Mae’r Parchedig Delyth Liddell (BTh 2003, MTh 2014) yn weinidog Methodistaidd, a hi yw Caplan Cydlynu Caplaniaeth Prifysgol Caerdydd. Mae’r Gaplaniaeth yn cynnig lle o gyfeillgarwch, lletygarwch, myfyrio, gweddïo, cymorth a deialog, lle gall fyfyrwyr a staff gymdeithasu ac ystyried ffydd ac ysbrydolrwydd. Mae pob un o’r caplaniaid yn dod o gefndiroedd crefyddol gwahanol.
Sownd yn y tŷ? Wedi cael digon ar ddiflastod? Neu yn ysu am ychydig o atgofion sy’n ymwneud â’r brifysgol? Rydym wedi gwneud rhestr o gyfresi teledu sydd wedi’u ffilmio yn ac o gwmpas adeiladau cofiadwy Prifysgol Caerdydd.
Siaradon ni â Shuting Cai (sydd hefyd yn cael ei galw’n Lily), myfyriwr Cyfrifeg a Chyllid ôl-raddedig a gymerodd ran yng nghynllun ‘Ieithoedd i Fusnes’.
Athro Subodh Chandra Mahalanobis (circa 1900) Nid yw Subodh Chandra Mahalanobis yn enw cyfarwydd i lawer, ond roedd y cyn-academydd o Brifysgol Caerdydd yn arloeswr yn ei gyfnod. Yng Ngholeg […]
Prem Gill (BSc 2017) sy’n arwain prosiect Morloi o’r Gofod - yn gweithio i fapio poblogaethau anifeiliaid Antarctig. Fe wnaethom ofyn iddo sut beth yw bod yn fforiwr pegynol.
I ddathlu deng mlynedd o ymchwil arloesol yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg, fe wnaethom gynnal yr arddangosfa Ailystyried Salwch Meddwl.
Wyddech chi, pan sefydlwyd Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy ym 1884, dim ond 102 o fyfyrwyr amser llawn oedd ganddi? Bu'n siwrnai a hanner ers hynny – a gan fod archifau'r Brifysgol bellach yn cael eu digideiddio, dyma ambell uchafbwynt.
Ar ôl llwyddiant diweddar Amgueddfa Sain Ffagan yng nghystadleuaeth Amgueddfa’r Flwyddyn 2019, gofynnon ni i un o’r prif guraduron am y rhesymau dros y llwyddiant a chysylltiadau’r Amgueddfa gyda Phrifysgol Caerdydd.