{"id":10076,"date":"2024-10-23T12:52:13","date_gmt":"2024-10-23T12:52:13","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10076"},"modified":"2024-11-13T15:36:46","modified_gmt":"2024-11-13T15:36:46","slug":"ar-ol-goroesi-canser-fe-ddes-i-o-hyd-i-fy-nyfodol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2024\/10\/23\/ar-ol-goroesi-canser-fe-ddes-i-o-hyd-i-fy-nyfodol\/","title":{"rendered":"Ar \u00f4l goroesi canser, fe ddes i o hyd i fy nyfodol ym Mhrifysgol Caerdydd \u2013 I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr"},"content":{"rendered":"<p><strong>Newyddiadurwr llawrydd, golygydd cynnwys, ac ymgyrchydd gofal iechyd yw Ellie Philpotts <span lang=\"CY\">(BA 2017)<\/span>. Ar \u00f4l cael diagnosis o ganser y gwaed yn ei harddegau, aeth Ellie ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, gan weithio i gefnogi unigolion eraill \u00e2 chanser. Bellach, mae deng mlynedd wedi mynd heibio ers i Ellie fod yn lasfyfyriwr. Isod, mae hi\u2019n trafod sut helpodd Prifysgol Caerdydd iddi fynd ar drywydd gyrfa sy&#8217;n agos at ei chalon.<\/strong><\/p>\n<p>Pan fyddwch chi&#8217;n symud i&#8217;r brifysgol, rydych chi&#8217;n llawn awydd i gael dechreuad newydd, a gweddnewid eich bywyd ychydig. Efallai y bydd hynny ymhell i ffwrdd o\u2019ch tref enedigol, gan gynnig cyfleoedd ichi ddod i adnabod pobl newydd, a phenderfynu pa gyfeiriad yr hoffech chi fynd ar ei drywydd. Ond, pan rydych chi mor ifanc, allwch chi ddim anghofio\u2019r gorffennol, a does dim llawer o bwynt ceisio gwneud hynny chwaith.<\/p>\n<p>Yn hytrach na cheisio trawsnewid eich hunaniaeth yn gyfan gwbl, mae\u2019r brifysgol yn cynnig cyfle arbennig ichi ddatblygu eich diddordebau cyfredol, yn y ddarlithfa a\u2019r tu allan iddi. Y gobaith yw y byddech chi\u2019n dod o hyd i le cefnogol yno, sy&#8217;n hwyluso&#8217;r datblygiad hwn, gan eich galluogi i gadw\u2019n driw i chi\u2019ch hun a\u2019ch personoliaeth unigryw ar yr un pryd. Rwy&#8217;n credu\u2019n gryf mai dyma beth wnaeth Prifysgol Caerdydd imi, gan ei bod yn sefydliad blaengar sydd \u00e2\u2019r fantais o fod mewn prifddinas greadigol.<\/p>\n<p>Ddeng mlynedd yn \u00f4l, yn Hydref 2014, dechreuais fy nhaith ar draws y ffin tua Chymru, a chefais fy hun wedi lleoli ar y dramwyfa yn Cathays, sef Heol Colum \u2013 fy milltir sgw\u00e2r newydd! A minnau\u2019n 18 oed bryd hynny, ac yn symud i ffwrdd o gartref am y tro cyntaf, ro\u2019n i ar bigau drain methu aros i roi cychwyn ar antur newydd. Yr hyn a wnaeth y cam newydd hwn yn fwy arwyddocaol oedd fy mod i wedi cael diagnosis o ganser y gwaed sef Lymffoma Hodgkin yn 2011.<\/p>\n<figure id=\"post-10071 media-10071\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 320px;height: 427px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/10\/Ellie-Philpotts-Tate.jpg\" alt=\"\" width=\"329\" height=\"439\" \/><\/figure>\n<p>Er ro\u2019n i wedi cael fy rhyddhau o\u2019r ysbyty erbyn imi ddechrau yn y brifysgol, mae canser yn tueddu i aros yn y cof. Serch hynny, doedd dim ots gen i os oedd unrhyw un y byddwn i\u2019n ei gyfarfod yn gwybod am hyn. Bydd llawer o bobl ifanc sydd wedi goroesi canser yn teimlo\u2019r un peth, sef nad ydyn nhw am i ganser ddiffinio eu hunaniaeth yn gyfan gwbl. Ond, gan mai unigolion yn eu harddegau sy\u2019n cynrychioli carfan gymharol fach o\u2019r rheiny sy\u2019n goroesi canser, ond gwaetha\u2019r modd, un sydd hefyd yn cynyddu bob blwyddyn, roedd gen i awydd cryf i aros yn rhan o\u2019r gymuned a cheisio cefnogi pobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg, pan roedd modd gwneud hynny. Pan o\u2019n i\u2019n newydd i Brifysgol Caerdydd, roedd gen i\u2019r awydd hwnnw o hyd, a hyd heddiw ar \u00f4l degawd arall o fywyd heb ganser, mae wedi aros felly. Caerdydd a wnaeth fy ngalluogi i weithio er yr achos da hwn dros ganser, nad yw bellach yn agos at fy nghalon yn llythrennol, ond bydd yn rhan annatod o\u2019m hunaniaeth am fyth bythoedd.<\/p>\n<p>Y gymdeithas gyntaf a hoeliodd fy sylw yn ystod Ffair y Glas oedd Cardiff Marrow, sy\u2019n gangen o&#8217;r elusen genedlaethol Anthony Nolan. Mae\u2019r gymdeithas yn cysylltu&#8217;r cyhoedd \u00e2 chleifion sy\u2019n dioddef o ganser y gwaed, ac sydd ag angen dirfawr am roddion b\u00f4n-gelloedd sy&#8217;n achub bywydau. Ar \u00f4l ymuno \u00e2\u2019r gymdeithas yn wirfoddolwr heb feddwl ddwywaith, ro\u2019n i&#8217;n falch o allu bod ynghlwm \u00e2\u2019i gwaith drwy gydol fy ngradd a thu hwnt, drwy ei rhaglen i gyn-fyfyrwyr. Wedi imi symud ymlaen i fod yn Gydlynydd y Cyfryngau, gweithiais gyda&#8217;r t\u00eem bach ond nerthol a wnaeth annog myfyrwyr i fod ar y gofrestr rhoddwyr b\u00f4n-gelloedd, gan gynnal digwyddiadau &#8216;rhoddi poer&#8217; ledled y ddinas a lledaenu&#8217;r gair am bwysigrwydd rhoddi gwaed. Gwnaeth hyn oll roi\u2019r hyder imi ymuno \u00e2 nifer fawr o grwpiau eraill sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 chanser, gan gynnwys y <a href=\"https:\/\/www.cardiffstudents.com\/activities\/society\/oncology\/\">Gymdeithas Oncoleg<\/a>. Yn y cyfamser, a minnau\u2019n fyfyriwr Newyddiaduraeth, a thrwy hynny, yn gyfrannwr i gyfryngau\u2019r myfyrwyr, daeth <a href=\"https:\/\/issuu.com\/gairrhydd\/docs\/1087\">straeon a daflodd oleuni ar ymgyrchoedd gofal iechyd lleol<\/a> yn rhan o\u2019m portffolio yn gyson.<\/p>\n<figure id=\"post-10072 media-10072\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"width: 316px;height: 377px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/10\/Ellie-Philpotts-Marrow-award.jpg\" alt=\"\" width=\"315\" height=\"376\" \/><\/figure>\n<p>Roedd Prifysgol Caerdydd yn ei gwneud hi&#8217;n haws imi ymgymryd \u00e2 llawer o bethau \u2013 i fod yn unigolyn a oroesodd ganser a oedd yn awyddus i roi yn \u00f4l, newyddiadurwr uchelgeisiol brwd, ac yn ymgyrchydd elusennol. Os dwi\u2019n cofio\u2019n iawn, y ffordd a wnaeth Prifysgol Caerdydd gyflawni hyn oedd drwy gyfuno profiad y myfyrwyr \u00e2\u2019r ddinas ehangach. O&#8217;i chymharu \u00e2 nifer fawr o brifddinasoedd eraill, mae Caerdydd yn weddol fach a chryno, ond mae\u2019n llawn pobl gyfeillgar, diwylliant a chyfleoedd, a hynny ym mhob twll a chornel. Felly, ro\u2019n i\u2019n teimlo bod y ddinas groesawgar yn fy nghofleidio o bell, hyd yn oed ar gampysau\u2019r brifysgol, lle mae gennych chi dueddiad i aros ynddyn nhw.<\/p>\n<p>Doedd digwyddiadau Prifysgol Caerdydd yn gysylltiedig \u00e2 chanser ddim yn yr ardaloedd arferol i fyfyrwyr, ond ymdrechais i gysylltu \u00e2 phrosiectau lleol nad oedden nhw\u2019n gysylltiedig \u00e2&#8217;r brifysgol. O ganlyniad i gymdeithasau o bob lliw a llun yn y brifysgol, roedd mentro y tu hwnt ac ymhellach, yn llythrennol ac yn drosiadol, yn brofiad llawer mwy didrafferth i\u2019w gychwyn a\u2019i gynnal.<\/p>\n<p>A phan nad oeddwn i\u2019n ymgyrchu dros achos canser, bues i\u2019n rhoi cynnig ar wneud aseiniadau ysgrifennu nad oedden nhw\u2019n academaidd, megis bod yn Olygydd Bwyd yn <a href=\"https:\/\/www.cardiffstudents.com\/activities\/society\/quench\/\">Quench<\/a>. Des i i sylweddoli yn araf deg fod gan Brifysgol Caerdydd nid yn unig cymuned gref o oreswyr canser, ond ar ben hynny, roedd yn lle gr\u00eat i roi eich sgiliau creadigol a choginio ar brawf!<\/p>\n<p>Byddwn i wedi bod wrth fy mod yn byw yng Nghaerdydd hyd heddiw, ond rhai misoedd ar \u00f4l graddio yn 2017, gwnes i wireddu breuddwyd arall, gan symud i brifddinas fywiog arall \u2013 fel y byddech chi\u2019n ei disgwyl, Llundain oedd hynny! Bues i\u2019n byw yno tan ychydig fisoedd yn \u00f4l, pan yn union ddegawd ar \u00f4l symud i Gaerdydd am y tro cyntaf, symudais i i dref newydd unwaith eto, ond y tro hwn i Brighton. Bryd hynny a heddiw, mae gen i gariad at ysgrifennu ac awydd i chwalu\u2019r hud o amgylch y byd oncoleg drwy eiriau, ac rwy&#8217;n ddiolchgar i Brifysgol Caerdydd am osod sylfaen gref sydd wedi bod o fudd ac wedi fy arwain yn fy ngyrfa hyd yma.<\/p>\n<p>Rwy wedi treulio&#8217;r rhan fwyaf o fy ngyrfa yn gweithio\u2019n newyddiadurwr iechyd, a bellach, rwy\u2019n treulio fy wythnosau yn golygu ar gyfer y Coleg Nyrsio Brenhinol ar yr naill llaw, ac yn adrodd, ysgrifennu, a gwneud prosiectau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 chanser yn rhinwedd swydd gweithiwr llawrydd ar y llall. A minnau\u2019n bwriadu cwblhau llyfr ar sail fy mhrofiadau o ganser a chefnogi cleifion ifanc eraill cyn imi droi\u2019n 30 oed, rwy&#8217;n cael fy hun yn cofio cychwyn y cyfan mewn dinas a berodd imi sylweddoli y gall cydweithio dros ganser dalu ar ei ganfed. Gwnes i adael y brifysgol gyda mwy o uchelgeisiau, gwersi, ac atgofion hapus nag y byddwn i erioed wedi\u2019i ragweld, a minnau\u2019n glaf ifanc bryd hynny a oedd yn dyheu am ddyfodol y tu hwnt i wardiau Ymddiriedolaeth Canser Pobl Ifanc yn eu Harddegau.<\/p>\n<p><strong>Gallwch chi ddod o hyd i Ellie ar X yn <a href=\"https:\/\/x.com\/eleanor__p\">@eleanor__p<\/a> ac ar LinkedIn <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/ellie-philpotts-256758101\/\">yma<\/a>. <\/strong><\/p>\n<p><strong><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/category\/cyswllt-caerdydd\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/\">\u2018I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr\u2019<\/a> yw ein cyfres newydd o flogiau sy\u2019n rhoi sylw i\u2019r straeon yr hoffech chi s\u00f4n amdanyn nhw wrth eich cyfoedion. Efallai eich bod chi\u2019n rhan o brosiect cymunedol anhygoel neu fod eich sefydliad yn arloesi ac yn datrys problemau?\u202f<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\">Cyflwynwch eich syniad.<\/a><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Newyddiadurwr llawrydd, golygydd cynnwys, ac ymgyrchydd gofal iechyd yw Ellie Philpotts (BA 2017). Ar \u00f4l cael diagnosis o ganser y gwaed yn ei harddegau, aeth Ellie ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, gan weithio i gefnogi unigolion eraill \u00e2 chanser.","protected":false},"author":904,"featured_media":10070,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,202,170],"tags":[],"class_list":["post-10076","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10076","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10076"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10076\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10087,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10076\/revisions\/10087"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10070"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10076"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10076"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10076"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}