Skip to main content

Cyswllt CaerdyddDonateNewyddion

10 awgrym i godi hwyl wrth godi arian

6 Mai 2021

Mae wedi bod yn flwyddyn neu ddwy anarferol, a p’un a wnaethoch chi ymuno â Hanner Marathon Caerdydd filiwn o flynyddoedd yn ôl neu’n ddiweddar iawn, gall codi arian ymddangos yn lletchwith yn dilyn pandemig byd-eang. Ond mae rheolau COVID-19 ar draws sawl rhan o’r DU a’r byd yn newid. Mae llawer ohonom yn dechrau mentro allan i’r byd a gwneud pethau. Ich helpu chi i ddechrau arni, mae gennym syniadau syml (a hawdd) i godi arian.

Ond cyn i chi fynd ati, mae rhai rheolau i’w cofio. Gwnewch yn siŵr bod beth bynnag a gewch yn cyd-fynd â chyfyngiadau COVID-19 lleol, ac os penderfynwch wneud unrhyw beth â bwyd, ystyriwch hylendid bwyd ac alergeddau. Ar gyfer unrhyw beth sy’n gysylltiedig â gamblo, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen rheolau’r Comisiwn Gamblo cyn mynd yn eich blaen a chofiwch, os ydych yn gofyn am roddion yn gyfnewid am nwyddau neu wasanaethau, ni fydd y rhain yn gymwys ar gyfer Cymorth Rhodd.

1. Swîp codi arian

Gall hon fod yn gystadleuaeth hwyliog, gyfeillgar rhwng eich cydweithwyr. Dewiswch ddigwyddiad gyda llawer o gystadleuwyr neu dimau. Gofynnwch am rodd fach i gymryd rhan (er enghraifft £5) a dyrannwch wlad ar hap. Gallwch naill ai roi gwobr i’ch enillydd, neu gynnig rhan o’r arian a godir, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw digon ar gyfer eich pot codi arian. Peidiwch ag anghofio gwirio rheolau’r Comisiwn Gamblo cyn bwrw ymlaen.

2. Gwerthu planhigion neu hadau

Mae nifer wedi dechrau garddio’n ddiweddar. Yn dibynnu ar eich sefyllfa, gellir trefnu’r syniad nesaf hwn y tu allan i’ch tŷ neu hyd yn oed trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Prynwch nifer o hadau neu gymryd toriadau o blanhigion eich tŷ a gofyn am roddion fesul planhigyn!

3. Gwasanaeth golchi ceir ar gyfer cymdogion a ffrindiau

Oes gennych chi sbwng a nwyddau glanhau gwydr? Atgofion o’r 80au pan oedd pobl yn glanhau ceir i godi arian ar gyfer rhywbeth. Mae pobl yn hapus i adael i rywun arall wneud gwaith y maen nhw’n ei gasáu, felly gwisgwch eich dyngarîs a’r bandiau pen neon ac ewch ati.

4. Cwis Zoom

Rydyn ni’n eich clywed yn ochneidio. Ond mae’n rhaid i chi gyfaddef bod cwisiau Zoom yn hwyl ac yn hawdd (ac yn rhad!). Os nad ydych chi wedi laru arnynt, beth am drefnu un gyda ffrindiau a theulu? Gofynnwch am rodd fach i gymryd rhan a gall enillwyr gael GIF doniol neu gerdd wedi’i phersonoli, a gall y rhai sy’n colli cael cosb (efallai i drefnu cwis Zoom eu hunain …).

5. Raffl

Llenwch hamper o bethau da (mae pawb wrth eu bodd â siocled!) Neu siaradwch â’ch tafarn, bwyty neu siop annibynnol leol am dalebau ar gyfer raffl.  Yn y ffordd honno, yn ogystal â chodi arian, byddwch chi’n cefnogi busnes lleol sydd angen cymorth. Peidiwch ag anghofio gwirio rheolau’r Comisiwn Gamblo cyn bwrw ymlaen.

6. Gwerthu’ch pethau diangen ar Facebook Marketplace

Codwch arian a thacluso’ch cypyrddau ar yr un pryd. Mae Facebook yn ffordd hawdd iawn o wneud hyn heb unrhyw dâl comisiwn. Yn syml, dechreuwch lanlwytho lluniau a phrisiau! Nid oes angen ugain pâr o sbectol haul na chrysau T llawes hir ar unrhyw un! 

 7. Creu a gwerthu masgiau

Efallai y bydd angen gwisgo masgiau am gyfnod hirach, ac mae’n debyg bod angen rhai newydd arnom erbyn hyn! Medrwch greu masgiau ffasiynol, hyd yn oed. Mae yna nifer o ganllawiau ar sut i wneud masgiau ar y rhyngrwyd a bydd pobl yn fodlon talu am fasg a grëwyd gartref.

8. Mynd â’r ci am dro

Efallai eich bod wedi sylwi ar y cynnydd mewn perchnogion cŵn dros gyfnod y pandemig. Mae cŵn ym mhobman! Gan fod llawer o bobl yn dechrau mynd yn ôl i’r gwaith, efallai bod cyfleoedd i gerdded cŵn. Beth am ddosbarthu taflenni i dai cyfagos, neu ofyn i gwpl o gymdogion a oes angen cymorth arnyn nhw gyda’u hanifeiliaid anwes?

9. Codwch arian trwy bobi

Defnyddiwch y sgiliau pobi newydd a gawsoch yn ystod y cyfnod clo i greu danteithion i ffrindiau a theulu. Gall cynhwysion fod yn rhad, ac efallai bod nifer ohonynt yn eich cypyrddau yn barod. Cofiwch ddilyn canllawiau hylendid bwyd a bod yn ddiogel rhag COVID – peidiwch â llyfu’r llwy!


10. Eillio barf / torri gwallt

Yn teimlo’n ddewr a ddim yn poeni am ddelwedd? Yna gallai hyn fod yn syniad da i godi arian. Os oes gennych lawer o flew ar eich wyneb, yna codwch arian a gweld faint o’ch ffrindiau anwylaf sy’n awyddus i gael gwared ar eu blew wyneb hefyd. Os nad oes gennych flew ar eich wyneb, yna torrwch eich gwallt uwch ben eich aeliau mewn steil anarferol – ac os ydych yn ddewr, yna gadewch i rywun sydd â synnwyr digrifwch ei dorri. A pheidiwch â phoeni, mae gwallt yn tyfu’n ôl!