Skip to main content

Mehefin 4, 2020

Codwyr Arian Rhithwir #TîmCaerdydd

Codwyr Arian Rhithwir #TîmCaerdydd

Postiwyd ar 4 Mehefin 2020 gan Kate Morgan (BA 2017)

Tra bo’r cyfyngiadau symud ar waith, mae pobl yn chwilio am ffyrdd newydd a chreadigol i godi arian ar gyfer achosion pwysig. Mae sawl marathon a ras wedi cael eu canslo, ond nid yw Josh Little (MEng 2019) ac Owain Davies (Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth 2019 -) wedi gadael i hynny eu rhwystro rhag codi arian ar gyfer niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl a chanser ym Mhrifysgol Caerdydd fel rhan o #TîmCaerdydd. Maent wedi penderfynu mynd i’r afael â heriau newydd sydd o fewn y canllawiau...