Skip to main content

Newyddion

Codwyr Arian Rhithwir #TîmCaerdydd

4 Mehefin 2020

Tra bo’r cyfyngiadau symud ar waith, mae pobl yn chwilio am ffyrdd newydd a chreadigol i godi arian ar gyfer achosion pwysig. Mae sawl marathon a ras wedi cael eu canslo, ond nid yw Josh Little (MEng 2019) ac Owain Davies (Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth 2019 -) wedi gadael i hynny eu rhwystro rhag codi arian ar gyfer niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl a chanser ym Mhrifysgol Caerdydd fel rhan o #TîmCaerdydd. Maent wedi penderfynu mynd i’r afael â heriau newydd sydd o fewn y canllawiau…

Josh Little (MEng 2019)

Sut mae llwybrau rhithwir yn gweithio?

Roedd f’un i wedi’i wneud yn gwbl drwy Strava, sy’n gosod heriau a llwybrau rhithwir. Penderfynais wneud 200km dros 26 diwrnod drwy Mai, gan orffen gyda hanner marathon. Mae’n cael ei gofnodi drwy GPS a phob tro ry’ch chi’n mynd i redeg mae’n cael ei ychwanegu at y cyfanswm ac mae’n cael ei dracio drwy gydol y mis.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i godi arian ar gyfer ymchwil canser?

Rwyf wedi rhedeg Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd i #TîmCaerdydd am y tair blynedd diwethaf. Roeddwn am ei wneud eto eleni pan welais yr her 2.6. Mae’r gwaith mae Caerdydd yn ei wneud yn rhagorol ac mae’r holl ymchwil gyda’r Celloedd-T yn gyffrous iawn. Mae’n teimlo’n dda i fod yn rhan o hynny

Sut mae eich bywyd wedi newid o ganlyniad i COVID-19?

Mae’n eithaf diddorol mewn gwirionedd. Mae wedi mynd yn ôl i sut oedd hi ar ôl i mi raddio, lle’r oedd rhaid i mi symud yn ôl gartref ac aros tu mewn yn gwneud ceisiadau am swyddi. Roeddwn yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio mewn bar pan ddigwyddodd COVID ac rwyf bellach yn ôl yn lle yr oeddwn, heblaw fy mod ar ffyrlo.

Pa fuddiannau sydd wedi dod o’r profiad hwn?

Mae wedi rhoi esgus i mi fynd allan i redeg. Mae mwy o elltydd ym Mhenfro na Chaerdydd, felly mae wedi helpu datblygu fy nygnwch. Mae’n rhoi rhywbeth i chi ganolbwyntio arno ac yn rhywbeth i’w wneud bob dydd. Mae hi llawer tawelach gyda’r cyfyngiadau symud ac nid oes ceir yn unman. Mae’n bosibl rhedeg ar lonydd heb orfod bod mor wyliadwrus â’r arfer. Rwy’n rhoi cynnig ar lwybrau a lonydd newydd weithiau ond gall hynny orffen yn wael os ydych yn crwydro rhy bell o gartref!

Oes gennych chi unrhyw gyngor ar gyfer pobl eraill sy’n ystyried menter debyg?

Credaf bydd pobl yn synnu at faint y gallan nhw ei gyflawni mewn gwirionedd. Mae’r meddwl yn ildio llawer ynghynt na’r corff. Os gallwch ddod o hyd i ffordd i’ch gwahanu eich hunain yn feddyliol o’r syniad fod rhywbeth drwg am ddigwydd, er mwyn gwahaniaethu rhwng beth yw anaf a beth yw blinder, yna dyna’r rhan bwysig. Hynny ac ymestyn – llawer o ymestyn pob nos. Mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth.

Mae Josh bron â chyrraedd ei darged o £250 ar gyfer ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd. Gallwch ei gefnogi drwy ei dudalen Just Giving.

Owain Davies (International Relations and Politics 2019 -)

Allwch chi ddweud wrthym am eich llwybr rhithwir?

Wel, mae fy llwybr rhithwir innau o Faesteg i Newcastle (405km) ond beth fyddai’n ei wneud mewn gwirionedd fydd rhedeg yn ac o gwmpas fy nghwm lleol. Ni fydd yn debyg i redeg ar felin draed, ond ni fyddaf yn rhedeg i Newcastle go iawn chwaith! Byddaf yn hytrach yn cronni’r cilometrau yn fy ardal fy hun.

Oes gennych chi unrhyw brofiad rhedeg blaenorol?

Na, dim mewn gwirionedd! Fe wnes i gofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd dros y Nadolig ac fe wnes i brynu esgidiau rhedeg. Pan osodwyd y cyfyngiadau symud, fe benderfynais i gychwyn rhedeg. Rwyf fel arfer yn chwarae rygbi a sboncen, ond nid wyf yn rhedwr profiadol.

Beth wnaeth eich ysgogi i godi arian ar gyfer niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl?

Mae’n achos gwerth chweil ac mae iechyd meddwl wedi dod yn amlycach i bobl yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae unrhyw beth sy’n gallu helpu, unrhyw ddatblygiadau yn ein dealltwriaeth o sut mae’r ymennydd yn gweithio a sut mae’n gweithredu, yn gam cadarnhaol ymlaen.

Sut mae eich bywyd wedi newid o ganlyniad i COVID-19?

Mae fy mywyd wedi newid o fod 100 milltir yr awr i 0 milltir yr awr. Yr her rhedeg hon yw’r unig beth sydd wedi fy nghadw yn heini ac yn gwneud ymarfer corff rheolaidd.

Mae’n rhaid fod gan ymarfer yn ystod y cyfyngiadau symud ei heriau. Pa rwystrau ydych wedi eu hwynebu?

Cŵn! Fe es i redeg i brofi pecyn hydradu newydd ac wrth i mi fynd heibio tŷ mawr daeth pump o gŵn rhydd dros y stryd ar fy ôl. Roedd yn rhaid i mi stopio am funud neu byddent wedi dal i redeg ar fy ôl!

A pha fuddiannau sydd wedi dod ohono?

Mae rhedeg, i mi, wedi bod yn rhywbeth i ganolbwyntio arno yn ystod y cyfyngiadau symud. Am yr wythnosau cyntaf roeddwn yn ddibwrpas, ond rhoddodd hyn gyfeiriad i mi. Mae’n rhywbeth i weithio tuag at a rhywbeth rwy’n teimlo mae’n rhaid i mi ei wneud.

Oes gennych chi unrhyw gyngor ar gyfer pobl eraill sy’n ystyried menter debyg?

Nid yw unrhyw beth yn rhy fach. Mae unrhyw beth hoffech roi cynnig arni – boed yn wneud deg ymwthiad y dydd – yn helpu a gallwch ddatblygu o fanno. Yr her fwyaf yw penderfynu ei wneud. Pan ddaw yn rhan o’ch trefn dyddiol byddwch chi’n ymdopi’n hawdd.

Mae Owain wedi hel £330 hyd yn hyn ar gyfer niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd a gallwch ei gefnogi drwy ei dudalen Just Giving.

Gallwchgofrestru eich diddordeb i ymuno â #TîmCaerdydd a chodi arian ar gyfer ymchwil pwysig ym meysydd canser, niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl.