Skip to main content

Cyswllt CaerdyddPam Prifysgolion?

Mae Prifysgolion yn cau’r bwlch sgiliau

17 Rhagfyr 2018

Dyngarwr yw Lyndon Wood (Anrh. 2018), a sefydlydd y cwmni yswiriant Grŵp Moorhouse.

Lyndon Wood (Hon 2018)

“Rwy’n gwybod bod cyflogi pobl mewn rhai diwydiannau penodol yn gallu bod yn heriol. Dyma’r rheswm pam mae interniaethau yn allweddol, ac rwy’n gweithio’n agos gyda Phrifysgol Caerdydd i’w cynnig.”

Dyma eiriau’r entrepreneur Lyndon Wood, sy’n sicr bod interniaethau yn “gyfle gwych” i fyfyrwyr “gael rhywfaint o brofiad bywyd go iawn”.

Mae’n cynnig chwe rôl i fyfyrwyr Caerdydd, sydd, yn ei farn ef, yn “ychwanegu gwerth i unrhyw fusnes gyda gwybodaeth, sgiliau a gwybodaeth y gellir eu haddasu i ofynion y gweithle – ac yn bwysicach na hynny, yn angerddol dros fynd i’r afael â’r gwaith.”

Nid yw cynnig interniaethau yn fuddiol yn y tymor byr yn unig, gan fod “priodi brwdfrydedd, y sgiliau a ddysgwyd yn y byd academaidd, a phrofiadau gwaith ymarferol yn magu cenhedlaeth sy’n barod i arloesi a herio’r farchnad swyddi.”

Cred Lyndon fod gan hynny’r potensial i newid y byd corfforaethol er gwell. Er nad oes modd diystyru’r effaith ar ddiwydiant, mae cyfleoedd o’r fath yn rhan allweddol o roi’r sgiliau i fyfyrwyr a chynfyfyrwyr fel ei gilydd i’w paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Osian holds a sign saying: have confidence in your abilities but never be afraid to ask for help
Osian Morgan (BA 2018)

Bu’r cynfyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, Osian Morgan (BA 2018) yn cymryd rhan mewn interniaeth gyda’r teilwriaid Ede and Ravenscroft.

“Roedd yr interniaeth yn hynod werthfawr ac yn fuddiol i mi ar lefel bersonol a phroffesiynol”, dywedodd Owain. “Rydw i wedi aeddfedu a datblygu, ac mae wedi bod yn gyfle unigryw i roi’r sgiliau rydw i wedi’u datblygu yn ystod fy ngradd ar waith.”

Y canlyniad? “Bellach mae gen i fwy o hyder yn fy ngalluoedd fy hun i weithio’n annibynnol, gwneud penderfyniadau a datrys problemau. Byddwn i wedi bod yn fwy tebygol o chwilio am arweiniad gan aelod hŷn o staff ar ddechrau fy lleoliad.”

Yn yr un modd, ysgrifennodd Elizabeth ar LinkedIn am sut y gwnaeth y lleoliad gwaith byr a gafodd gyda Microsoft newid ei hagwedd at yrfaoedd.

“Fe wnes i wir fwynhau […] y cyfle i ddysgu am y diwydiant technoleg, Microsoft a Dynamics 365 […] a’r angen i gwmnïau technegol gyflogi pobl o gefndiroedd nad ydyn nhw’n dechnegol”, dywedodd y myfyriwr Cemeg o Brifysgol Caerdydd.

“Mae hyn yn sicr yn rhywbeth i’w ystyried ynghylch fy newisiadau gyrfa.”

Yn ystod ei lleoliad, bu Elizabeth yn cysgodi Elliot Howells (BSc 2016), sy’n Canfod Atebion Technoleg – a gall unrhyw gynfyfyriwr o Gaerdydd, sydd mewn sefyllfa i greu cyfle yn y gweithle, fynegi eu diddordeb mewn gweithio gyda myfyriwr neu gynfyfyriwr.

Mae myfyrwyr Caerdydd yn llawn talent, gwybodaeth a brwdfrydedd. Yr oll maent eu hangen yw help llaw i ddechrau ar eu gyrfaoedd.

Ar gyfer pob sector, a phob math o rôl, mae myfyriwr talentog o Gaerdydd sydd â’r sgiliau a’r egni angenrheidiol ar gael i helpu eich sefydliad i ffynnu. Gall cyfleoedd gyrfa i fyfyrwyr bara hyd at dair wythnos, mis, tymor neu flwyddyn hyd yn oed – beth bynnag sydd ei angen arnoch – a gall ddigwydd unrhyw le ar draws y byd.

Gall tîm Cysylltiadau ar gyfer y Dyfodol Caerdydd eich rhoi mewn cysylltiad â thros 30,000 o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy’n barod i ddod â’u sgiliau a’u hegni i’ch diwydiant.

Darllenwch yr erthygl nesaf am Pam Prifysgolion?:
Mae Prifysgolion yn gwneud cymunedau yn llefydd gwell

Hefyd yn y gyfres: