Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Lansio Strategaeth y Gymraeg Newydd

25 Mawrth 2021
Main building

Yn ddiweddar, lansiodd y Brifysgol Strategaeth Gymraeg newydd a chynhwysfawr a fydd yn canolbwyntio ar ddathlu, hyrwyddo a chysylltu â’r Gymraeg ar draws pob agwedd ar fywyd y Brifysgol. Mae’r strategaeth yn cynnig agenda diwylliannol a chymunedol clir a diffiniedig, wedi’i chynllunio i ategu a chyfrannu at ddyheadau ymchwil, addysgu a rhyngwladol cyffredinol y Brifysgol.

Dywedodd Dr Huw Williams, Deon yr Iaith Gymraeg; “Mae’r strategaeth yn gynllun cyffrous ar gyfer symud ymlaen gyda’n gilydd i ddathlu a datblygu bywyd Cymraeg i fyfyrwyr, staff a chynfyfyrwyr. Mae hefyd yn gyfle i ymestyn ymhellach i’r cymunedau lleol rydyn ni’n eu gwasanaethu, canoli ein hynodrwydd fel sefydliad yn fyd-eang, a chyflawni cyfraniad gwell at fywyd diwylliannol, economaidd a gwleidyddol Cymru a’r byd.

Mae lansiad cyhoeddus ar gyfer y strategaeth wedi’i gynllunio ar gyfer dechrau’r haf, a fydd yn anelu at ymgysylltu’n benodol â’n cymuned o gyn-fyfyrwyr. Yn y cyfamser, os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y strategaeth neu os hoffech drafod ei nodau, cysylltwch â Huw ar williamsh47@caerdydd.ac.uk.

Rydym yn chwilio am fwy o gynfyfyrwyr Cymraeg i gymryd rhan. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi.