Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Castell Gwrych: y stori tu ôl i leoliad newydd I’m a Celebrity

26 Hydref 2021

Darganfu Mark Baker (MA 2008, PhD 2014) harddwch a chymhlethdod Castell Gwrych yn 11 oed ac mae wedi ymroi llawer o’i fywyd i’w warchod a’i adfer, yn ogystal â chyhoeddi ei lyfr cyntaf amdano yn 13 oed. Mae Mark yn disgrifio sut roedd y castell nid yn unig yn dal ei ddychymyg, ond hefyd llygad cynhyrchwyr ITV o I’m a Celebrity… Get Me Out of Here.

Roedd gen i ddiddordeb mewn hanes bob amser, hyd yn oed fel plentyn. Cefais fy nghyfareddu gan bobl a’r hyn y gallent ei greu, boed yn bortread neu’n wrthrych, neu hyd yn oed adeilad. Roedd gen i ddiddordeb bob amser yn y gorffennol, ond hefyd gyda diwylliant materol. Roedd yn chwilfrydedd sylfaenol iawn, plentynaidd.

Ro’n i’n unig blentyn yn tyfu i fyny yng Ngogledd Cymru, ac yr oeddwn yn aml yn diflasu ac yn hiraethu am archwilio fy ardal leol. Dyma pam, yn 11 oed, y creais Ymddiriedolaeth Castell Gwrych. Pan gawsom brosiect haf i’w wneud yn yr ysgol, dewisais ymchwilio i’m castell lleol. Roedd gan bobl ddiddordeb mawr yn yr hyn yr oeddwn yn ei wneud a denodd sylw’r Wasg Genedlaethol oherwydd ysgrifennais at Dywysog Cymru a’r Prif Weinidog ar y pryd, Tony Blair. Er mawr syndod i mi, ysgrifennodd y ddau yn ôl, a chlywodd y gohebwyr lleol am hyn a chyhoeddwyd erthygl yn 1997. Roedd pobl wirioneddol yn cefnogi’r plentyn hwn oedd yn ceisio achub eu hadeilad lleol.

Dechreuodd y broses ymchwil deimlo fel jig-so enfawr a oedd yn dod at ei gilydd yn fy meddwl. Yn y diwedd, fe wnes i ysgrifennu amdano a chyhoeddi fy llyfr cyntaf pan oeddwn i’n 13 oed. Roedd yn ddefnyddiol ar gyfer fy nhaith academaidd gan ei bod wedi gwneud imi ganolbwyntio ar ddweud stori a defnyddio data a dogfennau hanesyddol i ddatblygu naratif.

Dechreuodd fy ngyrfa academaidd ym Mhrifysgol Bangor, ac yna parhaodd yn Sefydliad Celf Courtauld yn Llundain. Ond ro’n i’n awyddus i ganolbwyntio ar bensaernïaeth Cymru, a doedd neb yn gallu bod yn oruchwyliwr i mi. Penderfynais wneud fy PhD yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd oherwydd y dewis anhygoel o oruchwylwyr. Roedd Judy Loach yn anhygoel ac roedd yr Athro Denys Pringle, archeolegydd adeilad, wedi gwneud llawer iawn o waith ar gestyll y Croesgadwyr, sef ysbrydoliaeth y cestyll yma yng Nghymru. Dewisais Brifysgol Caerdydd oherwydd ei nifer o oruchwylwyr, ond hefyd am fy mod wrth fy modd â’r ddinas ei hun.

Fel myfyriwr, mwynheais y cynadleddau a gynhaliwyd gan y Brifysgol yn fawr iawn, ac yr oeddwn bob amser yn y llyfrgell ac yn cofrestru i dderbyn chylchgronau digidol ac archifau papurau newydd. Yr oeddwn yn ymwneud yn helaeth â chreu’r Llyfrgell Llyfrau Prin ym Mhrifysgol Caerdydd. Un o’m hatgofion mwyaf hoffus oedd dod o hyd i’r ddelwedd gynharaf o un o’r adeiladau Gothig pwysicaf yng Nghymru. Mae wedi bod yn rhyfeddol bod eiliad mor unigryw yn ei hanes wedi’i chipio’n llythrennol gan ymwelydd ac yn y pen draw, ar ôl ychydig gannoedd o flynyddoedd, mewn llyfr lloffion ym Mhrifysgol Caerdydd. Dyna un o’m cyfnodau mwyaf balch fel myfyriwr.

Pan orffennodd fy PhD, troais fy sylw yn ôl i’r castell. Roedd yno bob amser, yn byrlymu yn y cefndir, ac yn y diwedd fe wnaethom ei brynu’n ôl yn 2018. Roedd gennym ni (yr Ymddiriedolaeth) berthynas dda iawn gyda’r Loteri Genedlaethol, a chyda rhoddwyr eraill, a llwyddasom i godi’r pris prynu. Gwnaethom hynny o fewn tua chwe wythnos, ac yr oedd bron i filiwn o bunnoedd. Bu bron iddo fy lladd, ond yr oedd yn gyflawniad mawr gan ei fod yn sicrhau bod y castell yn ddiogel i’r genedl.

Cawsom ein synnu’n fawr o weld y castell ar y rhestr fer fel lleoliad ar gyfer I’m a Celebrity… Get Me Out of Here. Yn ystod y cyfnod clo y llynedd roedd nerfusrwydd mawr o fewn ITV ynglŷn â’r cystadleuwyr yn dychwelyd i Awstralia ar gyfer y sioe deledu realiti. Comisiynwyd asiantaeth leoli i olrhain castell adfeiliedig ym Mhrydain. Edrychasant ar tua 70 o leoliadau yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon ac roedd 30 ar y rhestr fer, ac, yn rhyfeddol, cawsom y comisiwn! Roedd y cyfan yn syndod mawr.

Goruchwyliwyd y prosiect gan Ymddiriedolaeth y Castell, ac roedd yn ddull amlasiantaethol gyda Cadw, yr awdurdod lleol, a Chyfoeth Naturiol Cymru. Roedd y rhan fwyaf o’r gwaith a wnaeth y sioe er gwell i’r adeilad. Rhoesom ein cynlluniau iddynt ac fe’u holrheiniwyd yn gyflym, sy’n anhygoel.

Mae wedi bod yn wych, yn enwedig i’r economi leol. Un o’n cenadaethau oedd ceisio defnyddio cymaint o gynnyrch a gwasanaethau lleol â phosibl ac mae ITV wedi cadw hynny mewn cof. Roeddem am barchu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg ac felly roedd ganddynt gynghorwyr arbennig ar sut i integreiddio’r Gymraeg.

Hon oedd sioe fwyaf 2020, gyda’r gynulleidfa a’r ffigurau gwylio mwyaf. Rydym yn gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n dod i ymweld ac mae wedi bod yn wych. Mae ein hymweliadau wedi cynyddu o tua 40,000 i ychydig dros 100,000 eleni. Nid dim ond dod i’r castell a gadael y mae’r bobl hyn, maen nhw’n cael gwyliau yn yr ardal ac yn mynd allan am brydau bwyd.

Mae gen i gynlluniau mawr o hyd ar gyfer y castell, a’r prif un yw cael y cyfan gweithio’n dda. Mae’r holl broses adfer yn dal i roi cryn dipyn o ofn i mi. Es i mewn i rannau o’r castell ychydig ddyddiau’n ôl a dim ond gweld y gwaith mae ITV wedi’i wneud, sut maen nhw wedi trawsnewid gofod arall yn rhywbeth gwych iawn – mae’n gyffrous tu hwnt.

Fy nyheadau yw diogelu ac ail-lunio cymaint o’r castell â phosibl. Rwy’n edrych ymlaen at y diwrnod y gallaf eistedd i lawr ac ysgrifennu hanes manwl, diffiniol o’r ystâd. Dwi wedi cyhoeddi tua 20 o lyfrau i gyd ac mae gen i un arall yn dod allan y mis yma, sy’n ganllaw tu ôl i’r llenni i’r broses o greu I’m a Celebrity yn y castell.

Mae Castell Gwrych yn brism defnyddiol iawn i edrych drwyddo oherwydd mae wedi bod yn ymwneud â chymaint o ddigwyddiadau ac argyfyngau cenedlaethol. Yn ystod y Rhyfel Mawr, roedd gan y castell lawer o ysbytai milwrol yn gysylltiedig ag ef, ac yn yr Ail Ryfel Byd roedd yn gartref i ffoaduriaid Iddewig fel rhan o Ymgyrch Kindertransport. Mae’n borth i adrodd 2000 o flynyddoedd o hanes, gan ddechrau gyda’r Rhufeiniaid ar y safle ac yna’n symud yr holl ffordd drwy’r 21ain ganrif drwy gynnal I’m a Celebrity.