{"id":10011,"date":"2024-10-04T08:35:32","date_gmt":"2024-10-04T08:35:32","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=10011"},"modified":"2024-10-04T08:35:32","modified_gmt":"2024-10-04T08:35:32","slug":"rhedeg-hanner-marathon-caerdydd-er-cof-am-fy-nhad-cu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2024\/10\/04\/rhedeg-hanner-marathon-caerdydd-er-cof-am-fy-nhad-cu\/","title":{"rendered":"Rhedeg Hanner Marathon Caerdydd er cof am fy nhad-cu"},"content":{"rendered":"<p><strong>Bydd Darshni Vaghjiani (Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth 2022-) yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref er cof am ei diweddar dad-cu.<\/strong><\/p>\n<p><strong>A hithau\u2019n aelod o #TeamCardiff, mae hi&#8217;n codi arian ar gyfer ymchwilwyr yma ar y campws, sy&#8217;n gwella canlyniadau i bobl sy&#8217;n byw gyda rhai o&#8217;r canserau mwyaf cyffredin. Ar \u00f4l cyrraedd ei tharged o ran codi arian yn barod, mae Darshni yn myfyrio ar ei hyfforddiant hyd yn hyn yn ogystal \u00e2&#8217;i chefnogaeth gan deulu a ffrindiau.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Beth wnaeth eich ysbrydoli chi i gofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd a chodi arian ar gyfer ymchwil canser Prifysgol Caerdydd?<\/strong><\/p>\n<p>Roeddwn i\u2019n agos iawn gyda fy nhad-cu, ac yn 2020 cafodd ddiagnosis o ganser terfynol a bu farw ychydig yn ddiweddarach.<\/p>\n<p>Yn gynharach eleni, rhedodd fy nhad Jeetendra Farathon Llundain ar gyfer ymchwil canser ac er cof am fy nhad-cu, ac roedd BBC News wedi ysgrifennu erthygl fach amdano. Fe wnaeth hyn fy ysbrydoli i ddechrau rhedeg fy hun fis Mawrth diwethaf, ac roeddwn i eisiau rhedeg fy Hanner Marathon cyntaf er cof am fy nhad-cu hefyd. Roeddwn i&#8217;n meddwl mai rhedeg gyda #TeamCardiff a chodi arian ar gyfer ymchwil canser fy Mhrifysgol fyddai&#8217;r ffordd orau o wneud hyn.<\/p>\n<p><strong>Pryd dechreuoch chi redeg a pham?\u202f\u202f<\/strong><\/p>\n<p>Tua mis Mawrth, aeth Tanvi, fy ffrind t\u0177, a fi drwy gyfnod llawn straen ac fe wnaethon ni benderfynu bod angen i ni fynd allan o&#8217;n t\u0177 a gwneud rhywfaint o ymarfer corff. Felly, gyda&#8217;n gilydd, dechreuon ni redeg bob wythnos. Rwy&#8217;n teimlo bod rhedeg yn ffordd dda o leddfu straen ac yn teimlo bod fy iechyd meddwl wedi gwella lawer.<\/p>\n<p>Yn ystod ein hwythnos gyntaf o redeg, fe wnaethon ni redeg tair milltir, a&#8217;r wythnos ar \u00f4l fe wnaethon ni redeg chwe milltir. Yna, yn ein trydedd wythnos o redeg gyda&#8217;n gilydd, fe wnaethon ni lwyddo rhedeg deg milltir \u2013 felly, ar y diwrnod hwnnw, penderfynodd y ddau ohonon ni ymuno \u00e2 Hanner Marathon Caerdydd. Ers hynny, rydyn wedi bod yn ymarfer gyda&#8217;n gilydd yng Nghaerdydd a phan fydda i n\u00f4l adref yn Llundain, rwy&#8217;n rhedeg gyda fy nhad bob bore Sul.<\/p>\n<p><strong>Beth yw eich cynlluniau ymarfer yn ystod yr wythnosau cyn y ras?<\/strong><\/p>\n<p>Rwy&#8217;n Llywydd Cymdeithas Asiaidd Prifysgol Caerdydd, felly penderfynais i ddechrau t\u00eem rhedeg Cymdeithas Asiaidd, ochr yn ochr \u00e2&#8217;n timau chwaraeon eraill. Rydyn ni&#8217;n rhedeg gwahanol bellteroedd bob wythnos.<\/p>\n<p>Rwy hefyd yn rhedeg chwe milltir gyda fy ffrind t\u0177 bob dydd Llun ac yn ceisio cynyddu fy nghyflymder. Yna ar ddydd Sul, pan fydda i\u2019n rhedeg gyda fy nhad, rwy&#8217;n anelu at redeg pellteroedd hirach.<\/p>\n<figure id=\"post-10006 media-10006\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"width: 370px;height: 326px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/10\/Darshni-2-scaled-e1728030316148.jpg\" alt=\"\" width=\"339\" height=\"297\" \/><\/figure>\n<p><strong>Beth ydych chi&#8217;n edrych ymlaen ato ar ddiwrnod y ras?\u202f<\/strong><\/p>\n<p>Gweld fy ffrindiau yn fy nghefnogi, rhedeg fy hanner marathon cyntaf gyda fy ffrind gorau, a mwynhau\u2019r awyrgylch gyda channoedd o redwyr.<\/p>\n<p>Mae fy nheulu a fy ffrindiau yn falch iawn fy mod i\u2019n rhedeg y ras \u2013 ac rwy&#8217;n ddiolchgar iawn iddyn nhw am gyfrannu at fy nhudalen <a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/page\/darshnivaghjiani\">JustGiving<\/a> am yr achos pwysig iawn hwn.<\/p>\n<p><strong>Beth fyddech chi&#8217;n ei ddweud wrth rywun arall sy&#8217;n ystyried rhedeg i godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd?<\/strong><\/p>\n<p>Cofrestrwch ac ewch amdani! Nid oes gennych chi unrhyw beth i&#8217;w golli a llawer i&#8217;w ennill.<\/p>\n<p><strong>Noddwch Darshni <\/strong><br \/>\n<strong>\u202f<\/strong><br \/>\nNoddwch Darshni ar <a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/page\/darshnivaghjiani\">JustGiving<\/a> a&#8217;i helpu i roi hwb i&#8217;w chyfanswm codi arian.<\/p>\n<p><strong>Rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref\u202f<\/strong><\/p>\n<p>Oes gennych chi le ar Hanner Marathon Caerdydd? Bydden ni wrth ein bodd petaech chi\u2019n ymuno \u00e2 #TeamCardiff a chefnogi ymchwil canser neu niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\/run-the-cardiff-half-marathon\">Rhagor o wybodaeth.<\/a><\/p>\n<p><strong>Ymgymryd \u00e2 her egn\u00efol wahanol\u202f<\/strong><\/p>\n<p>Does dim rhaid i chi fod yn rhedwr hanner marathon i godi arian! Beth bynnag yw lefel eich ffitrwydd neu allu, mae digwyddiadau yn cael eu trefnu y gallwch chi ymuno \u00e2 nhw yn rhan o #TeamCardiff. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\">Dyma\u2019r ystod lawn o heriau sydd ar gael.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Bydd Darshni Vaghjiani (Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth 2022-) yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref er cof am ei diweddar dad-cu.\r\n\r\nA hithau\u2019n aelod o #TeamCardiff, mae hi'n codi arian ar gyfer ymchwilwyr yma ar y campws, sy'n gwella canlyniadau i bobl sy'n byw gyda rhai o'r canserau mwyaf cyffredin.","protected":false},"author":904,"featured_media":10005,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[212,166,204,170],"tags":[],"class_list":["post-10011","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-teamcardiff-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-donate-cy","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10011","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10011"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10011\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10013,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10011\/revisions\/10013"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10005"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10011"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10011"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10011"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}