Skip to main content

Awst 26, 2021

Abacws: Cartref newydd yr Ysgol Mathemateg a’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Abacws: Cartref newydd yr Ysgol Mathemateg a’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Postiwyd ar 26 Awst 2021 gan Alumni team

Bydd yr adeilad ‘Abacws’ newydd, y mae disgwyl iddo gael ei gwblhau yn yr hydref, yn dod â'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a'r Ysgol Mathemateg at ei gilydd mewn un cyfleuster sy'n arwain y byd. Mae’r adeilad chwe llawr hwn wedi'i ddylunio mewn cydweithrediad â myfyrwyr a staff academaidd i greu mannau gwaith rhyngddisgyblaethol, hyblyg a chreadigol, gyda mannau addysgu arloesol.