{"id":10222,"date":"2025-02-19T15:06:56","date_gmt":"2025-02-19T15:06:56","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10222"},"modified":"2025-02-19T15:07:53","modified_gmt":"2025-02-19T15:07:53","slug":"fy-hanner-marathon-yng-nghaerdydd-rhoi-yn-ol-i-helpu-gofal-canser-fy-nhad","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2025\/02\/19\/fy-hanner-marathon-yng-nghaerdydd-rhoi-yn-ol-i-helpu-gofal-canser-fy-nhad\/","title":{"rendered":"Fy Hanner Marathon yng Nghaerdydd: rhoi yn \u00f4l i helpu gofal canser fy nhad"},"content":{"rendered":"<p><strong>Yr hydref hwn, mae Joseph, sy\u2019n fyfyriwr gwleidyddiaeth, yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd i <a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/page\/joe-morden-1733236585537\">gefnogi ymchwil hollbwysig ar ganser ym Mhrifysgol Caerdydd<\/a>. Darllenwch yr hanes amdano i gael ysbrydoliaeth neu ewch ati i greu eich her eich hun ac <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\/run-the-cardiff-half-marathon\">ymuno \u00e2 #T\u00eemCaerdydd<\/a>.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Beth oedd wedi eich ysbrydoli i redeg Hanner Marathon Caerdydd?<\/strong><\/p>\n<p>Yn 2015, cafodd fy nhad ddiagnosis o ganser sarcoma yn yr \u00ean. Ac yntau\u2019n chwedleuwr, roedd y diagnosis wedi effeithio ar ei iechyd, ond ar ben hynny ar ei fywoliaeth a&#8217;i hunaniaeth.<\/p>\n<p>Diolch i ymchwilwyr a meddygon yn Ysbyty Athrofaol Cymru, cafodd fy nhad gadarnhad nad oedd y canser yno bellach. <a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/page\/joe-morden-1733236585537\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Codi arian dros adran ymchwil canser Prifysgol Caerdydd<\/a> yw fy ffordd i o roi yn \u00f4l, yn ogystal \u00e2 dod gam yn nes at sicrhau nad yw\u2019r un teulu yn dioddef y trallod a gafodd fy nheulu i.<\/p>\n<figure id=\"post-10218 media-10218\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 248px;height: 372px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2025\/02\/Joseph-4.jpeg\" alt=\"\" width=\"261\" height=\"392\" \/><\/figure>\n<p><strong>Allwch chi s\u00f4n wrthon ni sut rydych chi wedi bod yn paratoi hyd yn hyn ar gyfer yr hanner marathon?<\/strong><\/p>\n<p>Dechreuais i redeg yn y cyfnod clo yn ystod gaeaf 2021. Ro\u2019n i\u2019n chwaraewr sboncen brwd, ond oherwydd rheoliadau Covid, do\u2019n i ddim yn gallu dychwelyd i\u2019r cwrt. Roedd angen ffordd arno i i gadw&#8217;n heini a dyna ddarganfod rhedeg.<\/p>\n<p>Yn ddiweddarach yn 2022, drwy ffrind imi dechreuais i sesiynau rhedeg 5k yn y parc (parkrun), a bryd hynny wedyn doedd dim pall ar fy awydd i redeg. Roedd gweld fy amser yn gostwng yn fy ysgogi i osod nodau mwy heriol, ac roedd gwirfoddoli yn fy ysbrydoli i wneud gwahaniaeth ar raddfa fwy, a\u2019r gwir amdani yw bod y ddau beth hyn wedi fy arwain at redeg yn Hanner Caerdydd dros ymchwil ar ganser.<\/p>\n<p><strong>Allwch chi s\u00f4n wrthon ni am eich cynllun hyfforddi ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd?<\/strong><\/p>\n<p>Dwi wedi rhedeg sawl hanner marathon cyn hyn (Caerdydd a Chasnewydd), felly dw i ddim yn anghyfarwydd \u00e2&#8217;r pellter &#8211; ond mae\u2019n her, yn bendant. Mae&#8217;r torfeydd yn ei gwneud hi&#8217;n llawer haws serch hynny, ac mae&#8217;r awyrgylch bob amser yn anhygoel.<\/p>\n<p>Bydd fy hyfforddiant yn cynnwys rhedeg sawl gwaith am lai o amser ac wedyn rhedeg am amser hirach unwaith yr wythnos. Pan fydda i adref yn y Fenni, bydda i\u2019n gwneud yn si\u0175r fy mod i\u2019n gwneud ychydig o hyfforddiant ar y mynydd i baratoi ar gyfer yr un yn y Rhath ar \u00f4l deg milltir! Rwy hefyd yn anelu at gyrraedd 150 o sesiynau yn y parc erbyn adeg y ras, felly bydda i\u2019n cyfuno\u2019r rhain yn bendant yn y cynllun.<\/p>\n<figure id=\"post-10217 media-10217\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"width: 295px;height: 352px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2025\/02\/Joseph-2.jpeg\" alt=\"\" width=\"301\" height=\"358\" \/><\/figure>\n<p><strong>Beth rydych chi&#8217;n edrych ymlaen ato ar ddiwrnod y ras?<\/strong><\/p>\n<p>Rwy&#8217;n edrych ymlaen yn fawr at redeg y ras gyda ffrindiau o&#8217;r Brifysgol, fy nghlwb rhedeg Runwithus y Fenni, a\u2019r bobl reolaidd o Redeg yn y Parc yng Nghwmbr\u00e2n. Bydd yn wych gweld pawb sydd wedi bod yn bloeddio cefnogaeth wrth imi redeg heibio. Mae fy nheulu a ffrindiau wedi bod yn hynod gefnogol imi ar \u00f4l ymgymryd \u00e2\u2019r ras &#8211; maen nhw&#8217;n rhannu fy angerdd dros yr achos ac rwy&#8217;n ddiolchgar iawn am eu hanogaeth.<\/p>\n<p>Os ydych chi&#8217;n meddwl rhedeg eich hun, ewch amdani, ddywedwn i! Bydd yr arian a godwch yn ariannu ymchwil ar ganser sy\u2019n achub bywydau, ac mae gennych chi bopeth i\u2019w ennill.<\/p>\n<p><strong>Cefnogwch Joseph<\/strong><\/p>\n<p>Noddwch Joseph ar <a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/page\/joe-morden-1733236585537\">JustGiving<\/a> i ychwanegu at ei gyfanswm.<\/p>\n<p><strong>Ymunwch \u00e2 #T\u00eemCaerdydd i gadw eich lle eich hun<\/strong><\/p>\n<p>Ydych chi wedi trefnu eich lle ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd 2025? <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\/run-the-cardiff-half-marathon\">Ymunwch \u00e2 #T\u00eemCaerdydd<\/a> i gefnogi ymchwil ar ganser neu niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p><strong>Dyma her lesol sy\u2019n wahanol<\/strong><\/p>\n<p>Beth bynnag yw lefel eich ffitrwydd neu eich gallu, <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\">mae her sy\u2019n addas i chi<\/a>. Mae lleoedd bellach ar gael mewn digwyddiadau rhedeg ledled y DU a thramor \u2013 gan gynnwys rasys o amgylch Bryste, Amsterdam, ac Alton Towers. Gallwch chi <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\/trek-yr-wyddfa-snowdon-at-night-with-teamcardiff\">ymuno \u00e2 #T\u00eemCaerdydd am noson dringo i fyny\u2019r Wyddfa<\/a> ym mis Gorffennaf.<\/p>\n<p>Os oes gennych chi gwestiynau am ymuno \u00e2 #T\u00eemCaerdydd, cysylltwch \u00e2 <a href=\"mailto:donate@cardiff.ac.uk\">donate@caerdydd.ac.uk<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yr hydref hwn, mae Joseph, sy\u2019n fyfyriwr gwleidyddiaeth, yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd i gefnogi ymchwil hollbwysig ar ganser ym Mhrifysgol Caerdydd.","protected":false},"author":904,"featured_media":10216,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[212,166,205,204,170],"tags":[],"class_list":["post-10222","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-teamcardiff-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-events-cy","category-donate-cy","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10222","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10222"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10222\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10226,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10222\/revisions\/10226"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10216"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10222"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10222"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10222"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}