweddau yr un mor aneglur ddangos Lynn &#8216;the Leap&#8217;, a aned yn Nant-y-moel, yn ennill medal aur yn y naid hir yng Ngemau Olympaidd Tokyo.<\/p>\n<h3>Dewch i gwrdd \u00e2 ni wrth y bar<\/h3>\n<p>Ac ar y nodyn llawen hwnnw rydyn ni\u2019n gorffen ein taith o amgylch adeilad Undeb y Myfyrwyr fel yr oedd yn y 1960au cynnar. Doedd dim llawer o fawredd am y lle, fel y gwelwch chi. Ond dyma oedd canolbwynt prysur a llewyrchus bywyd yn y brifysgol i lawer o&#8217;r tua 3,200 o israddedigion a thua 300 o \u00f4l-raddedigion, cymysgedd o fabanod rhyfel a b\u0175mers. A chofiwch, yn y 1960au cynnar, roedd cyn lleied \u00e2 3-4% o fyfyrwyr a oedd yn gadael yr ysgol yn mynd ymlaen i brifysgol. Ac roedd llawer, os nad y rhan fwyaf, o&#8217;r lleiafrif bychan hwnnw y cyntaf o&#8217;u teulu i fynd i&#8217;r brifysgol. Byd newydd a dieithr. Ac nac oedd, doedd dim unrhyw ffioedd dysgu na dyled myfyrwyr yn y dyddiau hynny. Ar y llaw arall, roedd ymdopi ag uchafswm grant cynhaliaeth yr Awdurdod Addysg Lleol o \u00a310 yr wythnos \u2013 ar gyfer llety, bwyd, teithio, adloniant, heb s\u00f4n am lyfrau \u2013 yn aml iawn yn golygu dysgu beth oedd gorddrafft. Roedd yn brofiad newydd i fyfyrwyr nad oedden nhw erioed wedi bod mewn banc o&#8217;r blaen, yn dod o deuluoedd heb gyfrif banc.<\/p>\n<p>Esgusodwch fi? Beth ddwedoch chi? Dwi wedi anghofio rhywbeth? O, wrth gwrs, y bar. Wel, mae hynny gan nad oes un. Dim eto beth bynnag, yn Wythnos y Glas ym mis Hydref 1962. Oedden, wrth gwrs, roedd myfyrwyr yn yfed yn y dyddiau hynny. Dyw\u2019r gorffennol ddim mor anghyfarwydd \u00e2 hynny. Fodd bynnag, nid oedd marchnad y myfyrwyr yn cael ei thargedu cymaint bryd hynny gan y bragwyr a&#8217;r distyllwyr. Ond fe yfon ni. Cwrw yn bennaf, gwin efallai i\u2019r rhai soffistigedig, ac roedd coctels yn gymysgeddau egsotig a oedd yn \u00f4l pob tebyg wedi marw gyda&#8217;r 1930au.<\/p>\n<p>Am ychydig flynyddoedd, roedd y brifysgol wedi gwrthwynebu lob\u00efo gan fyfyrwyr am Far Undeb gan nad oedd tystiolaeth fod mwyafrif y myfyrwyr o blaid. Cytunodd y Brifysgol i refferendwm gyda&#8217;r amod fod yn rhaid i o leiaf 1,200 o bleidleisiau gael eu bwrw er mwyn i&#8217;r canlyniad fod yn rhwymol. Canlyniad y refferendwm a gynhaliwyd ym mis Chwefror 1962 oedd 1,181 o blaid a 209 yn erbyn. Mae\u2019n anodd nodi\u2019r union ddyddiad yr agorodd y bar, ond mae\u2019n debyg iddo ddigwydd rhwng Rhagfyr 1962 ac Ionawr 1963. A dyma&#8217;r bar myfyrwyr cyntaf yn unrhyw un o sefydliadau Prifysgol Cymru. A chafodd y bar newydd sylw gan TWW (Television Wales and the West) hyd yn oed, y rhwydwaith teledu masnachol lleol ar y pryd. Arweiniodd hyn at gryn embaras i un myfyriwr israddedig o deulu llwyrymwrthodol yng Ngogledd Cymru, y cafodd ei thad sioc, os nad mwy, o weld ei ferch ar y sgr\u00een gyda pheint hanner llawn yn ei llaw.<\/p>\n<p>Ble roedd myfyrwyr yn mynd am ddiod cyn 1963? Y safle trwyddedig agosaf i&#8217;r Undeb oedd yr &#8216;Alex&#8217; poblogaidd a di-raen, Gwesty&#8217;r Alexander a safai ar gornel Heol-y-Frenhines a Rhodfa\u2019r Orsaf. Roedd hi&#8217;n ddigon hawdd delio \u00e2\u2019r traffig ar Heol-y-Frenhines ar y ffordd i&#8217;r &#8216;Alex&#8217;, ond gallai&#8217;r daith yn \u00f4l fod yn fwy problematig, peryglus hyd yn oed. Mae\u2019n werth cofio hefyd fod tafarndai Caerdydd wedi bod ar gau ar y Sul tan refferendwm Tachwedd 1961.<\/p>\n<p>Ond allwn ni ddim gadael y bar heb gofnodi bod ei elw, o fewn blwyddyn neu ddwy o agor, wedi trawsnewid cyllid yr Undeb o weithredu ar ddiffyg blynyddol i warged blynyddol. Derbyniodd nifer o glybiau chwaraeon git ac offer newydd \u2013 gwnaeth rhwyfo, rygbi, p\u00eal-droed, p\u00eal-rwyd ac athletau i gyd elwa ar yfed y myfyrwyr. Ar benwythnosau rygbi rhyngwladol, roedd loriau&#8217;r bragdai yn cludo tri llwyth ar wah\u00e2n i&#8217;r Undeb i gadw i fyny \u00e2 chwant y myfyrwyr am gwrw. Ac roedd yn rhaid i\u2019r tai bach gael eu cau, eu golchi, eu glanhau, a&#8217;u hail-agor yr un mor aml o leiaf.<\/p>\n<p>A dyna ni am ein taith o amgylch hen adeilad Undeb y Myfyrwyr. Cyn belled ag y bo modd, mae&#8217;r holl straeon uchod mor gywir ag y gall cof ffaeledig eu gwneud nhw. Ac o oes, mae digon o straeon eraill, rhai sy\u2019n ddigon amheus. A redodd aelod blaenllaw o&#8217;r Undeb ar hyd yr adeilad gyda&#8217;i drowsus roed ei bigyrnau i ennill bet? A ysgogwyd y myfyriwr a ollyngodd gynnwys diffoddwr t\u00e2n yn wyneb swyddog Undeb gan wleidyddiaeth neu atgasedd personol?<\/p>\n<p>Gadewch i ni orffen gyda stori sydd yn sicr yn wir. Mae&#8217;n nos Wener yn ystod un o&#8217;r dadleuon tanllyd, tanbaid, didostur \u2019na, a&#8217;r cynnig yw &#8216;Byddai&#8217;r T\u0177 Hwn yn Pleidleisio&#8217;n Geidwadol yn yr Etholiad Nesaf&#8217;. Mae\u2019r lle, fel arfer, yn wenfflam. Mae myfyriwr, a fydd cyn bo hir yn newyddiadurwr ac awdur llwyddiannus, yn cyrraedd, yn ffwndro ac yn gafael yn ei frest, gan ddatgan yn ddramatig, \u201co, mae fy nghalon yn gwaedu\u201d \u2013 i\u2019r siaradwr Ceidwadol sydd dan warchae.<\/p>\n<h3>Cydnabyddiaethau<\/h3>\n<p>Mae\u2019n bleser diolch i\u2019r cyn-fyfyrwyr canlynol am eu parodrwydd i fynd am dro i\u2019r gorffennol gyda mi: Roy Bailey-Wood (BSc 1966, PhD 1970), Ray Guy (BSc 1963) Peter Jacobs (BA 1964), Neil Kinnock (TAR 1965), Rita Morton (Lloyd gynt) (BA 1965) Karen Pritchard (Sorenson gynt) (BA 1965).<\/p>\n<p>Diolch yn fawr hefyd i Jennifer Wolmar ac Anna Sharrard o Gasgliadau Arbennig ac Archifau Llyfrgell y Brifysgol (SCOLAR) am, yn y drefn hon, hwyluso mynediad i ffeiliau papur newydd y myfyrwyr ac am fy nghyfeirio at adrannau perthnasol <em>University College Cardiff, a Centenary History 1883-1983<\/em> gan SB Chrimes, Athro Hanes.<\/p>\n<figure id=\"post-10294 media-10294\" class=\"image align-right\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2025\/04\/History-department-staff-1966-web.jpg\" alt=\"\" width=\"566\" height=\"401\" \/><figcaption class=\"caption\">Staff yr Adran Hanes, 1966<\/figcaption><\/figure>\n<p>A, yr Athro Chrimes, ffigwr arall o&#8217;r cyfnod rydyn ni wedi bod yn ei gofio. Ac, weithiau i israddedigion, ffigwr a oedd yr un mor frawychus ag yr oedd yn edmygus ar brydiau. Fel y fyfyrwraig blwyddyn gyntaf ffasiynol a gyrhaeddodd yn hwyr ar gyfer darlith Hanes Rhan Un. Mae hi\u2019n cerdded ar flaenau ei thraed, gyda\u2019i sodlau uchel yn tap-tapian ar lawr yr awditoriwm, cyn iddi gael ei hatal gan gerydd o&#8217;r ddarllenfa. \u201cMiss Sorenson, mae gynau israddedig i\u2019w gwisgo, nid eu cario.\u201d<\/p>\n<p>Ac mae cymaint o academyddion cofiadwy a nodedig eraill i&#8217;w cofio. Wedi&#8217;r cyfan, roedden ni yng Nghaerdydd yn bennaf i astudio, nid dim ond i fwynhau bywyd yn Undeb y Myfyrwyr. Mae un myfyriwr yn cofio\u2019r Athro R.J.C. Atkinson o\u2019r adran Archaeoleg yn edrych ymlaen at ddrysu archeolegwyr y dyfodol: \u201cPan fyddan nhw\u2019n datgloddio fy sgerbwd o\u2019r ugeinfed ganrif ac yn ei ddarganfod yn gwisgo\u2019r fodrwy hon o\u2019r Oes Efydd\u201d, byddai\u2019n dysgu gwers werthfawr i\u2019r myfyrwyr.<\/p>\n<p>Dr Mike Jarrett, hefyd o\u2019r adran Archaeology, yn dal traethawd myfyriwr rhwng ei fawd a\u2019i fys blaen ac yn dweud \u201cMr (enw wedi&#8217;i gadw&#8217;n \u00f4l i amddiffyn yr euog), fyddwn i ddim yn cyffwrdd \u00e2 hwn gyda pholyn cwch wedi\u2019i ddiheintio\u201d. Ac yna\u2019r carismataidd Dr (Athro\u2019n ddiweddarach) Terry Hawkes o\u2019r adran Saesneg, yn herio ei fyfyrwyr i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r cysyniad o \u2018Ymddangosiad a Realiti\u2019 yn nram\u00e2u Shakespeare.<\/p>\n<p>Ymddangosiad a Realiti? <em>Drysau Canfyddiad<\/em>? \u2018Hey, Mr Tambourine Man\u2026 take me disappearing through the smoke rings of my mind\u2026\u2019 ac ati. Mae&#8217;n ymddangos ein bod ni wedi dod i ben lle dechreuon ni. Yn y 1960au. Ac rydyn ni\u2019n cofio rhywfaint ohono.<\/p>\n<h2>Bydd Caerdydd gyda chi am byth<\/h2>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/stay-connected\/sign-up-to-alumni-news\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>Clywch am newyddion cyn-fyfyrwyr, cyfleoedd, cynigion, a gwahoddiadau i ddigwyddiadau drwy e-bost neu bost.<\/strong><\/a><\/p>\n<p><strong>Eisiau parhau \u00e2&#8217;ch taith i\u2019r gorffennol? Ailgysylltwch \u00e2&#8217;ch cyd-fyfyrwyr ar un o\u2019r <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/stay-connected\/online-communities\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">grwpiau Facebook cyn-fyfyrwyr swyddogol<\/a>, a chofiwch gael golwg ar ein <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=dzOkMKJ9nG8&amp;list=PLBbUDRHpmzVu-jfRjAcsffl3w9bcPB4E9\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">casgliad cynyddol o atgofion Caerdydd<\/a>.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Aethoch chi i Brifysgol Caerdydd yn y 1960au? Ymunwch \u00e2'r cyn-fyfyriwr Steve Pritchard (BA 1965), Llyfrgellydd Emeritws yng Nghaerdydd, am daith ymdrochol trwy Undeb Myfyrwyr y 1960au. ","protected":false},"author":904,"featured_media":10289,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,202,170],"tags":[],"class_list":["post-10292","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10292","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10292"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10292\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10309,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10292\/revisions\/10309"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10289"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10292"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10292"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10292"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}