Skip to main content

News

Eisteddfod 2017

25 August 2017

Helo! Rhys Fletcher (BScEcon 2015) ydw i, ac rwy’n rhan o’r Tîm Cysylltiadau Cynfyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwy’n gofalu am ein Llysgenhadon Cynfyfyrwyr, cynfyfyrwyr sydd am ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Mae wythnos gyntaf Awst yn amser pwysig i’r gymuned Gymreig gan mai dyna pryd y cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Mae’r ŵyl, sy’n para wyth diwrnod, yn ddathliad o gerddoriaeth, dawns, llenyddiaeth a diwylliant Cymru, ac mae’n denu 150,000 o ymwelwyr a thros 250 o stondinau masnach. Yn ystod yr wythnos, cafodd sgyrsiau a thrafodaethau eu cynnal ym mhabell Prifysgol Caerdydd o dan y thema Cysylltu Caerdydd – sut mae Prifysgol Caerdydd a’i myfyrwyr, ei staff a’i chynfyfyrwyr wedi’u cysylltu â Chymru a thu hwnt.

Roeddwn yn ffodus iawn o allu mynd i’r Eisteddfod eleni ar ran y tîm Cysylltiadau Cynfyfyrwyr a chynnal ein haduniad cyntaf erioed ar gyfer cynfyfyrwyr. Roedd yn gyfle gwych i rannu ein cyfleoedd gwirfoddoli newydd a chyffrous gyda chynfyfyrwyr ac annog y rhai oedd yno i rannu eu hoff atgofion o astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol a ddenodd dros 60 o gynfyfyrwyr. Fe wnes i fwynhau gweld cynfyfyrwyr yn rhannu straeon am eu hamser yn astudio yng Nghaerdydd. Bu’r Goeden Atgofion yn boblogaidd ac fe’i haddurnwyd â llawer o atgofion lliwgar erbyn diwedd y digwyddiad. Dywedodd Ellen Jane Carter (BA 2016) fod ‘BA a MA yn Ysgol y Gymraeg wedi rhoi’r sgiliau, yr hyder a’r cyfleoedd i mi gael fy swydd ddelfrydol, hyd yn oed cyn i mi orffen fy ngradd’ tra bod Cadi Thomas (BA 2012, MA 2015) wedi mwynhau gwneud ‘ffrindiau gydol oes’ a’r gweithgareddau cymdeithasol a gynigir gan GymGym.

 

 

 

 

Yn ystod fy amser ym Môn, cefais gyfle hefyd i fynd o amgylch yr Eisteddfod a’r Maes. Ar ôl bod yn yr Eisteddfod yn y gorffennol, rwyf bob amser wedi mwynhau’r cymysgedd eclectig o bethau i’w gweld. Newydd i’r Eisteddfod eleni oedd y babell Artisan a oedd yn cynnwys dros 30 o siopau arbenigol a stondinau yn arbenigo mewn crefftau Cymreig. I orffen fy nhaith gyflym o amgylch y Maes, gwnes y daith hollbwysig i’r Pentref Bwyd sydd bob amser yn addo’r pryd gorau o fwyd gan arlwywyr lleol yng Nghymru. Yng Nghaerdydd y cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y digwyddiad yn cael ei drawsnewid o’i fformat traddodiadol i fod yn Eisteddfod drefol neu ddinesig, gan ddefnyddio cyfuniad o adeiladau parhaol yn y Bae a strwythurau dros dro i greu’r Maes. Gan mai Caerdydd fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol 2018, rydym yn meddwl y byddai’n briodol cynnal aduniad mwy a gwell ar gyfer cynfyfyrwyr y flwyddyn nesaf. Bydd yn gyfle gwych i ddathlu pen-blwydd cyntaf ein prosiectau gwirfoddoli a dathlu’r rhai sydd wedi rhannu arbenigedd gyrfaoedd gyda graddedigion newydd, sefydlu canghennau cynfyfyrwyr dramor ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Os hoffech chi gael gwybod rhagor am ein cyfleoedd i Gymryd Rhan, ewch i’r dudalen hon.

Edrychaf ymlaen at eich gweld y flwyddyn nesaf!”