Skip to main content

Gorffennaf 23, 2021

Y ffoadur o Syria sy’n helpu busnesau Cymru i ffynnu ar-lein

Y ffoadur o Syria sy’n helpu busnesau Cymru i ffynnu ar-lein

Postiwyd ar 23 Gorffennaf 2021 gan Kate Morgan (BA 2017)

Mae Naser Sakka (MSc 2019) yn ddyn teulu gwydn a gyrhaeddodd y DU yn 2015 fel ffoadur o Syria yn dilyn y rhyfel yno. Syrthiodd mewn cariad â Chymru ac, ar ôl iddo gwblhau cwrs a grëwyd ar gyfer ffoaduriaid ym Mhrifysgol Caerdydd, aeth yn ei flaen i ennill meistr a dechrau menter gymdeithasol sydd wedi helpu busnesau lleol, yn enwedig yn ystod y pandemig.