Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Sut gwnaeth cynnig interniaeth gynnig safbwynt newydd a brwdfrydedd

28 Medi 2018

Wrth i interniaeth Tanya Harrington, (sy’n astudio Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant ers 2016) ddod i ben gyda Cymorth Cymru, cawsom air gyda Oliver Townsend (BSc 2011), Rheolwr Polisiau a Materion Allanol y mudiad ynghylch ei brofiadiau yn cynnig lleoliadau gwaith i’r genhedlaeth nesaf o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Tanya (centre), Cymorth Cymru’s most recent intern

Fel un o raddedigion Prifysgol Caerdydd, rwy’n falch o fod wedi gallu cynnig interniaeth gyflogedig trwy’r cynllun Santander a Phrifysgol Caerdydd ers tair blynedd bellach. Fe wnes i elwa’n fawr o’r cyfle i wirfoddoli pan oeddwn yn y brifysgol, a rhan bwysig iawn o werthoedd Cymorth yw rhoi’r un cyfleoedd i bobl ifanc ag y gawsom ni – ond hefyd gwneud yn siŵr eu bod yn cael tal teg am eu hamser.

Dair blynedd yn ôl, roeddem yn chwilio am ffordd o gynyddu gallu ein sefydliad i gynnal ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth am nawdd i bobl fregus. Fel tîm bach o chwech, roedd hyn yn hynod o bwysig i ni. Cododd y syniad o interniaid yn y drafodaeth, ac fe benderfynom weithio gyda’r Brifysgol er mwyn dod o hyd i ffordd o gynnal y rhaglen am flwyddyn.

Gweithiodd hyn yn dda iawn. Roedd hi’n bleser gweithio gyda’r intern cyntaf (a’r lleill hefyd!) a gydweithiodd gyda ni i lunio’r rhaglen ar gyfer y blynyddoedd i ddod. O’r cychwyn cyntaf, roeddwn eisiau sicrhau bod yr interniaeth yr un mor fuddiol i’w datblygiad a’i gofynion nhw ag yr oedd i ni.

Penderfynais yn syth y byddem yn trin yr intern yn union fel pe baent yn aelod staff amser llawn, gyda thrafodaethau un i un cyson, cyfarfodydd i drafod cynlluniau gwaith a phennu targedau clir – ar gyfer yr intern a minnau. Gofynnais i’r intern beth oedd ei nod, fel gyrfa ac yn ystod y lleoliad, ac fe gymerais gyfrifoldeb dros sicrhau ei bod yn cyflawni’r nodau hynny.

Roedd cael intern ar leoliad gyda’n sefydliad yn hynod gadarnhaol ac yn heriol ar gyfer ein sefydliad. Er fy mod yn dweud bod cael intern yn heriol, dwi ddim yn golygu hynny yn ystyr traddodiadol y gair. Yn llythrennol, roedd wedi herio ein ffordd o weithio ac yn awgrymu ffyrdd newydd y gallwn ymdrin â thasgau. Mae wedi rhoi hyder i aelodau eraill o staff wrth i bob un fentora a chefnogi interniaid yn eu maes gwaith.

Yn ogystal, mae’r ffordd y mae myfyrwyr, naill ai’n syth ar ôl gadael y Brifysgol, neu o fewn y Brifysgol yn gweld y byd yn cynnig safbwynt gwahanol iawn. Mae’n hawdd iawn gweld sut gallwch ddiflasu ar swydd undonog, weithiau yn ymladd yr un brwydrau gyda gwahanol bobl. Yn aml, mae gweld faint o bleser a chyffro mae’r ymgyrchoedd wedi’u rhoi i’r interniaid wedi rhoi hwb o’r newydd i fy mrwdfrydedd innau o bryd i’w gilydd – a bod y cyfan werth yr ymdrech wedi’r cwbl.

Yn syml, byddai’n hymgyrchoedd wedi methu heb gefnogaeth ein interniaid priod.

Rwy’n credu ei bod yn hanfodol annog cynfyfyrwyr i gynnig interniaethau – fel gwaith ystyrlon, cyflogedig. Mae’n ein cysylltu â chenedlaethau eraill, yn cadw syniadau yn ffres, yn herio ein ffordd o weithio, yn ein hatgoffa pam yr ydym yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud, ac mae’n sicr wedi newid y ffordd rwy’n gweithio gyda phobl. Mae pob un o’r tri intern wedi dysgu gymaint i mi wrth gydweithio â nhw, a byddem yn argymell unrhyw un i ddilyn y rhaglen mewn amrantiad.