Skip to main content

Ein Cyn-fyfyrwyrNewyddion

Caerdydd yn dathlu’r Flwyddyn Newydd Dsieinëeg

4 Chwefror 2019

Gwobr Gyfeillgarwch y Mur Mawr

Wrth i’r byd baratoi i ddathlu Gŵyl y Gwanwyn gyda Tsieina, bydd Caerdydd yn croesawu Blwyddyn y Mochyn (5 Chwefror) gyda mwy o frwdfrydedd na neb.

Mae’r cysylltiadau cryf rhwng Caerdydd a Tsieina yn 30 oed eleni. Prifddinas Cymru oedd y ddinas gyntaf yn y DU i efeillio gyda dinas yn Tsieina, sef Xiamen yn nhalaith Fujian yn 1989.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach dechreuodd Prifysgolion Caerdydd a Peking gydweithio ym maes ymchwil canser – partneriaeth sydd wedi galluogi 91 academydd a 60 myfyriwr i gyfnewid ac wedi bod yn sail hefyd i sefydlu Canolfan ar y cyd ar gyfer Ymchwil Biofeddygol yn 2013 ym Mhrifysgol Feddygol (CMU) sydd â’i chanolfan yng Nghaerdydd.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae Caerdydd wedi ehangu ei gorwelion ac wedi ffurfio partneriaethau y tu allan i Beijing, gyda 50 o gysylltiadau academaidd a chytundebau partneriaethau strategol gyda phrifysgolion ledled y wlad.

Mae diwydiant wedi chwarae rhan allweddol, gyda Realcan, darparwr gwasanaethau biofeddygol Tsieinëeg yn buddsoddi £1m mewn cyfleoedd ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd dros gyfnod o dair blynedd ers 2017 er mwyn sicrhau bod yr un brwdfrydedd dros arbenigedd ymchwil biofeddygol a chlinigol yn parhau.

Yn ddiweddar, daeth swyddogion Llywodraeth Chongqing ar ymweliad i Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd i archwilio cyfleoedd economaidd – a hynny ar ôl i mwy na 100 o arweinyddion academaidd Tsieinëeg dreulio tri mis yng Nghaerdydd i ddatblygu eu sgiliau arwain a ffurfio cysylltiadau gyda’u tebyg yn y DU.

“Ffrwyth gwaith caled ar y naill ochr yw’r rhaglen hon, ac mae’n symbol o’r partneriaethau addysgol a’r oes agored sydd ohoni rhwng ein gwledydd gwych”, meddai Jianhui Xia, Cwnselydd yr Adran Addysg yn Llysgenhadaeth Tsieina yn y DU.

Cafodd y berthynas yma ei chydnabod pan, yn 2018, derbyniodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd ‘Gwobr Gyfeillgarwch y Mur Mawr’ am gyfraniad Prifysgol Caerdydd i ddatblygiad y Brifddinas Tsieinëeg, Beijing.

Mae cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd hefyd yn ffynnu yng nghanol yr oes aur yma yng nghysylltiadau Caerdydd a Tsieina.

O’r Athro Zhong Binglin (PhD 1994, Hon 2001), cyn Lywydd Prifysgol Normal Beijing a Chymdeithas Addysg Tsieina, a’r Athro Jiafu Ji (PhD 2015), Llywydd Ysbyty Canser Athrofaol Peking ac enillydd Gwobr Cyflawniad Proffesiynol Cenedlaethol yng Ngwobrau ‘Study UK’ 2017, mae cynfyfyrwyr Tsieinëeg yn llunio’r genhedlaeth nesaf o feddylwyr a datryswyr problemau.

Mae’r Flwyddyn Newydd Tsieinëeg yn gyfle i fyfyrio ar lwyddiant gyfunol y berthynas rhwng Caerdydd a Tsieina – a gyda sylfeini mor gryf i adeiladu ar gryfderau, edrychwn ymlaen at flwyddyn arall o gydweithio ac arloesedd.