Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Cynfyfyrwyr Caerdydd: camu ymlaen yn ystod argyfwng

1 Mai 2020

Mae aelodau o deulu Caerdydd bellach yn ysgwyddo cyfrifoldebau newydd yn yr ymdrech fyd-eang i fynd i’r afael â COVID-19. P’un a oes ganddynt gefndir mewn peirianneg, meddygaeth, cyfathrebu, cyfrifiadureg, busnes neu chwaraeon, mae’r cynfyfyrwyr hyn o Brifysgol Caerdydd yn rhoi eu hamser, eu hegni a’u sgiliau i ymladd yn erbyn pandemig y coronafeirws.

Dyma rai o’r straeon anhygoel am bobl o bob cwr o’r byd yn ogystal ag yn agosach at adref. Os ydych chi, eich ymchwil neu eich sefydliad yn arloesi, yn addasu neu’n gwneud gwahaniaeth yn ystod yr argyfwng, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Dr Cameron Durrant (MBBCh 1983)

Mae gan Dr Durant gefndir helaeth ym maes clefydau heintus, ac mae’n brif swyddog gweithredol yn Humanigen Inc, sef cwmni sydd wedi cael cymeradwyaeth gan yr FDA i wneud defnydd tosturiol o’i astudiaeth Cam III o lenzilumab ymhlith cleifion COVID-19. Mae’r treial yn defnyddio lenzilumab i drin storm sytocin; cemegau yn y gwaed sydd, wrth gael eu sbarduno, yn debygol o achosi syndrom anadlol acíwt (ARS), sy’n gysylltiedig ag achosion mwy difrifol o’r coronafeirws.

Eglura Dr Durant: “Rydym yn cynllunio astudiaeth Cam III i ddechrau ar unwaith ymhlith cleifion sydd mewn perygl uchel o ddatblygu, ond nad ydynt eto ar beiriant anadlu nac yn yr Uned Gofal Dwys ac i atal syndrom trallod anadlol acíwt. Os byddwn yn llwyddiannus, bydd yn achub bywydau ac yn lleihau rhai o’r pwysau llethol ar adnoddau prin, drud sydd eisoes dan bwysau ym maes gofal iechyd hefyd.”

Leighton John (BEng 1999)

Mae Leighton yn gyfarwyddwr gweithrediadau yn y Bathdy Brenhinol, sydd yn ddiweddar wedi newid o wneud darnau arian i wneud feisorau amddiffynnol ar gyfer y GIG. Mae si ar led eu bod wedi creu’r dyluniadau meddygol ar gyfer y feisorau ar ôl 48 awr yn unig. Mae’r Bathdy Brenhinol yn awyddus i gael mwy o ddeunyddiau crai gyda’r gobaith o greu miloedd o’r feisorau hyn a helpu staff y GIG ar y rheng flaen.

Wrth siarad â WalesOnline, dywedodd Leighton: “Mae fy chwaer i’n gweithio i’r GIG ac mae’n gwneud i chi feddwl go iawn am yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu a’r cyfle sydd gennym i’w cefnogi.”

Strive Masiyiwa (BEng 1985, Hon 2019)

Mae Strive Masiyiwa yn ddyn busnes llwyddiannus ac yn sylfaenydd Econet Global. Mae wedi rhoi 45 o beiriannau anadlu i unedau gofal dwys Zimbabwe, ac mae’n rhan o fenter sy’n pwyso am gronfa ysgogi ar gyfer llywodraethau yn Affrica i helpu eu busnesau a’u hentrepreneuriaid. Mae Ecosure, rhan o grŵp Econet, yn cynnig yswiriant bywyd ac iechyd i feddygon a nyrsys, lwfans arian parod dyddiol os ydynt yn cael eu derbyn i’r ysbyty wrth weithio a thrafnidiaeth am ddim am hyd at flwyddyn.

Pan siaradodd Strive â ni ar ôl seremonïau graddio 2019 (cyn achosion y coronafeirws) esboniodd ei bod hi’n bwysig defnyddio eich cyflawniadau “er budd dynoliaeth,” ac mae’n sicr yn ymddangos ei fod yn ymarfer yr hyn a bregethodd.

Dr Steve Margetts (PhD 2001) and Helen Jones (BA 2001)

Mae Dr Steve Margetts (VP peirianneg) a Helen Jones (CFO) yn gweithio i Intelligent Ultrasound, sef cwmni sy’n helpu i hyfforddi clinigwyr yn Ysbyty Nightingale y GIG i gynnal uwchseiniau o’r ysgyfaint. Mae’r Efelychwyr Uwchsain Pwynt Gofal (PoCUS) wedi’u rhoi yn yr uned gofal dwys a sefydlwyd yng nghanolfan ExCel Llundain gyda’r nod o drin cleifion â COVID-19.

Thomas Grother (BSc 2018, Medicine 2014-)

Mae Thomas Grother, sydd yn fyfyriwr meddygol yn y flwyddyn olaf, bellach yn gweithio ar y rheng flaen yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn dilyn ei gwrs chwe blynedd. Ar ôl dysgu drwy’r Brifysgol fod y GIG yn chwilio am gymorth, cynigiodd ei wasanaethau ac mae’n defnyddio ei sgiliau i helpu gyda’r achos.

Dywedodd Thomas wrth WalesOnline: “Yn amlwg, mae bywydau pawb wedi’u troi wyneb yn waered gan y sefyllfa bresennol, ac nid yw’n ddelfrydol i fyfyrwyr fynd i ysbytai sydd wedi’u newid rhywfaint, ond rwyf wedi teimlo’n fodlon ac yn barod i fynd ati i helpu.”

Amelia Tee (BSc 2018, Medicine 2014-)

Roedd Amelia (Millie) ar leoliad gwaith mewn ysbyty dramor pan ddaeth ar draws COVID-19 am y tro cyntaf. Roedd ganddi un lleoliad yn weddill i’w gwblhau yn ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd, ond yn hytrach, mae hi wedi derbyn rôl reng flaen yn y GIG yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Ymysg tasgau eraill, mae hi’n gofalu am yr henoed wrth iddynt gael eu profi am y feirws.

Wrth siarad â WalesOnline, dywedodd Millie: “Rwy’n edrych ymlaen at allu teimlo fy mod wedi cyfrannu at yr ymdrech.”

Rupert Jones (BSc 1990)

Mae’r cynfyfyriwr o Gaerdydd, Rupert Jones, yn rheolwr gyfarwyddwr yn Renishaw Medical Ltd. Mae Renishaw wedi rhoi cyfran o’i safleoedd yn Swydd Gaerloyw ac yn ne Cymru i gyfrannu at ymdrechion consortiwm VentilatorChallengeUK, sef grŵp pwrpasol ar gyfer gweithgynhyrchu peiriannau anadlu meddygol. Mewn ymdrech tîm go iawn, maen nhw wedi cydweithio â chwmnïau eraill i helpu i gynhyrchu ar raddfa fwy.

Martin Lewis (PGDip 1998, Hon 2017)

Mae Martin Lewis, sylfaenydd Money Saving Expert, yn rhoi cyngor ariannol sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws y mae mawr alw amdano i’r cyhoedd, megis sut i hawlio treth yn ôl wrth weithio gartref, cyngor am gynllun furlough, hawliau o ran teithio a sgamiau ar-lein i fod yn wyliadwrus ohonynt. Trwy gydweithio â’r Llywodraeth a banciau, mae Martin yn cynnig gwasanaeth ymarferol ac yn defnyddio ei arbenigedd i helpu’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd o dan yr amodau presennol.

Jamie Roberts (MBBCh 2013)

Mae seren rygbi Cymru a chynfyfyriwr meddygol Caerdydd, Jamie Roberts, yn cyfrannu drwy fod yn gymrawd arloesedd clinigol i’r GIG, saith mlynedd ar ôl derbyn ei radd feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei rôl yn un ysgogol ac yn canolbwyntio ar gyfathrebu. Yn ddiweddar, mae wedi bod yn rhannu ei brofiadau o’r rheng flaen drwy blogiau ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Jamie wrth WalesOnline bod ganddo “radd feddygol o Brifysgol Caerdydd,” gan ychwanegu, “Graddiais yn 2013 ac rwyf wedi gwneud ychydig o ymchwil ers hynny […] Byddwn i wrth fy modd yn helpu’r achos yma yng Nghaerdydd gyda’r bwrdd iechyd a’m helpodd i hyfforddi fel meddyg.”

Dr Rebecca Jordache (MBBCh 2019)

Roedd y chwaraewr lacrosse rhyngwladol a meddyg yn y GIG, Rebecca Jordache, yn gweithio ar y rheng flaen ond cafodd COVID-19 yn ddiweddar. Gan ei bod hi newydd ymuno â’r proffesiwn meddygol, naw mis yn unig yr oedd hi wedi bod yn ymarfer cyn iddi gamu ymlaen i chwarae ei rhan yn y pandemig. Yn ffodus, gyda symptomau coronafeirws ysgafn, mae hi wedi gallu gwella gartref ond mae’n awyddus i ddychwelyd i helpu eraill.

Pan ofynnwyd iddi am ei hamser ym Mhrifysgol Caerdydd, dywedodd: “Gwnaeth Caerdydd fy hyfforddi i gael y gallu i wynebu gweithio yn ystod y cyfnodau heriol hyn, ac rwy’n ddiolchgar iawn ac yn falch o fod yn un o raddedigion Caerdydd! ”

Andy Mallows (MBA 1994)

Mae Andy Mallows yn gyfarwyddwr ac yn bartner sylfaenol Hensol Castle Distillery, sef distyllfa ym Mro Morgannwg sydd wedi troi o greu gwinoedd a gwirodydd i fasgynhyrchu hylif diheintio ar gyfer y GIG ac awdurdodau lleol. Yn debyg i nifer o gwmnïau eraill, mae hi wedi bod yn frwydr anodd ceisio dod o hyd i ddeunyddiau i greu cynhyrchion hanfodol ar raddfa eang, ond creodd Andy apêl LinkedIn lwyddiannus i helpu’r achos.

Dywedodd Andy wrth Newyddion Busnes Cymru fod sefyllfa’r coronafeirws “yn debyg i’r Trydydd Rhyfel Byd ond rydym yn brwydro yn erbyn gelyn anweladwy sy’n lladd pobl, a’r hyn rydyn ni’n ceisio bod yw gwneuthurwr sy’n creu’r bwledi sy’n tanio’n ôl.”

Ross Hartland (BSc 2016, MArch 2018, PgDip 2020)

Mae Ross Hartland yn gynorthwy-ydd pensaernïol yn Purcell ac mae’n defnyddio ei argraffydd 3D i greu gorchuddion wyneb i’r GIG. Hyd yn hyn, mae wedi helpu i ddosbarthu 170 o orchuddion wyneb i ysbytai lleol. Mae Ross yn rhan o gymuned 3DCrowd sy’n defnyddio argraffwyr i greu gorchuddion.

Dywedodd Ross ar Twitter: “Mae fy argraffydd 3D wedi neilltuo modelau pensaernïol i ymateb i’r galw, gan gynhyrchu gorchuddion wyneb amddiffynnol ar gyfer @NHSuk yn Ysbyty Tywysoges Cymru.”

Bydd rhoddion i Gronfa Diogelu COVID-19 Prifysgol Caerdydd yn rhoi cefnogaeth ar gyfer lles meddyliol a chorfforol myfyrwyr a staff – gan gadw pobl a mannau yn ddiogel drwy gymuned Prifysgol Caerdydd benbaladr.