{"id":10232,"date":"2025-03-14T13:44:08","date_gmt":"2025-03-14T13:44:08","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10232"},"modified":"2025-03-14T13:58:08","modified_gmt":"2025-03-14T13:58:08","slug":"drwy-dderbyn-myfyriwr-yn-intern-roedd-pawb-ar-eu-hennill","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2025\/03\/14\/drwy-dderbyn-myfyriwr-yn-intern-roedd-pawb-ar-eu-hennill\/","title":{"rendered":"Drwy dderbyn myfyriwr yn intern, roedd pawb ar eu hennill!"},"content":{"rendered":"<p><strong>Y cyn-fyfyriwr Dr Mark Davies (BEng 1994, PhD 1999) yw Cyfarwyddwr Trosglwyddo a Dosbarthu P\u0175er y DU yn RINA \u2013 cwmni byd-eang sy\u2019n cynnig datrysiadau profi, archwilio, ardystio a pheirianneg. Yn 2024, derbyniodd ef a\u2019i gwmni fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd yn intern am saith wythnos dros yr haf, gan ei helpu i fagu profiad, datblygu sgiliau a pharatoi ar gyfer byd gwaith.<\/strong><\/p>\n<p>Roedd Harvy Davies (Peirianneg Drydanol ac Electronig 2024-) yn teimlo bod y lleoliad gwaith yn ddefnyddiol oherwydd ei fod yn gyfle iddo gael profiad ymarferol wrth astudio, gan gynnwys gwella ei CV.<\/p>\n<p>\u201cGweithiais i ar brosiect yn ystod y lleoliad gwaith, ac uchafbwynt oedd gweld peirianwyr RINA yn ei ddefnyddio\u2019n llwyddiannus ar safle.<\/p>\n<p>Mae\u2019r farchnad swyddi\u2019n hynod gystadleuol y dyddiau \u2018ma, ac mae\u2019r interniaeth hon wedi fy rhoi mewn sefyllfa dda iawn. Mae gallu nodi\u2019r profiad hwnnw ar fy CV yn amhrisiadwy. Mae\u2019r profiad hefyd wedi rhoi gwir hwb i fy hyder.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Mark, a astudiodd Beirianneg Drydanol ac Electronig ei hun ym Mhrifysgol Caerdydd: \u201cUchafbwynt cynnig lleoliad gwaith i fyfyriwr oedd cael unigolyn galluog a brwdfrydig oedd yn gallu canolbwyntio\u2019n llwyr ar brosiect. Oherwydd hynny, roedd modd symud y gwaith yn ei flaen yn llawer cyflymach.<\/p>\n<p>Roedd yr interniaeth yn ffordd wych i RINA ddatblygu prosiect arloesi a allai fod wedi\u2019i roi o\u2019r neilltu fel arall oherwydd pwysau amser. Mae hefyd wedi rhoi cyfle i Harvy gael profiad gwerthfawr a datblygu i ategu ei astudiaethau academaidd, a fydd yn gwella ei gyflogadwyedd, gobeithio. Mae pawb ar eu hennill!\u201d<\/p>\n<p>Daeth y lleoliad gwaith i ben ar \u00f4l saith wythnos, ond mae Mark a\u2019i gwmni, a oedd mor falch o waith Harvy, wedi cyflogi Harvy yn rhan-amser ers hynny er mwyn iddo barhau \u00e2\u2019i waith ar y prosiect o amgylch ei astudiaethau.<\/p>\n<p><strong>Dim ond un o nifer o gyn-fyfyrwyr sydd wedi helpu myfyrwyr presennol Prifysgol Caerdydd i gael profiad gwaith drwy interniaeth yw Mark. Mae T\u00eem Profiad Gwaith y Brifysgol yn chwilio am gyn-fyfyrwyr a hoffai gynnig interniaeth yr haf hwn i fyfyriwr neu fyfyriwr graddedig. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/work-with-us\/develop-your-workforce\/recruit-our-graduates\/student-placements\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Darganfod mwy am y cymorth y gallant ei gynnig<\/a>.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Mae croeso i chi hefyd gysylltu \u00e2\u2019r T\u00eem Profiad Gwaith ar <a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwww.linkedin.com%2Fin%2Fcuworkexperience%2F&amp;data=05%7C02%7CGartonA2%40cardiff.ac.uk%7C2d19552e7ff34239cb5c08dd4d100892%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1%7C0%7C638751453440370847%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJFbXB0eU1hcGkiOnRydWUsIlYiOiIwLjAuMDAwMCIsIlAiOiJXaW4zMiIsIkFOIjoiTWFpbCIsIldUIjoyfQ%3D%3D%7C0%7C%7C%7C&amp;sdata=HMxh9p%2FZldk%2FY%2Fa3Nk34cDWVP7MIktjOuGTYKxb1AyQ%3D&amp;reserved=0\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">LinkedIn<\/a> i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ei gynlluniau a\u2019i gyfleoedd.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Croesawodd y cyn-fyfyriwr, Dr Mark Davies, (BEng 1994, PhD 1999), Cyfarwyddwr UK Power T&amp;D yn RINA, un o\u2019n myfyrwyr presennol, Harvy Davies (Peirianneg Drydanol ac Electronig 2024-) ar interniaeth yn para saith wythnos. Darllenwch sut roedd y lleoliad o fudd i bawb, a sut mae wedi rhoi hwb i hyder a CV Harvy.","protected":false},"author":904,"featured_media":10229,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,1975,170,203],"tags":[],"class_list":["post-10232","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-gyrfaoedd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10232","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10232"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10232\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10236,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10232\/revisions\/10236"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10229"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10232"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10232"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10232"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}