Skip to main content

DonateNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Y ffoadur o Syria sy’n codi arian i roi rhywbeth yn ôl

6 Medi 2021

Fe ddaeth Naser Sakka (MSc 2019) i’r DU yn 2015 fel ffoadur o Syria. Ers hynny, ei genhadaeth yw gwneud popeth o fewn ei allu i roi yn ôl i’r gymuned a’i helpodd i ailadeiladu ei fywyd. Yn ogystal â gwirfoddoli gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru a helpu busnesau lleol yn ystod y pandemig, fe redodd Hanner Marathon Caerdydd yn 2019, gan godi arian ar gyfer ymchwil canser Prifysgol Caerdydd.

Clywais am Hanner Marathon Caerdydd pan dderbyniais fy e-gylchlythyr cynfyfyrwyr misol gan Brifysgol Caerdydd yn cynnig lleoedd am ddim i fyfyrwyr a chynfyfyrwyr, gyda chyfle i godi arian ar gyfer ymchwil bwysig.

Rwy’n dwli ar brosiectau dyngarol a fy mreuddwyd yw cyfrannu mewn unrhyw ffordd y gallaf i helpu eraill. Dyna sut rydw i wedi bod erioed.

Mae canser yn salwch mor ofnadwy ac rydw i wedi gweld llawer o blant yn dioddef ohono. Pan welais i’r ebost, roeddwn yn gwybod ym mêr fy esgyrn fy mod i eisiau cofrestru a chodi arian ar gyfer ymchwil canser Prifysgol Caerdydd.

Dyna oedd y tro cyntaf imi redeg marathon!

Fel rhan o’r ymarfer, roeddwn i’n rhedeg bron bob dydd – rhwng tair a phum milltir, weithiau y tu allan ac weithiau ar felin draed. Ar y felin draed byddwn yn nodi cyfradd curiad fy nghalon ac yn profi fy ngallu i redeg yn gyflym ac yna arafu nôl a mlaen yn gyson. Roeddwn i’n gweld bod y strategaeth hon sef rhedeg yn araf ac yna’n gyflym yn ddefnyddiol ar gyfer rhedeg yr Hanner Marathon. Hefyd, roedd yfed ychydig bach o ddŵr er mwyn cadw fy nhafod yn llaith yn ddefnyddiol hefyd.

Roedd y digwyddiad wedi’i drefnu’n broffesiynol iawn ac roedd popeth yn hawdd i ni fel cyfranogwyr. O’r broses gofrestru a dewis maint eich crys-t, i awgrymiadau o ran sut i godi arian a gwybodaeth am sut roeddwn i’n cefnogi ymchwil canser, roedd popeth yn wych.

Alla i ddim esbonio pa mor hyfryd oedd diwrnod yr Hanner Marathon. Roeddwn wrth fy modd yn gweld y torfeydd o bobl a sut roedden nhw’n eich annog chi pan oeddech chi’n rhedeg. Pan oeddech chi’n dechrau blino ac eisiau stopio, roedden nhw’n gweiddi ac yn bloeddio i’ch cadw fynd. Roedden nhw’n gweiddi ‘Dewch ymlaen, ewch amdani!’ Roeddech chi hefyd yn cael diodydd a geliau ar hyd y ffordd i’ch gwthio ymlaen.

Doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth pan wnes i orffen! Fe orffennais redeg mewn ychydig dros ddwy awr.

Byddwn wrth fy modd yn gwneud hynny eto. Roedd fy merch ifanc yn teimlo ei bod wedi cael ei hysbrydoli, ac ers hynny mae hi wedi ymuno â mi pan rwy’n mynd i redeg.

Mae’n rhaid i chi ymarfer a hyfforddi. Os nad ydych chi fel arfer yn hyfforddi neu’n cadw’n heini, dechreuwch yn araf bach ac yna ceisiwch redeg am awr bob dydd. Pan fyddwch wedi blino gallwch gerdded yn gyflym ac yna rhedeg pan fyddwch chi’n gallu. Ceisiwch feddwl am yr hyn sy’n eich ysgogi chi.

Byddwn i’n argymell cofrestru, heb os. Mae’r awyrgylch yn anhygoel. Byddwch yn gweld sut mae pobl yn parhau i gyrraedd eu nod, a sut mae’r dorf yn eich cefnogi ac yn eich cymell. Pan fyddwch chi’n gwneud rhywbeth fel hyn dros achos da, mae’n gwneud ichi deimlo’n dda. Rydych chi wedi cyfrannu, ac mae’n rhoi boddhad i chi. Mae’n rhoi cysur i chi.

Mynegwch eich diddordeb gyda ni a byddwn yn cysylltu i roi rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau’r broses gofrestru a hawlio eich lle am ddim ar #TîmCaerdydd.