Skip to main content

Cyswllt CaerdyddI Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrStraeon cynfyfyrwyr

Cadw pobl mewn cysylltiad gyda chelf – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

22 Mehefin 2020
Llun pen ac inc o brif adeilad Prifysgol Caerdydd

Mae’r artist a’r pensaer, Katherine Jones (BSc 2011, MArch 2013, PGDip 2015), yn egluro sut ellir ymgorffori grym hiraeth a’n hawydd i ymgysylltu mewn adeiladau a’r celf sy’n eu darlunio.

[13:21] Jonathan Barnes
    

	
Llun pen ac inc o brif adeilad Prifysgol Caerdydd
	Saif Katherine gyda'i lluniau wedi'u harddangos ar îsl

Rwyf wrth fy modd â chelf ers pan oeddwn yn ifanc. Rwyf wastad wedi mwynhau arlunio ynghyd â chasglu eitemau megis cerrig a chregyn o’r traeth neu grefftau lleol o wyliau tramor. Dyma wnaeth fy sbarduno i astudio pensaernïaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Un o’r prif resymau y dewisais Ysgol Pensaernïaeth Cymru oedd ei phwyslais ar arlunio a gwneud modelau. Roedd gen i hyd yn oed brosiect oedd wedi’i leoli yn Trieste, yr Eidal, lle bûm yn creu cyfres o ddarnau ‘celf gwrthrych’ am hanes masnach yn y ddinas. Roedd astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn brofiad hyfryd ac mae wir wedi paratoi’r ffordd ymlaen ar gyfer fy ngyrfa.

Mae fy nghefndir mewn pensaernïaeth wedi dylanwadu fy ngwaith celf yn aruthrol – fel pensaer rydych yn cael eich hyfforddi i fod yn fanwl a chywir, sef yn union beth yw fy nghelf. Mae fy narluniau yn cynrychioli lleoedd cyfarwydd mewn ffyrdd unigryw. Fel artist, rwyf yn ceisio dod o hyd i’r harddwch, manylder a phatrwm mewn lleoliadau cyfarwydd a gwrthrychau yn barhaol, a’u hail-ddehongli i mewn i’m gwaith celf. Mae’n waith hynod fanwl a chymhleth a all ddal ysbryd a harddwch lle neu berson, sy’n aml yn golygu bod fy narnau gyda llawer o atgofion ac arwyddocâd i’r rheiny sy’n eu mwynhau. Rwyf wrth fy modd yn clywed straeon ynglŷn â pham fod celf mor bwysig i bobl. Er enghraifft, rhoddodd gwsmer fy narlun o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Gerddi Dyffryn, fel anrheg pen-blwydd priodas i’w merch a briododd yno y llynedd. Rhoddodd gwsmer arall fy narlun o Ddinbych y Pysgod yn anrheg i’w mam, oherwydd dyna lle wasgaron nhw lwch ei thad.

Fy hoff adeiladau i arlunio yw’r rhai sydd â llawer o fanylder, mae’r rheiny yn rhoi her i mi! Un enghraifft yw fy narlun o’r Brif Adeilad ar gyfer Prifysgol Caerdydd – roedd yn sicr yn un o fy narluniau mwyaf cymhleth. Mae’n boblogaidd ymysg y rheiny sydd wedi astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ei fod yn eu hatgoffa o’r amseroedd da gawson nhw yma. Mae gan lawer o bobl atgofion melys o’u dyddiau prifysgol.  Yn aml, dyma yw’r lle y maent yn cwrdd â phartneriaid a ffrindiau oes, ac mae cael darlun i’w hatgoffa o’r cyfnod yn eu helpu i ail-fyw’r dyddiau hynny! 

Mae celf yn atgoffa pobl o’r lleoedd neu’r anwyliaid na allent ymweld â hwythau bellach, sydd yn arbennig o berthnasol a phwysig yn ystod y sefyllfa bresennol rydym yn ei wynebu. Mae ymdeimlad o hiraeth sydd, yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn, wedi bod yn ffordd bwysig i bobl gysylltu gyda theulu, ffrindiau a’r llefydd arbennig hynny na allant ymweld â hwythau ar y funud. Rwy’n hapus bod fy nghelf yn gallu helpu i wneud i hyn ddigwydd ac mae’n fy ngwneud yn hynod falch o’r gwaith rwy’n ei wneud.

Gallwch weld gwaith Katherine ar ei gwefan a’i thudalen Instagram @katherinejonesartist

Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi 

Rydym wedi cyflwyno ‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.