Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Cyfres deledu gyda Phrifysgol Caerdydd yn chwarae prif ran ynddi i’w gwylio pan fyddwch wedi diflasu

25 Mawrth 2020

Sownd yn y tŷ? Wedi cael digon ar ddiflastod? Neu yn ysu am ychydig o atgofion sy’n ymwneud â’r brifysgol? Rydym wedi gwneud rhestr o gyfresi teledu sydd wedi’u ffilmio yn ac o gwmpas adeiladau cofiadwy Prifysgol Caerdydd.

Doctor Who

Mae’r rhaglen ffuglen wyddonol adnabyddus hon yn cael ei chynhyrchu gan y BBC ac wedi bod o gwmpas ers 1963, ond cafodd ei hail-lansio yn 2005 gan BBC Cymru Wales. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr a chynfyfyrwyr Caerdydd yn ymwybodol o’i chysylltiadau â’n campws a’r llu o olygfeydd a gafodd eu ffilmio ar dir y Brifysgol. Os ydych yn effro, byddwch yn sylwi ar lu o leoliadau sy’n adnabyddus i chi (yn enwedig yng nghyfres deg).

Mae’n sicr yn sioe i basio’r amser os oes gennych ddiddordeb mewn teithio yn ôl ac ymlaen mewn amser, y gofod a hiwmor Prydeinig.

Gallwch ddod o hyd iddi ar Britbox a BBC iPlayer.

Sherlock

Yn seiliedig ar ‘Sherlock Holmes’ Syr Arthur Conan Doyle, mae’r gyfres dditectif hwyliog a gafaelgar hon yn gwneud defnydd o bensaernïaeth hardd Prifysgol Caerdydd. Mae’r Prif Adeilad ac Undeb y Myfyrwyr i’w gweld ynddi. Mae’r Amgueddfa Genedlaethol hefyd yn sleifio ei hun i mewn i’r sioe ar wahanol adegau.

Os ydych chi’n hoffi Benedict Cumberbatch a chyffro dirgelion llofruddio, ni chewch chi eich siomi.

Gallwch ddod o hyd iddi ar Netflix, BBC iPlayer ac Amazon Prime.

His Dark Materials

Llyfr arall sydd wedi’i addasu i fod yn gyfres deledu yw His Dark Materials. Mae Adeilad Morgannwg a’r Deml Heddwch yn serennu fel cefndir y ddrama ffantasi epig hon sy’n dod â chreadigaethau Phillip Pullman yn fyw. Mae lleoliadau eraill yng Nghaerdydd yn cael eu defnyddio a byddent o ddiddordeb i’r rheiny sydd wedi chwilota tu hwnt i waliau’r brifysgol.

Mae His Dark Materials yn sioe wych fydd yn anodd ei throi i ffwrdd, yn enwedig i ddilynwyr ffantasi.

Gallwch wylio hon ar BBC iPlayer ac Amazon Prime.

https://twitter.com/CardiffUniLib/status/1206615681376096257?s=20

Requiem

Yn gyfuniad perffaith o’r goruwchnaturiol a chyffro, mae Requiem yn gyfres chwe rhan gyda chast talentog a phlot fydd yn eich gwahodd i wylio’r chwe rhaglen un ar ôl y llall. Os nad ydych yn ymgolli gormod yn y stori fe wnewch sylwi ar ambell i leoliad cyfarwydd, ac efallai welwch chi’r campws mewn ffordd hollol wahanol wedyn.

Os ydych yn chwilio am rywbeth dwys, llesmeiriol a gafaelgar, dyma sioe i chi.

Gallwch ddod o hyd i’r gyfres oeraidd hon ar Netflix ac Amazon Prime.

Ysu am fwy o Gaerdydd?

Os nad yw’r uchod yn bodloni eich hiraeth neu os ydych wedi gwylio’r rhain yn barod, peidiwch â phoeni achos mae gennym ni fwy. Dyma restr o gyfresi teledu sydd wedi’u ffilmio yn y ddinas a’i chyffiniau:

Gavin and Stacey – Ynys y Barri a Chaerdydd
Pwy sydd ddim yn hoffi chwerthin? Mae Gavin and Stacey – hanes y cwpl o Ynys y Barri a’u teuluoedd yn sicr o godi gwên. Ar gael ar BBC iPlayer, Netflix, Youtube a Google Play.

Da Vinci’s Demons – Tongwynlais
Cyfres ffantasi hanesyddol sy’n gwneud y mwyaf o dirwedd tylwyth teg Tongwynlais. Ar gael ar Google Play, YouTube ac Amazon Prime.

Merlin – Tongwynlais
Drama ffantasi arall wedi’i ffilmio o gwmpas Tongwynlais ac, yn benodol, Castell Coch. Ar gael ar Netflix, Google Play ac YouTube.

Galavant – Castell Caerffili
Dyma sioe gerdd ffantasi Americanaidd fydd yn dod yn ffefryn yn syth. Bydd yn syndod faint fyddwch yn chwerthin. Ar gael ar Amazon Prime.

Being Human – Y Barri
Fe ddaeth y ddrama gomedi oruwchnaturiol hon ag ysbryd, bleidd-ddyn a fampir ynghyd fel cydletywyr, ac o gyfres 3 ymlaen, y Barri yw eu cartref. Ar gael ar Netflix

Torchwood – Caerdydd
Cafodd y ‘spin-off’ Doctor Who hwn ei anelu at gynulleidfa hŷn, ac mae’n dilyn tîm o helwyr estroniaid yn y ‘Torchwood Institute’ yng Nghaerdydd. Fe gafodd y sioe ddilyniad cwlt enfawr, i’r graddau fod cysegrfa i un o’r prif gymeriadau ym Mae Caerdydd hyd heddiw. Ar gael ar Amazon Prime.

Traitors – Cardiff
Cyfres fer llawn ysbïo, ffrwydradau a brad. Cafodd llawer o’r golygfeydd eu ffilmio yng Nghaerdydd ac mae un arbennig o gofiadwy yn cynnwys ffrwydrad bws ym Mae Caerdydd. Ar gael ar All 4 a Google Play.