Skip to main content

Cyswllt CaerdyddEin Cyn-fyfyrwyrNewyddion

Cydnabyddiaeth Frenhinol i gymuned Prifysgol Caerdydd

24 Ionawr 2019

Mae un ar ddeg o raddedigion Prifysgol Caerdydd sy’n cynrychioli ystod amrywiol o feysydd ar Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines 2019.

  • Dyfarnwyd CBE i Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru (PhD 1997) am ei gyfraniad i iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
  • Ar ôl arwain tîm Cymru at eu llwyddiant mwyaf erioed yng Ngemau’r Gymanwlad yn ei rôl fel Chef de Mission ar Arfordir Aur yn 2018, cafodd yr Athro Nichola Phillips o Brifysgol Caerdydd (PhD 2015) OBE am ei chyfraniad i ffisiotherapi
  • Cafodd Dr Neil Bentley-Gockmann (BScEcon 1982, PhD 1999), Prif Swyddog Gweithredol WorldSkills UK, OBE am ei gyfraniad i gydraddoldeb ym myd busnes
  • Dyfarnwyd OBE i Richard Stephenson (PgDip 1998), Cyfarwyddwr Cyfathrebu yr Awdurdod Awyrennu Sifil am ei gyfraniad i wasanaeth cyhoeddus ac elusennol
  • Dyfarnwyd OBE i’r Athro David Martin (PhD 1989) o Brifysgol Southampton am ei gyfraniad i astudiaethau Daearyddiaeth a Phoblogaeth
  • Dyfarnwyd MBE i Miss Susan Hemming (LLB 1986), Pennaeth Troseddau Arbennig a Gwrthderfysgaeth dros Wasanaeth Erlyn y Goron, am ei chyfraniad ym maes cyfraith a threfn.
  • Dyfarnwyd MBE i’r Athro Barbara Ryan (PhD 2009), Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Addysg Optometreg Ôl-raddedig Cymru yng Nghaerdydd – y cyntaf o’i math yn y byd am ei chyfraniad i optometreg
  • Dyfarnwyd MBE i gyn Baralympiwr tîm Prydain, Caroline Matthews (LLB Law 1997, PGDip 1998) am ei chyfraniad i bêl-fasged cadair olwyn
  • Dyfarnwyd MBE i Gail Powell (DIP1) , Uwch nyrs gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan am ei chyfraniad i ymweliadau iechyd
  • Dyfarnwyd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig i Ceri Harris (MSc 2008), Rheolwr Cydraddoldeb Ymddiriedolaeth GIG Felindre am ei waith elusennol a gwirfoddol yn ne Cymru.
  • Bydd y cerddor a’r hyfforddwr Jeffrey Howard (BMus 1990) yn derbyn Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig am ei gyfraniad i gerddoriaeth

Llongyfarchiadau oddi wrth Brifysgol Caerdydd i bob un sy’n cael ei anrhydeddu. Bydd seremoni arwisgo ym Mhalas Buckingham yn ddiweddarach yn y flwyddyn lle byddant yn derbyn eu anrhydedd yn swyddogol.