{"id":10101,"date":"2024-10-30T16:05:39","date_gmt":"2024-10-30T16:05:39","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10101"},"modified":"2025-02-04T09:57:55","modified_gmt":"2025-02-04T09:57:55","slug":"sut-i-ddringor-ysgol-yrfaol-heb-sathru-ar-draed-eraill-bossing-it","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2024\/10\/30\/sut-i-ddringor-ysgol-yrfaol-heb-sathru-ar-draed-eraill-bossing-it\/","title":{"rendered":"Sut i ddringo&#8217;r ysgol yrfaol (heb sathru ar draed eraill) \u2013 Bossing It"},"content":{"rendered":"<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Nid yw dringo\u2019r ysgol yrfaol yn rhywbeth rydych chi\u2019n ei wneud ar eich pen eich hun \u2013 yn amlach na pheidio, mae llwyddiant yn digwydd drwy gydweithio a chyd-gefnogaeth. Gwnaethon ni ofyn i dri chyn-fyfyriwr profiadol rannu eu hawgrymiadau ar sut i godi drwy&#8217;r rhengoedd, i gyd tra&#8217;n codi eraill ar hyd y ffordd.<\/strong><\/p>\n<h2>Leigh Debbage (BA 2004)<\/h2>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/leigh-debbage-8ba98622\/\">Leigh<\/a> yn gyfarwyddwr cwmni yn Llundain sy&#8217;n arbenigo mewn sbloetiau cysylltiadau cyhoeddus, profiadau, a digwyddiadau ar gyfer y diwydiant ffilm a theledu. Mae ganddo dros ugain mlynedd o brofiad yn creu ymgyrchoedd arloesol ar gyfer cleientiaid megis Warner Bros, Universal Pictures, Paramount, a Netflix. Mae wedi gweithio ar y rhan fwyaf o gyfresi ffilm mawr, gan gynnwys Star Wars a Jurassic World.<\/p>\n<p>Uchafbwynt ei yrfa oedd creu <em>Scenes in the Square<\/em>, sef llwybr o gerfluniau yn Leicester Square a enillodd sawl gwobr.\u00a0Cafodd y llwybr ei lansio yn 2020 gyda deg cerflun efydd deinamig o eiconau byd ffilm. Mae bellach wedi ychwanegu s\u00ear megis Harrison Ford, Rowan Atkinson a Daniel Kaluuya, yr ychwanegiad diweddaraf, gan ddod \u00e2 fersiwn o&#8217;r Hollywood Walk of Fame i Lundain.<\/p>\n<figure id=\"post-10092 media-10092\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"width: 265px;height: 265px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/10\/Leigh-Debbage-1.jpeg\" alt=\"\" width=\"265\" height=\"265\" \/><\/figure>\n<p><strong>Datblygwch enw da<\/strong><\/p>\n<p>Gall byd busnes fod yn greulon, yn sicr, ond mae\u2019r syniad bod &#8216;pobl neis yn gorffen olaf&#8217; yn anghywir. Darn o gyngor sylfaenol y byddwn i\u2019n ei roi yw trin eich cydweithwyr, y rhai iau, a\u2019ch cyflenwyr yn dda ar bob cam o\u2019ch gyrfa, gan y gallen nhw oll fod yn allweddol wrth i chi gamu ymlaen yn eich gyrfa.<\/p>\n<p>Hyd yn oed os ydych chi&#8217;n ystyried eich cydweithwyr yn gystadleuwyr ar gyfer swyddi neu ddyrchafiadau, mae eich perthynas \u00e2 nhw hefyd yn hollbwysig wrth i chi gamu ymlaen yn eich gyrfa. Bydd eu trin \u00e2 pharch a datblygu enw da fel rhywun sy\u2019n weithiwr proffesiynol hael a rhywun sy\u2019n gweithio\u2019n dda mewn t\u00eem yn gwneud llawer i feithrin eich llwyddiant eich hun. Rhannwch wybodaeth, gwirfoddolwch i fod yn fentor os oes modd, rhowch gyngor a bydd eich buddsoddiad yn talu ar ei ganfed.<\/p>\n<h2>Daniel Tan (LLB 2011, PGDip 2014)<\/h2>\n<p>Cydymaith Rheoli Corfforaethol yng nghangen Singapore Linklaters yw <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/danieljytan\/\">Daniel<\/a>. Fe ymunodd \u00e2 Linklaters yn 2022. Hanfod ei waith yw uno a chaffael sefydliadau ariannol, ac mae hefyd yn cynrychioli noddwyr ariannol ar fuddsoddiadau yn Ne-ddwyrain Asia a&#8217;r sector adnewyddadwy.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l astudio&#8217;r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, astudiodd Daniel radd Meistr mewn Cyfraith Bancio a Chyllid Rhyngwladol yng Ngholeg Prifysgol Llundain, a chafodd ei alw i Far Cymru a Lloegr yn 2013. Y flwyddyn ganlynol, ymunodd \u00e2 Wong &amp; Partners (aelod gwmni o Baker McKenzie yn Kuala Lumpur) a chafodd ei alw i Far Malaysia yn fuan wedi hynny.<\/p>\n<figure id=\"post-10093 media-10093\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"width: 264px;height: 264px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/10\/Daniel-Tan-scaled-e1730301919988.jpg\" alt=\"\" width=\"264\" height=\"264\" \/><\/figure>\n<p><strong>Byddwch y mentor yr hoffech chi fod wedi&#8217;i gael<\/strong><\/p>\n<p>Mae bod yn frwdfrydig dros ddysgu a bod yn wydn yn allweddol, yn enwedig ar ddechrau eich gyrfa. Dewch o hyd i fentoriaid da a fydd yn eich llywio chi \u2013 maen nhw wedi bod yn amhrisiadwy drwy gydol fy ngyrfa, ac roeddwn i&#8217;n ffodus i gael mentoriaid a fuddsoddodd yn fy ngyrfa a minnau\u2019n unigolyn.<\/p>\n<p>Er mwyn i mi allu gwneud yr un peth ar gyfer rhywun arall, rwy&#8217;n byw yn \u00f4l y geiriau &#8220;Byddwch y mentor yr hoffech chi fod wedi&#8217;i gael&#8221; ac yn ymdrechu i fentora eraill hefyd. Bydd bod yn awyddus i ddysgu wrth gefnogi eraill yn eich helpu chi i symud ymlaen yn eich gyrfa, a bydd hefyd yn creu amgylchedd cefnogol i bawb o&#8217;ch cwmpas.<\/p>\n<h2>Gavin Phelps (BA 2009)<\/h2>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/gavin-phelps-02879061\/\">Gavin<\/a> yn Bennaeth Cyrchu yn Oddbox, sef cwmni dosbarthu ffrwythau a llysiau gyda\u2019r nod o leihau gwastraff bwyd.<\/p>\n<p>Yn ystod yr haf cyntaf yn dilyn graddio, gweithiodd mewn swydd yn pacio ffrwythau cyn cael swydd yn Rheolwr Cynhyrchu. Yna, treuliodd bum mlynedd yn goruchwylio gweithrediadau pacio a helpu\u2019r busnes i ehangu, cyn gadael am gyfnod i deithio.<\/p>\n<p>Yn dilyn hyn, roedd diddordeb Gavin mewn cynnyrch ffres wedi arwain at weithio yn Oddbox (oedd yn cael ei alw\u2019n Tasty Misfits ar y pryd). Ers hynny mae wedi ymddiddori mewn gwahanol fathau o waith \u2013 o Weithrediadau i Gyrchu \u2013 ac mae\u2019n teimlo balchder yn cynnig enw newydd i\u2019r cwmni.<\/p>\n<figure id=\"post-10094 media-10094\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"width: 264px;height: 264px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/10\/Gavin-Phelps-e1730302004628.jpeg\" alt=\"\" width=\"264\" height=\"264\" \/><\/figure>\n<p><strong>Dewch o hyd i r\u00f4l sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2&#8217;ch gwerthoedd chi<\/strong><\/p>\n<p>Alla i ddim pwysleisio digon pwysigrwydd dod o hyd i swydd neu faes rydych chi\u2019n teimlo\u2019n frwdfrydig amdano. Mae wedi cymryd cryn dipyn o amser i mi sylweddoli hyn, gan imi feddwl yn y dechrau fod yn rhaid imi weithio&#8217;n galed a phrofi fy mod i&#8217;n gymwys o ran beth bynnag ro&#8217;n i&#8217;n ei wneud&#8217; Er fy mod i\u2019n dal i feddwl bod gwaith caled yn talu ar ei ganfed, cewch weld mai gwneud gwahaniaeth ym meysydd rydych chi\u2019n credu ynddyn nhw sy\u2019n dod \u00e2 boddhad go iawn.<\/p>\n<p>Pan fydd y rhan fwyaf o\u2019ch amser yn cael ei dreulio yn y gwaith, mae\u2019n hanfodol dod o hyd i le sy\u2019n cyd-fynd a\u2019ch gwerthoedd chi. Pe bawn i&#8217;n graddio yfory, dyma fyddai&#8217;r peth cyntaf y byddwn i&#8217;n ystyried wrth edrych am swyddi. Mae\u2019r rhan fwyaf o swyddi yn gofyn llawer, ond os ydych chi&#8217;n gwneud rhywbeth sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2&#8217;ch credoau, mae dipyn yn haws i gyflawni\u2019r gofynion.<\/p>\n<p><strong>Cefnogi eraill i gyflawni eu hamcanion<\/strong><\/p>\n<p>I wneud y gorau o\u2019ch effaith gadarnhaol eich hun, bydd angen t\u00eem uchelgeisiol a hapus o\u2019ch cwmpas chi. Ac er mwyn creu t\u00eem o\u2019r fath, bydd angen i chi ddeall y bobl rydych chi\u2019n gweithio gyda nhw, ynghyd a\u2019u cymhellion personol nhw.<\/p>\n<p>Cefnogwch aelodau o&#8217;ch t\u00eem yn ystod eu gyrfaoedd, waeth ble mae hyn yn arwain. Nid mater o edrych ar \u00f4l eich cyd-weithwyr yn unig yw hwn \u2013 hebddyn nhw, nid yw\u2019n bosibl llwyddo yn eich gyrfa eich hun.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Gallwch chi gefnogi myfyrwyr presennol neu gyn-fyfyrwyr eraill drwy gymryd rhan mewn <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/volunteer\/mentoring\">rhaglenni mentora Prifysgol Caerdydd<\/a>.<\/strong><\/p>\n<p><b>Yn barod i gysylltu \u00e2 chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? Ymunwch \u00e2\u2019n\u00a0<\/b><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\"><b>gr\u0175p LinkedIn<\/b><\/a><b>\u00a0a dechrau rhwydweithio.<\/b><\/p>\n<p><strong>Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw o bobl sy\u2019n barod iawn eu cymwynas ac yma i\u2019ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Mae ein cyfres \u2018Bossing It\u2019 yn dod \u00e2 chyngor gan gyn-fyfyrwyr mewn sawl maes at ei gilydd \u2013 dewch i fanteisio ar eu doethineb a <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/news\/blog\">phori drwy awgrymiadau gwych ar ystod eang o bynciau<\/a>.<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Diddordeb mewn cyfrannu at rifyn arall o Bossing It? Neu eisiau awgrymu pwnc i\u2019w gynnwys mewn rhifyn yn y dyfodol? <a href=\"mailto:alumnicommunications@cardiff.ac.uk\">Cysylltwch \u00e2 ni.<\/a><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Nid yw dringo\u2019r ysgol yrfaol yn rhywbeth rydych chi\u2019n ei wneud ar eich pen eich hun \u2013 yn amlach na pheidio, mae llwyddiant yn digwydd drwy gydweithio a chyd-gefnogaeth. ","protected":false},"author":904,"featured_media":10090,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[207,166,1975,170],"tags":[],"class_list":["post-10101","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-bossing-it-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-gyrfaoedd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10101","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10101"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10101\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10161,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10101\/revisions\/10161"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10090"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10101"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10101"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10101"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}