Skip to main content

Arts, Humanities & Social SciencesEin Cyn-fyfyrwyrMusicUncategorized @cy

Sebastián Wanumen Jiménez (MA 2015)

11 Gorffennaf 2018
Sebastián Wanumen Jiménez
Sebastián Wanumen Jiménez

Mae Sebastián Wanumen Jiménez (MA, 2015) yn ddarlithydd mewn Hanes Cerddoriaeth a Dadansoddi Cerddorol ym Mhrifysgol Corpas, Bogotá.  Cwblhaodd Sebastián MA mewn Cerddoleg yn yr Ysgol Cerddoriaeth.

Byddaf bob amser yn ddiolchgar i Brifysgol Caerdydd. Roedd ystod enfawr o bynciau ar gael i mi yn yr Ysgol Cerddoriaeth, gydag amrywiaeth o ddarlithwyr profiadol sy’n adnabyddus yn y byd academaidd. Yn fy astudiaethau israddedig roedd eu henwau’n cael eu dyfynnu’n aml ac roeddwn i’n gyfarwydd â’u gwaith ac yn awyddus i gael fy addysgu ganddyn nhw.

Roedd y gyfadran a’r staff yn yr Ysgol Cerddoriaeth bob amser yn barod i helpu. Roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi fy nghefnogi a chefais fy annog i wella fy mherfformiad fel cerddolegydd. O ganlyniad, roedd fy nghyd-fyfyrwyr a’r myfyrwyr PhD bob amser yn cydweithio ac yn edrych ymlaen at weld ymchwil ei gilydd.

Roedd mynd i Brifysgol Caerdydd yn gam hanfodol er mwyn cyflawni fy nodau.

Ar ôl graddio yn 2015, cefais fy ngwahodd i fod yn athro gwadd mewn cerddoriaeth gyda chymrodoriaeth yng Ngweinyddiaeth Diwylliant Colombia yn La Universidad Pedagógica y Tecnológica de Colombia.

Yn 2016, cefais fy mhenodi’n Ddarlithydd Hanes Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Corpas yn Bogotá. Ers hynny rydw i wedi addysgu Hanes Cerddoriaeth a Dadansoddi i fyfyrwyr israddedig sy’n canolbwyntio ar berfformio cerddoriaeth, hanes cerddoriaeth Ewrop yn yr ugeinfed ganrif, a cherddoriaeth America Ladin yn yr ugeinfed ganrif. Rydw i hefyd yn ymchwilio i ddulliau ar gyfer gwella technegau addysgu ar gyfer dadansoddi cerddoriaeth a theori cerddoriaeth.

Pan gefais fy mhenodi ym Mhrifysgol Corpas, yn ystod yr un flwyddyn cefais fy ngwahodd gan Gerddorfa Symffoni Genedlaethol Colombia i ysgrifennu rhai o’u nodiadau rhaglen ar gyfer y tymor. Yn 2017 a 2018, des i’n anodydd swyddogol y Gerddorfa.

Ar ddechrau 2018, cefais fy mhenodi hefyd yn ddarlithydd rhan-amser yn y Brifysgol Bedagogaidd Genedlaethol. Mae gweithio yno ac ym Mhrifysgol Corpas wedi bod yn gymaint o fraint.

Ym mis Mawrth 2018, cefais fy nerbyn ar raglen PhD Cerddoleg Prifysgol Boston. Cefais ysgoloriaeth lawn am bum mlynedd a byddaf yn symud i Boston ym mis Medi.

Byddaf yn cofio fy amser yng Nghaerdydd fel cyfnod dynamig, cefnogol, cyfeillgar, gweithgar a rhyngddiwylliannol.


Arts, Humanities & Social SciencesMusicOur Alumni

Sebastián Wanumen Jiménez (MA 2015)

11 Gorffennaf 2018
Sebastián Wanumen Jiménez
Sebastián Wanumen Jiménez

Sebastián Wanumen Jiménez (MA 2015) is a Lecturer in History of Music and Musical Analysis at Corpas University, Bogotá.  Sebastián carried out an MA in Musicology at the School of Music. (rhagor…)