Skip to main content

Cyswllt CaerdyddDonateNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Bwrsariaeth gwerth £10k, er cof am beilot a fu farw yn yr ail ryfel byd, i gefnogi myfyrwyr y dyfodol

7 Medi 2021

Ym mis Gorffennaf 1940, graddiodd Donald Philip Glynn Miller (BSc 1940) yn Faglor Gwyddoniaeth mewn peirianneg mwyngloddio yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, coleg sefydlol Prifysgol Caerdydd.

Roedd Donald, a oedd yn byw yn Richmond Crescent yng Nghaerdydd, wedi astudio cyn hynny yn Ysgol Uwchradd Bechgyn Caerdydd, a chafodd Dystysgrif Ysgol Bwrdd Canolog Cymru yno ym 1936.

Yn fuan ar ôl gorffen ei astudiaethau, ymrestrodd yn Lluoedd Awyr y Cynghreiriaid gan hyfforddi’n llywiwr-arsyllwr. Bu’n gwasanaethu yng Ngwarchae Malta a thrwy gydol ymgyrch Gogledd Affrica gan gynnwys Alamein a Tiwnisia. Yn dilyn hyfforddiant ychwanegol, aeth i Wlad Belg ym mis Ionawr 1945 i wasanaethu gyda’r Llu Awyr Tactegol ar Ffrynt y Gorllewin.

Fis yn ddiweddarach ym mis Chwefror 1945, ac yntau ond yn 24 oed, cafodd Swyddog Gwarantedig Miller ei ladd yn drasig gan deilchyn siel fflac yn ystod cyrch awyr. Cipiwyd y pedwar aelod arall o’r criw yn Garcharorion Rhyfel ar ôl iddyn nhw lanio mewn argyfwng mewn maes awyr yn Eindhoven.

Fwy na 75 mlynedd yn ddiweddarach, mae ei nai, sydd hefyd yn dwyn yr enw Donald Miller, wedi cyflwyno rhodd gwerth £10,000 er cof am ei ewythr, gyda’r bwriad o gefnogi myfyrwyr Prifysgol Caerdydd y dyfodol.

Ar ôl cael ei fagu yng Nghaerdydd, symudodd Don i Malaysia ym 1978. Yno, cyfarfu â’i wraig a chafodd yrfa lwyddiannus mewn gwlad sydd yr un mor groesawgar a chyfeillgar â Chymru.

“Mae gwahodd myfyrwyr sy’n preswylio ym Malaysia i elwa ar y wobr hon yn arwydd bach o ddiolchgarwch i’r bobl ryfeddol hynny a’r wlad sydd wedi bod yn gartref imi ers deugain mlynedd.

“Wnes i erioed gwrdd â’r Ewythr Donald, sydd o’r un enw â mi, ond ugain mlynedd ar ôl iddo farw, pan wnes i gais am ysgoloriaeth yn y Bwrdd Glo roedd swyddog yn dal i’w gofio oherwydd ei ddoniau nas gwireddwyd. Yn ddi-os, byddai wedi cael bywyd, gyrfa a theulu ardderchog.

“Mae’r fwrsariaeth hon yn gydnabyddiaeth bersonol iawn o’r aberth a wnaeth fy ewythr Donald. Ef oedd yr unig aelod o’n teulu i gael ei niweidio neu ei ladd yn yr Ail Ryfel Byd, ac roedd ei farwolaeth gynnar, yn ystod misoedd olaf yr Ail Ryfel Byd yn ergyd drom. ”

Bydd Bwrsariaeth DPG Miller yn cefnogi myfyrwyr sy’n hanu o Malaysia ac sy’n dymuno mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio peirianneg.

Dewch i wybod rhagor am gofio rhywun annwyl ichi drwy roddi anrheg i Brifysgol Caerdydd, a helpwch i achub, newid a chyfoethogi bywydau yng Nghymru a thu hwnt.