Skip to main content

Cyswllt CaerdyddDonateNewyddionWomentoring

Menywtora ‘21 – Cynfyfyrwragedd Prifysgol Caerdydd yn mentora cynfyfyrwragedd Prifysgol Caerdydd

15 Mawrth 2021

Yn ystod mis Mawrth, i ddathlu Mis Hanes Menywod gwnaethom gynnal ein digwyddiad mentora fflach cyntaf, Menywtora ’21.

Rydyn ni wedi dod â 24 o gynfyfyrwragedd llwyddiannus Caerdydd o bob cwr o’r byd ynghyd, i fod yn Fenywtoriaid – mentoriaid benywaidd i ysbrydoli a grymuso’r genhedlaeth nesaf o gynfyfyrwragedd Prifysgol Caerdydd.

Mae ein Menywtoriaid sydd ar frig eu maes mewn diwydiannau fel y gyfraith, technoleg, cyllid, gweithgynhyrchu, cyhoeddi a’r trydydd sector, wedi cefnogi ein mentoreion trwy ddigwyddiadau rhithwir, sesiynau grŵp a chyfarfodydd un i un.

Cafodd ein 35 o fentoreion ar ddechrau eu gyrfa y cyfle i ddatblygu eu gwybodaeth, adeiladu rhwydweithiau, gofyn cwestiynau, a chael mewnwelediad i’r diwydiant. Trwy eu cysylltu’n uniongyrchol â chynfyfyrwragedd llwyddiannus Caerdydd, rydym yn helpu graddedigion benywaidd o Gaerdydd i gyflawni eu potensial llawn.

Rydyn ni mor ddiolchgar i’n holl Fenywtoriaid a roddodd o’u hamser i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o Brif Weithredwyr, cyfarwyddwyr, llywyddion a phartneriaid benywaidd, trwy rannu eu harbenigedd a’u profiad.

Dyma beth oedd gan rhai o’n mentoreion i’w ddweud; 

“Mae’r profiad rhwydweithio a bywyd go iawn y mae Menywtora yn ei gynnig yn amhrisiadwy.”

Isadora Sinha (BSc 2019)

“Fe helpodd Linda fi i o Menywtora i bwyso a mesur yr hyn roeddwn i wir eisiau o fy rôl, yn y tymor hir a’r tymor byr. Fe wnaethon ni gyfarfod cyn i mi gael cyfweliad ar gyfer rôl newydd a fyddai’n ddyrchafiad enfawr. Fe helpodd hi fi i baratoi a chefais gynnig y rôl yn ystod y cyfweliad.

Mae fy sgyrsiau gyda Linda wedi bod yn hollol amhrisiadwy ac wedi fy helpu’n fawr. Rwy’n ddiolchgar iawn am y profiad hwn a byddwn yn ei argymell i unrhyw un. Diolch am gynllun gwych!”

Joanna Dougherty (BScEcon 2017)

“Diolch am sefydlu’r fenter hon – mae fy mentor wedi rhoi arweiniad defnyddiol iawn i mi yn barod, a gobeithio bydd hwn yn datblygu’n berthynas barhaus gefnogol.”

Jen Burrows (BA 2013)

Darganfyddwch fwy am wirfoddoli’ch amser i helpu i ysbrydoli a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwragedd a chyn-fyfyrwragedd Prifysgol Caerdydd.