Skip to main content

NewyddionUncategorized @cy

Sut i fod yn y cyflwr gorau posibl ar ddiwrnod y ras – pum awgrym defnyddiol #TîmCaerdydd

21 Medi 2018
Charlotte Arter (right)

I’n rhedwyr o #TîmCaerdydd, mae Hanner Marathon Caerdydd yn prysur agosáu. Gofynnom i Charlotte Arter, Swyddog Chwaraeon Perfformiad Prifysgol Caerdydd, athletwr o dîm rhyngwladol Prydain, a phencampwr 10,000m 2018 Prydain, am bum awgrym ar gyfer cyrraedd y llinell ddechrau yn y cyflwr gorau posibl.

  1. Mae llai yn fwy

    Ar y cam hwn rydych chi’n agosáu at yr wythnosau olaf cyn y ras. Peidiwch â chael eich temtio i wneud mwy yn ystod yr wythnosau hyn, cynhaliwch yr hyn rydych wedi’i wneud yn barod ac arafwch tan wythnos y ras er mwyn i chi deimlo’n ffres a pharod.

  2. Gwrandewch ar eich corff

    Os ydych wedi blino neu os oes rhywbeth yn brifo, byddwch yn bwyllog am ychydig ddiwrnodau. Mae’r holl waith caled wedi’i wneud dros y misoedd diwethaf felly peidiwch â rhoi’r holl hyfforddi rydych chi wedi’i wneud dros y misoedd mewn perygl.

  3. Mae adfer yn hollbwysig

    Mae’n rhaid i chi fwyta, gorffwys a chysgu’n dda!

  4. Peidiwch â newid unrhyw beth cyn diwrnod y ras

    Peidiwch â newid eich dillad rhedeg na’ch esgidiau, eich amserlen ddyddiol, na’ch bwyd a diod. Cadwch at yr hyn sy’n gyfarwydd!

  5. Mwynhewch!

    Rydych chi wedi gweithio mor galed i gyrraedd diwrnod y ras, felly mwynhewch, cymerwch fantais o’r awyrgylch anhygoel a dathlwch ar ôl gorffen!

Yn ogystal â gwneud yn siŵr eich bod wedi eich paratoi, mae’n amser gwych i weld sut mae eich ymdrech i godi arian yn dod yn ei blaen. Dyma gwrw #TîmCaerdydd Hannah Sterritt yn sôn am wneud yn siŵr bod eich ymdrechion i godi arian ar y trywydd iawn hefyd:

“Mae’n amser gwych i rannu eich stori codi arian â’ch cyfoedion. Mae’r ffaith bod diwrnod y ras yn agosáu yn siŵr o ysgogi rhai pobl i gyfrannu wrth iddynt gael blas ar y dasg sydd o’ch blaen. Un dacteg dda yw rhannu’r newyddion diweddaraf yn ystod y broses gyfan gan fod 20% o gyfraniadau yn cael eu gwneud ar ôl i’r digwyddiad orffen. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n diweddaru eich tudalen JustGiving ac yn sôn am sut aeth y ras ar ôl gorffen!”