Skip to main content

Cyswllt CaerdyddPam Prifysgolion?

Mae Prifysgolion i bawb

17 Rhagfyr 2018

Mae Naomi Owen (BA 2018, Cyfryngau Digidol a Chymdeithas 2018-) newydd orffen ei blwyddyn olaf fel myfyriwr Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac ar fin dechrau gradd Meistr mewn Cyfryngau Digidol a Chymdeithas.

“Roedd un funud, y Nadolig diwetha’, pan gerddodd mam trwy’r drws gyda pharseli o’r banc bwyd, a finnau’n meddwl, ‘Beth sydd ar fy mhen i, yn meddwl galla i gael gradd prifysgol?’

Ond wedi cyrraedd nôl yng Nghaerdydd a chlywed y newyddion fy mod wedi cael fy newis i dderbyn Gwobr Thomas James, cefais obaith mawr. Roedd y ffaith bod sefydliad o fri wedi fy nghydnabod fel myfyriwr gyda’r potensial i lwyddo yn deimlad dwys iawn.

Doedd dim sicrwydd na disgwyliad y byddem yn mynd i’r Brifysgol. Rwy’n dod o deulu dosbarth gweithiol a fi oedd y cyntaf i wneud cais Prifysgol hyd yn oed. Roeddwn i’n teimlo allan o fy nyfnder. Ond wedi gwrando ar yr athrawon yn fy ysgol gyfun, cefais ffydd yn fy ngallu, a gwnes gais.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi newid fy mywyd, fy hunaniaeth a fy meddylfryd mewn cymaint o ffyrdd cymhleth ac annisgwyl.

Y newid pwysicaf oedd sylweddoli na ddylem deimlo cywilydd am bwy ydw i a beth yw fy nghefndir. Dywedwyd wrthyf unwaith fod fy arddull ysgrifennu yn gallu bod yn rhy astrus. Roeddwn yn ceisio celu’r ffaith fy mod yn ferch dosbarth gweithiol gydag acen o Abertawe ac yn annhebygol o lwyddo yn academaidd. Nawr, rwy’n cadw atgoffa fy hun, trwy fod yn awdur dosbarth gweithiol sydd â phrofiadau i’w rhannu, mae ymyrraeth ddiwylliannol gadarnhaol eisoes ar y gweill.

Mae’r Brifysgol wedi agor drysau i mi nad oeddwn i’n gwybod amdanynt. Rwyf wedi dysgu syniadau a chysyniadau sydd wedi rhoi cipolwg i mi pam y mae pethau fel y maen nhw yn ein cymdeithas. Ac mae gen i syniadau gweithredol am sut i wneud newidiadau.

Pan ges i’r pleser o gyfarfod [mam James] Mrs Thomas, dywedodd rhywbeth a wnaeth argraff arnaf. Dywedodd bod y Brifysgol yn cynnig y cyfle i bobl ifanc dyfu a ffynnu mewn rhwydwaith ddiogel, warchodedig. Roedd hi yn llygad ei lle.

Gyda’r wybodaeth yr wyf wedi meddu a’r cymorth a dderbyniais, rwy’n hyderus bod gen i ddyfodol cadarnhaol.

Gefnogi myfyrwyr fel Naomi gyda rhodd i newid bywyd

Hefyd yn y gyfres: