Skip to main content

Cyswllt Caerdydd

Newid sylweddol yn y ffordd mae Caerdydd yn cefnogi myfyrwyr

21 Rhagfyr 2018

Mae Materion Lles Myfyrwyr yn bwysig. Cyfarwyddwr Cefnogi a Lles Myfyrwyr Caerdydd, cyn-fyfyriwr a rhoddwr i Gaerdydd, a myfyriwr presennol sy’n trafod sut mae ymagwedd chwyldroadol yn gwneud gwahaniaeth real.

Ym mis Medi 2018, torrodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Kirsty Williams OBE y dywarchen gyntaf ar y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr – adeilad fydd yn newid tirwedd Parc y Plas pan fydd yn agor yn ystod blwyddyn academaidd 2020-21.

Mae’r adeilad yn arwydd o ymrwymiad Caerdydd i les pob myfyriwr. Mae hon yn dasg enfawr: mae dros 30,000 o fyfyrwyr yn byw ac yn dysgu yn y Brifysgol bob blwyddyn.

Beth yw Cefnogi a Lles Myfyrwyr?

Ben Lewis
Ben Lewis

“Rydym ni yma i helpu pob myfyriwr yng Nghaerdydd i lwyddo,” dywed Ben Lewis, Cyfarwyddwr Cefnogi a Lles Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

O yrfaoedd i ddatblygu proffesiynol i gwnsela a chymorth iechyd meddwl,
mae adran Ben yn cyfoethogi pob agwedd ar brofiad myfyrwyr Caerdydd. “Yn aml cyfeirir at ‘gefnogi myfyrwyr’ fel rhywbeth sydd y tu allan i’r dosbarth,” ychwanega. “Ond mae llawer ohono’n dod yn ôl at addysg. Mae ein rhaglenni’n galluogi myfyrwyr i gyflawni’r canlyniad gorau bosib yn ystod eu hamser yng Nghaerdydd, gyda chae chwarae mwy gwastad ym mhob ystyr.”
Mae tîm Ben yn rhannu un nod: “Gallwn ni wir drawsnewid bywydau myfyrwyr Caerdydd
er gwell.”

Addysg i bawb

Mae’r gefnogaeth i fyfyrwyr yng Nghaerdydd ar waith ymhell cyn i’r brifysgol ddechrau. Mae ysgoloriaethau a chronfeydd a ddarperir gan roddwyr yn galluogi’r rheini sy’n gadael gofal, myfyrwyr sydd yn profi caledi ariannol ac eraill i ymgeisio i’r brifysgol yn y lle cyntaf.

John Endacott
John Endacott

Mae’r cyn-fyfyriwr a’r rhoddwr John Endacott (BScEcon 1989), Pennaeth Ymarfer Treth yn y cwmni cyfrifyddu PKF Francis Clark, yn cydweithio’n agos gydag Ysgol Busnes Caerdydd i gefnogi un ysgoloriaeth o’r fath.

“Mae’n anghywir tybio ei bod yn hawdd i bobl fanteisio ar ddysgu,” dywed John.
“Mae symudedd cymdeithasol wedi’i niweidio a’r sbardun i fi yw y dylai pobl sy’n gallu
cyflawni gael y cyfle i wneud hynny.”

Drwy gefnogi myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig, mae John wedi ymuno â nifer cynyddol o roddwyr y mae eu haelioni’n helpu i drawsnewid cyfleoedd bywyd myfyrwyr
unigol.

Ychwanega John: “Bydd llawer o fyfyrwyr yn profi anawsterau ar ryw bwynt. Maen nhw’n haeddu cael cefnogaeth i ddod allan yr ochr arall yn berson cryfach. Po fwyaf y gallwch chi eu helpu nhw drwy gyfnodau anodd, y gorau.”

Mae’r gweithredoedd dyngarol hyn yn cael effaith enfawr ar fyfyrwyr unigol. “Rwyf i’n clywed straeon anhygoel am fyfyrwyr sy’n cael eu cefnogi ac sydd bellach â bywydau gwahanol iawn – a llawer gwell – na’r bywydau a fyddai ganddynt fel arall,” dywed Ben.

Ymagwedd gyfannol

Ehangu mynediad at raglenni gradd yw man dechrau’r gefnogaeth. Nid yw bod yn fyfyriwr yn 2018 heb ei heriau.

Nichola Bagshaw
Nichola Bagshaw

“Mae amgylchedd addysg uwch yn ei hanfod yn heriol”, dywed y myfyriwr cyfredol Nichola Bagshaw (Seicoleg 2015-), sydd wedi derbyn cefnogaeth ac sy’n hwylusydd lles. “Mae materion iechyd meddwl yn effeithio ar un ym mhob pedwar ohonom ni. Rhaid i chi ystyried hynny yng nghyd-destun amgylchedd ble mae straen cronig yn anochel.”

Ar ôl profi dwy ochr cefnogaeth myfyrwyr, mae Nichola’n credu bod gwasanaeth Caerdydd wedi esblygu’n sylweddol, yn rhannol oherwydd yr ymagwedd gyfannol.

“Mae cymaint o heriau’n gysylltiedig â’i gilydd, felly allwch chi ddim edrych arnyn nhw ar eu pen eu hunain neu ddelio gyda nhw un wrth un,” dywed. “Mae Caerdydd wedi sefydlu tîm rhyngddisgyblaethol gyda chynghorwyr arbenigol ac arbenigwyr mewn meysydd penodol sy’n cydweithio’n agos â’i gilydd.”

Mae gwaith i ymgysylltu’n gadarnhaol gyda myfyrwyr yn dechrau ar y diwrnod cyntaf, gyda ffocws ar gefnogaeth iechyd meddwl ac adeiladu cymuned. Caiff myfyrwyr eu croesawu i Gaerdydd yn weithredol gan fentoriaid cymheiriaid sydd wedi’u hyfforddi a Chynorthwywyr Bywyd Preswyl newydd (gan gynnwys Nichola): cyd-fyfyrwyr sy’n gweithredu fel mannau cyswllt parhaus mewn Neuaddau Preswyl ac fel ‘system rhybudd cynnar’ ar gyfer materion y gallai fod angen eu cyfeirio ymlaen.

“Mae’r gwasanaethau cyd-gysylltiedig hyn yn galluogi pobl fel fi i weithredu a ffynnu,” dywed Nichola. “Yn fy achos i, mabwysiadodd y gwasanaeth ymagwedd ymddygiadol at osod nodau a’u cyflawni, gan fy arwain drwy benderfyniadau enfawr fel newid cwrs.”

Ar ôl ymdopi gydag anawsterau iechyd meddwl gyda chymorth gwasanaethau cwnsela Caerdydd, dyma stori myfyriwr sydd bellach yn gweithredu fel Hyrwyddwr Lles.

“Fe ymdaflais i waith Prifysgol a chreu trefn weithio lem i fi fy hun fel dihangfa gyfleus oddi wrth fy meddyliau oedd yn gynyddol dywyll. Ond daeth y drefn i fod yn ormesol, gan ddod yn ffynhonnell straen a phryder enfawr.”

“Fodd bynnag, drwy gyfuniad o feddyginiaeth a chwnsela, dechreuais i allu edrych ar fy nghredoau negyddol a fy nhrefn gwaith yn gliriach a goresgyn y rhan fwyaf o’r symptomau iselder a phryder roeddwn i’n eu profi.

“Os yw rhywun yn mynd drwy rywbeth tebyg, mae cymaint o bobl yn y Brifysgol a chymaint o gefnogaeth y gallwch chi ei chael.”

Darllenwch fwy am brofiadau lles myfyrwyr Caerdydd

Cefnogaeth bob dydd

“Mae gwelededd a hygyrchedd wedi bod yn ffactorau allweddol wrth aildrefnu’r gwasanaethau myfyrwyr,” dywed Ben.

“Rydym ni’n defnyddio llwyfannau digidol i sicrhau bod y gefnogaeth ar gael yn rhwydd.

“Rydym ni am ddarparu’r un cymorth a chefnogaeth i’r rheini ar leoliadau gofal iechyd yng ngogledd Cymru, neu ar Gyfleoedd Byd-eang yn rhyngwladol, ag yr y gallwn ei wneud i fyfyriwr ar draws y ffordd yn Adeilad Maendy,” dywed. “Mae myfyrwyr yn deall technoleg ac mae llwyfannau digidol yn caniatáu i ni gau’r bwlch hwn”.

Caiff gwasanaethau cwnsela eu cynnig ar-lein eisoes a gall myfyrwyr wneud cais am fwrsariaethau fel y Gronfa Caledi heb hyd yn oed ymweld â swyddfeydd Plas y Parc. Gall y rheini sy’n ffafrio sgyrsiau wyneb yn wyneb
eu cael nhw o hyd, a bydd y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr newydd yn hwyluso’r cyfarfodydd hyn hefyd.

I Nichola, bydd y cyfuniad o seilwaith ffisegol a digidol newydd yn normaleiddio mynediad ac ymgysylltu i fyfyrwyr. “Mae myfyrwyr yn cyrraedd ac yn cael eu drysu gan yr wybodaeth am y
bywydau y dylen nhw fod yn eu byw,” dywed. “Maen nhw’n sefydlu eu hunaniaeth ac ar y dechrau, gallai eu blaenoriaethau fod mewn man arall.”

“Fy mhrofiad i yw pan fyddan nhw angen y gefnogaeth, naill ai dydyn nhw ddim yn gwybod ei bod ar gael neu maen nhw’n teimlo stigma ynghylch gofyn am help,” dywed. “Mewn gwirionedd, mae gofyn am gyngor neu help yn gwbl normal. Ond weithiau mae angen i ni fod yn rhagweithiol wrth ddechrau’r sgwrs honno.”

Bywyd ar ôl Caerdydd

Maes allweddol arall i fyfyrwyr yw gyrfaoedd a chyflogadwyedd. “Rydym ni wedi gweld symudiad mawr yn agwedd myfyrwyr at eu gyrfaoedd dros y pum mlynedd ddiwethaf,” dywed Ben.

Mae Tîm Cefnogi a Lles Myfyrwyr Caerdydd yn darparu gwasanaethau allweddol yn amrywio o gyngor gyrfaoedd (ar gael am hyd at ddwy flynedd ar ôl graddio) i gyfleoedd yn y gweithle, gweithdai sgiliau a chyngor pwrpasol yn ymwneud â dechrau menter busnes.

Mae’n faes arall lle mae’r hyn sy’n ymddangos fel cyfraniad bach yn gallu cael effaith fawr. “Nid yw bob amser yn hawdd dod o hyd i brofiad gwaith perthnasol,” dywed Ben. “Mae’n ffaith wybyddus, yn enwedig i bobl ifanc o gefndiroedd incwm is, ei bod yn gallu bod yn anodd dod o hyd i’r profiadau gwaith sy’n ategu eu hastudiaethau. Mae fy nrws i bob amser ar agor i unrhyw un sy’n dweud ‘Rwy’n chwilio am fyfyriwr intern.'”

Mae cyn-fyfyrwyr hefyd yn gwerthfawrogi budd cynnig cyfleoedd gwaith i fyfyrwyr. Mae John yn gweithio gyda graddedigion Caerdydd yn ddyddiol yn PKF Francis Clark. “Mae budd mawr i drylwyredd a manylder academaidd y cyrsiau maen nhw wedi’u dilyn,” dywed. “Hoffwn i pe bai mwy o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Caerdydd yn gweithio yma!”

Beth nesaf?

Artist's impression of the new Centre for Student Life
Artist’s impression: Centre for Student Life

“Mae gan Gaerdydd wasanaeth gwirioneddol flaengar,” dywed Nichola. “Mae’n gofyn ‘beth nesaf?’ drwy’r amser.”

Gyda chreu’r Ganolfan Bywyd Myfyrwyr, cyfleuster pwrpasol wrth galon y Brifysgol, bydd y newid hwnnw’n cyflymu ymhellach.

“Mae llawer o brifysgolion yn esblygu eu gwasanaethau myfyrwyr drwy ychwanegu darnau dros amser ac wrth i chi dyfu mae’n dod yn anodd eu cynnal,” dywed Ben. “Yr hyn rydyn ni’n ei wneud yw pwyso Ctrl+Alt+Delete ac ailosod ar gyfer myfyrwyr heddiw.”

“Mae gennym ni ein cyfleuster gwych newydd, presenoldeb ar-lein i ategu ein huchelgais ffisegol a nifer o raglenni arloesol, wedi’u targedu,” dywed Ben. “Drwy ddod â’r elfennau hyn at ei gilydd mae gennym ni gyfle nawr i wneud rhywbeth gwirioneddol arbennig i fyfyrwyr Caerdydd.”

Darllen fwy am Cardiff Connect

A wnaethoch chi fwynhau’r erthygl? Beth yw eich barn?