Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewid y drefn

Newid y drefn: Philip Evans QC (LLB 1993) – Brosiect Dieuogrwydd Caerdydd

20 Rhagfyr 2018
Philip Evans QC
Philip Evans QC

Mae Philip Evans CF (LLB 1993) yn fargyfreithiwr blaenllaw yn Llundain sydd hefyd yn gweithio ar sail pro bono gyda Phrifysgol Caerdydd i herio camweddau cyfiawnder.

Mae gan Brosiect Dieuogrwydd Caerdydd genhadaeth ddinesig hanfodol: mae’n cynnig cymorth i bobl a gafwyd yn euog o drosedd, sy’n mynnu eu bod yn ddieuog. Hyd yma, prosiect dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd yw’r unig sydd wedi llwyddo i gael rheithfarn wedi’i gwrthdroi gan y Llys Apêl.

Rwy’n teimlo’n angerddol dros eiriolaeth ym maes trosedd, sy’n llwybr y penderfynais ei ddilyn wrth astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weithio ar ambell achos proffil uchel yn ystod fy ngyrfa. Bûm yn amddiffyn cricedwr Pacistan, Mohammad Asif, yn yr achos twyllo mewn gemau yn Lord’s, yn erlyn yn achos Lladrad Hatton Garden, ac rwy’n Bennaeth Barnwriaeth Rygbi yr Undeb Rygbi.

Yng nghanol hynny, caf foddhad mawr o ymgymryd â’m gwaith pro bono ar ran Prifysgol Caerdydd. Dyw hynny ddim i ddweud bod gennym gyngor cadarnhaol i’w gynnig bob tro, ond pan gewch gyfle i bledio achos addawol dros bobl na fyddent, fel arall, yn gallu fforddio rhywun i’w cynrychioli, mae’n beth gwefreiddiol.

Mae’r cynlluniau pro bono yn cynnig profiadau o fudd enfawr i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd; rwy’n eiddigeddus ohonynt am feddu ar y cyfleoedd hyn. Fel rhan o’r Prosiect Dieuogrwydd hwn, mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cynnal gwaith ymchwil yn rheolaidd, weithiau’n delio gydag ymarferwyr, yn dyst i’r gyfraith ar waith a’n hymagwedd at achosion, y cyngor a rown a’r modd rydym yn cyflwyno’r achosion hynny gerbron y llys.

Ar hyn o bryd, rydym ni (fi, fy margyfreithiwr iau, ystod o fyfyrwyr presennol, cyfreithiwr o Gaerdydd sydd hefyd yn gweithio pro bono, ac aelodau bendigedig ac ymrwymedig y Brifysgol, yr Athro Julie Price a Dr Dennis Eady (PhD 2009)) yn gweithio ar achos y gwnaethom ei ddwyn yn llwyddiannus gerbron y Llys Apêl. Mae amser, arbenigedd a mewnbwn pawb sydd ynghlwm wrth yr achos yn amhrisiadwy, ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd yr unigolyn o dan sylw.

Rwy’n priodoli llwyddiant Prosiect Dieuogrwydd Caerdydd i ddygnwch, gwaith cynllunio a pharhad arweinyddiaeth ac arbenigedd y rheini sy’n ymwneud â chynnal y prosiect hwn. Mae pawb yn gweithio mor galed a chanddynt gymaint o angerdd dros y cyfrifoldeb sydd ganddynt. Mae’n fraint bod yn rhan o hynny.

Darllenwch yr erthygl nesaf am Newid y Drefn:
Simon Blake OBE (BA 1995) – Ymgyrchu dros gydraddoldeb

Hefyd yn y gyfres: