{"id":10186,"date":"2025-02-05T16:45:42","date_gmt":"2025-02-05T16:45:42","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10186"},"modified":"2025-02-05T16:46:19","modified_gmt":"2025-02-05T16:46:19","slug":"ben-wrth-ei-fodd-ai-yrfa-ym-maes-mwyngloddio-cyfrifol-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2025\/02\/05\/ben-wrth-ei-fodd-ai-yrfa-ym-maes-mwyngloddio-cyfrifol-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/","title":{"rendered":"Ben wrth ei fodd \u00e2\u2019i yrfa ym maes mwyngloddio cyfrifol \u2013 I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr"},"content":{"rendered":"<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Gwyddonydd daearegol yw Ben Lepley (MESci 2008), ac mae\u2019n arbenigwr amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol yn y diwydiant mwyngloddio a mwynau. Hefyd, mae\u2019n ymh\u00e9l \u00e2 byd addysg, yn gweithio i wella gwybodaeth y cyhoedd ynghylch mwyngloddio cyfrifol, ac yn gobeithio ysbrydoli recriwtiaid sy\u2019n dymuno mynd i&#8217;r afael \u00e2 heriau\u2019r blaned. <\/strong><strong>Yma, mae Ben yn chwalu rhai mythau ynghylch mwyngloddio ac yn dadlau&#8217;r achos dros ymuno \u00e2&#8217;r diwydiant, sy&#8217;n galw am ystod eang o sgiliau.<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">\u201cYdyn ni&#8217;n dal i fwyngloddio?!\u201d<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Dyma\u2019r cwestiwn a ofynnwyd imi gan ddyn busnes canol-oed wrth deithio\u2019n ddiweddar. Roedd yn rhyfeddu bod mwyngloddio\u2019n dal i ddigwydd yn y byd sydd ohoni \u2013 yn wir, arfer hynafol oedd ond yn cael ei gwneud gan gorachod ac orcs ym myd Canolfyd Tolkien yw hi, yntefe?! Gwnaeth hyn beri imi feddwl pa mor ddigyswllt bellach y mae\u2019r rhan fwyaf o wledydd y gorllewin o wreiddiau eitemau bob dydd. Ydy Mr Bezos a Mr Musk ond yn creu cynhyrchion gan ddefnyddio cyflenwad diddiwedd o ddeunyddiau sy\u2019n ymddangos yn \u00f4l yr angen?<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Y gwir yw rydyn ni&#8217;n mwyngloddio (neu&#8217;n chwarelu) ar lefel syfrdanol heddiw. Yn sicr y deunyddiau a gloddir fwyaf yw tywod, graean a chlai at ddibenion adeiladu, yn ogystal \u00e2 mwynau diwydiannol eraill megis calchfaen (yn bennaf i greu sment), sydd at ei gilydd yn creu cyfanswm o 50 biliwn tunnell y flwyddyn. Mae nifer fawr o lo hefyd yn cael ei chloddio, gyda metelau\u2019n cyfrif am oddeutu tair biliwn tunnell y flwyddyn (y mwyafrif o hynny\u2019n fwyn haearn a ddefnyddir i gynhyrchu dur).<\/p>\n<figure id=\"post-10178 media-10178\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 255px;height: 340px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2025\/02\/IMG_0157-scaled.jpg\" alt=\"\" width=\"255\" height=\"340\" \/><\/figure>\n<p style=\"font-weight: 400\">Ac eto i gyd, dyw hynny ddim yn ddigon o bell ffordd. Rydyn ni\u2019n dechrau ailgylchu ar gyfraddau llawer uwch nag erioed o\u2019r blaen, sy\u2019n helpu i leihau\u2019r angen am fwyngloddio cynradd. Ond yn syml, dydyn ni ddim wedi mwyngloddio digon o\u2019r rhan fwyaf o ddeunyddiau i allu bodloni gofynion y gymdeithas ar hyn o bryd, yn enwedig o ran technolegau newydd a rhai sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg. Ni fu\u2019r galw am fetelau megis lithiwm, elfennau daear prin, a chobalt erioed mor dybryd na heddiw, o ystyried y c\u00e2nt eu defnyddio mewn batris, cerbydau trydan, a thechnoleg adnewyddadwy arall.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Yn y blynyddoedd i ddod, bydd y diwydiant hefyd yn wynebu argyfwng sy\u2019n ymwneud \u00e2 diffyg talent. Does dim digon o bobl ifanc yn astudio pynciau perthnasol neu\u2019n ymddiddori mewn dilyn gyrfa ym maes mwyngloddio. Yn hyn o beth, rydyn ni\u2019n wynebu prinder sgiliau. Yn fy achos i, astudiais i Ddaeareg ym Mhrifysgol Caerdydd, ces i swydd gyda chwmni ymgynghori mwyngloddio yn y ddinas, ac rydw i dal yma 16 mlynedd yn ddiweddarach. Rwyf bellach yn gweithio yn y sector amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol (ESG) (hynny yw, cynaliadwyedd) ac yn ceisio helpu cwmn\u00efau mwyngloddio a mwynau i gloddio&#8217;n gyfrifol. Yn ogystal, hoffwn i godi ymwybyddiaeth am allu\u2019r diwydiant hwn i fod yn llwybr posibl ar gyfer unigolion sydd \u00e2 sgiliau amrywiol.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Rwy\u2019n deall safbwynt llawer o bobl bod mwyngloddio yn ddiwydiant dinistriol, budr, a gwrthgynhyrchiol er datblygiad cynaliadwy, ac felly nid yw\u2019n yrfa ddewisol i nifer fawr o bobl. Drwy chwilio\u2019n gyflym ar-lein, daw realiti\u2019r diwydiant i\u2019r golwg; cewch chi ddysgu am ei ochr dywyll \u2013 llafur plant a thramgwyddo hawliau dynol, trychinebau amgylcheddol, protestiadau cenedlaethol, dinistrio coedwigoedd glaw, i enwi ond ychydig. Nid fy mwriad yw cyfiawnhau pethau o\u2019r fath (ac yn anffodus, mae problemau tebyg yn bodoli mewn rhai rhannau o\u2019r byd), ond dyw\u2019r diwydiant mwyngloddio ddim fel hynny yn ei gyfanrwydd.<\/p>\n<figure id=\"post-10179 media-10179\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"width: 255px;height: 340px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2025\/02\/IMG_3249-rotated.jpg\" alt=\"\" width=\"255\" height=\"340\" \/><\/figure>\n<p style=\"font-weight: 400\">Fel y gallech chi fod wedi\u2019i ddeall gan ddarllen yr ystadegau uchod, ceir nifer enfawr o fwyngloddiau, ac mae eu henw drwg yn deillio o\u2019r perfformwyr gwaethaf. Mae cryn lawer o fwyngloddiau a chwareli yn gweithredu mewn ffyrdd cyfrifol, drwy ddiogelu\u2019r amgylchedd o&#8217;u cwmpas a thrwy ymdrechu\u2019n fawr er budd y gymuned a materion cymdeithasol. Mae datblygiadau technolegol sylweddol hefyd wedi helpu i leihau neu osgoi effeithiau negyddol \u2013 mae\u2019r rhain yn cynnwys trydaneiddio cerbydau ac offer, offer hidlo llwch a nwy, a phrosesau trin d\u0175r. Mae\u2019r ffordd rydyn ni\u2019n mwyngloddio yn esblygu hefyd, gyda chwmn\u00efau\u2019n ymchwilio i fio-drwytholchi (sef defnyddio bacteria i doddi metelau yn lle cemegau) ac echdynnu metelau\u2019n uniongyrchol o dd\u0175r y ddaear.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Felly, pa fath o bobl y bydd eu hangen i ymuno \u00e2&#8217;r diwydiant mwyngloddio? Yr ateb yw amrywiaeth helaeth o unigolion. Ymhlith rhai o\u2019r enghreifftiau mwyaf amlwg yw daearegwyr, sy\u2019n chwilio am ddyddodion newydd a helpu mwyngloddiau i barhau i gloddio\u2019r pethau cywir. Mae yna alw hefyd am amrywiaeth o beirianwyr, gan gynnwys y rhai sy&#8217;n cynllunio&#8217;r gweithrediadau mwyngloddio, yn ogystal \u00e2 pheirianwyr cemegol, peirianwyr trydanol, a pheirianwyr geodechnegol. Ac mae angen i gemegwyr ddeall sut i gael y darnau gwerthfawr allan o&#8217;r creigiau, ac arbenigwyr amgylcheddol sy&#8217;n deall sut i ddiogelu ecosystemau. Mae angen i wyddonwyr cymdeithasol ddeall sut mae mwyngloddiau\u2019n effeithio ar gymunedau lleol a datblygu cynlluniau economaidd-gymdeithasol. Mae angen cyfreithwyr, arbenigwyr cyfathrebu, gwyddonwyr data, arbenigwyr TG, arbenigwyr iechyd a diogelwch, economegwyr, staff adeiladu, arbenigwyr diogelwch, cynllunwyr trafnidiaeth, penseiri tirwedd, gyrwyr, mecanyddion, syrfewyr\u2026 wele, y rhain i gyd, a mwy.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwybod rhagor am y diwydiant mwyngloddio, gallwch chi fy nilyn ar LinkedIn <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/ben-lepley-608a6225\/\">yma<\/a>.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Yn barod i gysylltu \u00e2 chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd, fel Ben? Cofiwch <\/strong><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\"><strong>ymuno \u00e2 gr\u0175p swyddogol i gyd-fyfyrwyr ar LinkedIn<\/strong><\/a><strong> i ehangu eich rhwydwaith, gofyn cwestiynau, a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd gyrfaol<\/strong>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gwyddonydd daearegol yw Ben Lepley (MESci 2008), ac mae\u2019n arbenigwr amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol yn y diwydiant mwyngloddio a mwynau. Yma, mae Ben yn chwalu rhai mythau ynghylch mwyngloddio ac yn dadlau'r achos dros ymuno \u00e2'r diwydiant, sy'n galw am ystod eang o sgiliau.","protected":false},"author":904,"featured_media":10177,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,1975,202,170],"tags":[],"class_list":["post-10186","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-gyrfaoedd","category-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10186","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10186"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10186\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10190,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10186\/revisions\/10190"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10177"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10186"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10186"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10186"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}