Skip to main content

Arts, Humanities & Social SciencesEin Cyn-fyfyrwyrMusicUncategorized @cy

Gareth Churchill (PhD 2008)

25 Gorffennaf 2018
Gareth Churchill
Gareth Churchill

Dychwelodd Gareth Churchill (PhD 2008), y cyfansoddwr llawrydd, i Gymru i astudio’n ôl-raddedig ac yn priodoli ei fethodolegau gwaith i Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd.

A minnau’n Gymro, roedd y posibilrwydd o astudio’n ôl-raddedig yng Nghymru yn fy nenu yn naturiol ar ôl gwneud BMus yn Llundain. Roedd ffocws ymchwil a staff yr Ysgol Cerddoriaeth i weld yn cyd-fynd â ngwaith fy hun yn ôl pob golwg, ac argymhellwyd yr athro cyfansoddi (Anthony Powers ar y pryd) yn gryf gan fy athro blaenorol.

Y peth gorau dwi’n ei gofio yw amgylchedd ‘teuluol’ yr ysgol – roedden ni gyd yn dysgu ac yn elwa o brofiadau eraill (cyfoedion a staff ill dau) yn yr amgylchedd hwnnw.

Ar ôl graddio, fe wnes i barhau â rhywfaint o addysgu israddedig yn yr Ysgol Cerddoriaeth (rhywbeth yr oeddwn i wedi gwneud trwy gydol y PhD), datblygu fy mhortffolio proffesiynol a meithrin a datblygu perthynas gyda gwyliau a pherfformwyr.

Dwi bellach yn gyfansoddwr llawrydd ac yn athro cerddoriaeth yn Nghanolfan Addysg Barhaus a Phroffesiynol Prifysgol Caerdydd lle dwi’n gweithio gyda dysgwyr sy’n oedolion. Ar wahân i hynny, dwi’n caniatáu amser i mi gyfansoddi bob dydd i sicrhau nad ydw i’n colli’r meddylfryd sy’n ofynnol wrth ddatblygu gwaith penodol.

Hyd ymaq, dwi wedi derbyn comisiynau gan ŵyl Bro Morgannwg, New Music Bangor a Musicfest Aberystwyth. Dwi wedi cael cyngherddau cyntaf gan artistiaid megis Catrin Finch, Iestyn Davies a Cherddorfa Cenedlaethol BBC Cymru ac, yn 2018, cynhaliwyd digwyddiad golau cylch gan Ensemble Cymru ar fy ngwaith yn Chapter, Caerdydd.

Go brin y baswn i gystal cyfansoddwr heddiw heb y profiadau a gefais yn ystod fy astudiaethau yn yr Ysgol Cerddoriaeth. Roedd y profiadau hyn yn hanfodol wrth lunio methodoleg fy ngwaith ac maen nhw’n parhau i fod wrth wraidd fy egwyddorion craidd.

Pe gallwn i rannu unrhyw gyngor gyda myfyrwyr y dyfodol, byddwn yn eu hannog i ddod o hyd i gydbwysedd rhwng yr hyn sydd gan y Brifysgol i’w gynnig a mwynhau’r profiad. Gwnewch y mwyaf o’r holl brofiadau a gyflwynir yn yr amgylchedd cefnogol sydd ar gael ar eich cyfer.


Arts, Humanities & Social SciencesMusicOur Alumni

Gareth Churchill (PhD 2008)

25 Gorffennaf 2018
Gareth Churchill
Gareth Churchill

Freelance composer Gareth Churchill (PhD 2008) returned to Wales for postgraduate study and attributes his working methodologies to Cardiff University’s School of Music. (rhagor…)