Skip to main content

Arts, Humanities & Social SciencesEin Cyn-fyfyrwyrModern LanguagesUncategorized @cy

Emma Garnett (BA 2015)

10 Hydref 2018
Emma Garnett
Emma Garnett

Mae Emma Garnett (BA 2015) yn Gynorthwy-ydd Cyfrifon Allweddol ar gyfer busnes technoleg rheilffordd, sydd â throsiant blynyddol o £0.5 biliwn. Yn ôl Emma, a astudiodd Saesneg Iaith a Ffrangeg, “mae bob amser yn bleser dychwelyd i Gaerdydd”.

Cefais fy magu yn ne Cymru felly roeddwn yn awyddus i fanteisio ar gael un o Brifysgolion Grŵp Russell ar stepen fy nrws. Cefais fy nenu at y graddau cydanrhydedd yr oedd Caerdydd yn eu cynnig, oedd yn berffaith i rywun fel fi fu’n cael trafferth penderfynu beth i’w astudio. Roeddwn wedi gallu cyfuno pwnc yr oeddwn wedi rhagori ynddo’n gyson yn yr ysgol, gyda phwnc oedd o ddiddordeb mawr i mi.

Fy mlwyddyn dramor yn Ffrainc oedd fy hoff ran o’m gradd. Yn ôl pob tebyg, ni fyddwn cael y cyfle hwn oni bai am fy nghradd ym Mhrifysgol Caerdydd. Bues i drwy gyfnodau anodd yn ogystal â chael digonedd o hwyl, ond roedd cefnogaeth staff yr Ysgol Ieithoedd Modern yn ddiwyro drwy gydol yr amser. Roeddwn yn arbennig o falch o allu rhoi cyflwyniadau ar fywyd yng Nghymru i ddosbarthiadau y bûm yn eu haddysgu mewn ysgol uwchradd leol ger Chambéry, lle’r oeddwn yn byw yn Ffrainc.

Heddiw, rwy’n gweithio i dîm Rheoli Cyfrifon Allweddol mewn cwmni byd-eang. Rwy’n gweithio yn y diwydiant rheilffyrdd ac yn cyfrannu at ddatblygu strategaethau ennill cytundebau gwaith er mwyn uwchraddio isadeiledd rheilffyrdd y DU ar gyfer yr oes ddigidol. Rwy’n ymgysylltu â’n cleient mwyaf yn ogystal â chadw llygad ar gyfleoedd newydd i gael cytundebau gwaith.

Ers imi raddio, rwyf wedi gweithio ar draws maes cyfathrebu, gan wneud popeth o ysgrifennu cylchlythyron gweithwyr a phrawfddarllen datganiadau i’r wasg, i reoli cysylltiadau cwsmeriaid a datblygu hwb data deallusrwydd busnes.

Bu fy ngradd ym Mhrifysgol Caerdydd yn fodd o fodloni fy obsesiwn â iaith, ac fe wnaeth fy annog i weithio ym maes cyfathrebu. Fe wnaeth fy modiwl ar anhwylderau cyfathrebu fy ysbrydoli i wirfoddoli mewn clwb ar gyfer plant ag awtistiaeth. Cefais fy nghyflwyno i gymuned newydd a hyfryd y bues i’n cydweithio â hi wedi hynny am amryw o flynyddoedd.

Pe gallwn gynnig ychydig o gyngor i fyfyrwyr presennol, byddwn yn awgrymu eu bod yn treulio amser yn penderfynu pa ddulliau dysgu ac adolygu sy’n gweithio orau iddynt hwy. P’un a bod hynny’n golygu defnyddio cardiau fflach, ysgrifennu tudalennau o nodiadau neu drafod pwnc yn fanwl gyda chymheiriaid, mae’n werth gweld a yw hynny’n golygu eich bod yn cadw mwy o wybodaeth ac, yn y pen draw, yn perfformio’n well mewn asesiadau.

Mae fy argraff barhaol o’r Brifysgol yn dechrau gyda fy nhiwtoriaid – rwy’n dal mewn cysylltiad â rhai ohonyn nhw ar LinkedIn a’r cyfryngau cymdeithasol. Maent yn dod yn rhieni ac yn ffrindiau i chi, ac yn gwneud popeth y gallant i’ch helpu i ffynnu. Mae bob amser yn bleser dychwelyd i Gaerdydd gan mai’r peth cyntaf a welwch wrth ddod oddi ar y trên yw arwydd sy’n eich croesawu i ‘gartref Prifysgol Caerdydd’.


Arts, Humanities & Social SciencesModern LanguagesOur Alumni

Emma Garnett (BA 2015)

10 Hydref 2018
Emma Garnett
Emma Garnett

Emma Garnett (BA 2015) is a Key Account Assistant for a railway technology business which has an annual turnover of £0.5 billion. Emma, who studied English Language and French, says “it’s always a joy to return to Cardiff”. (rhagor…)