Skip to main content

Hydref 11, 2022

Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr Caerdydd – golwg yn ôl ar y flwyddyn

Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr Caerdydd – golwg yn ôl ar y flwyddyn

Postiwyd ar 11 Hydref 2022 gan Alumni team

Mae myfyrwyr wrth galon Prifysgol Caerdydd, ond gall heriau ariannol atal y meddyliau gorau a mwyaf disglair rhag cael mynediad at yr addysg a'r cyfleoedd y maent yn eu haeddu. Y llynedd rhoddodd ein cefnogwyr swm syfrdanol o £68,000 tuag at gefnogi myfyrwyr Caerdydd i gyflawni eu llawn botensial, trwy roddion hael, yn ogystal ag anrhegion mewn Ewyllysiau ac er cof am anwyliaid. Rhoddodd ein cynfyfyrwyr eu hamser a’u harbenigedd hefyd i gefnogi ein myfyrwyr trwy fentora, gwneud cyflwyniadau am yrfaoedd a chynnig interniaethau i’w helpu i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl Caerdydd.