Skip to main content

Cyswllt CaerdyddDigwyddiadauNewyddion

Sesiwn Holi ac Ateb #TîmCaerdydd gyda Charlotte Arter

1 Gorffennaf 2020
TeamCardiff

Cafodd ein Capten #TîmCaerdydd, Hannah Sterritt, gyfle i ddal lan gyda’r athletwr rhyngwladol, Charlotte Arter, am sesiwn holi ac ateb ddifyr iawn. Charlotte sydd â’r record hanner marathon Cymru, record y byd parkrun menywod, ac mae’n athletwr rhyngwladol dros Brydain.

Ymunodd â ni i ateb ychydig o gwestiynau ar dorri ei record parkrun ei hun, ei hoff esgidiau rhedeg, ac ychydig o syniadau ac awgrymiadau ar hyfforddi a chymhelliant.

Lleoedd rhad ac am ddim ar gyfer codwyr arian – Ymunwch â #TeamCardiff

TîmCaerdydd yw tîm codi arian Prifysgol Caerdydd ac mae ganddo 350 o redwyr yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd, gyda chodwyr arian un ai’n cefnogi ymchwil canser neu ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae gennym ychydig o leoedd am ddim i’n codwyr arian, a bydd 100% o’r arian a godwch yn cyfrannu’n uniongyrchol at ymchwil blaengar y Brifysgol.

Drwy redeg Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd ar gyfer ymchwil canser ac ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, byddwch yn helpu i godi arian a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae ymchwilwyr yng Nghaerdydd yn gweithio’n galed i ddatblygu technegau diagnosis cynt, a chreu triniaethau mwy effeithiol wedi’u personoli, gyda’r gobaith y gallwn ryw ddydd ddarganfod iachâd

Ymchwil sy’n ysgogi newid – helpwch yn y frwydr yn erbyn y clefydau distrywiol yma. Dysgwch fwy am #TîmCaerdydd.