Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Pe bawn i’n gwybod bryd hynny beth ydw i’n ei wybod nawr – cyngor gan gynfyfyrwyr i lasfyfyrwyr 2018

28 Medi 2018

Daeth 8,000 o fyfyrwyr newydd i Brifysgol Caerdydd yr wythnos hon. Dyna 8,000 o gerrig milltir, ac i’r rheiny sy’n bell o adref ac ar ddechrau eu cyfnod fel myfyrwyr (a’r holl brofiadau a chyfrifoldebau cysylltiedig) gall y diwrnodau cyntaf hynny beri cryn ansicrwydd.

“Nid oeddwn yn siŵr beth oedd yn mynd ymlaen yn ystod y 3 mis cyntaf ,” meddai Sharon Anne Evans (BA 2018). “Roeddwn yn mynd o le i le yn dweud wrth unrhyw un a fyddai’n barod i wrando nad dyma oedd fy lle! Dyma’r cyngor y buaswn wedi rhoi i fy hun: paid â gadael i unrhyw un ddweud wrthyt na ddylet drafferthu ceisio gwella dy hun.”

Y tu allan i’r dosbarth, gallech gael eich temptio i gadw’n glir o brysurdeb nodweddiadol Wythnos y Glas. “Peidiwch â threulio gormod o amser ar eich pen eich hun yn eich ystafell”, dyna yw cyngor David Marsden (LLB 1978). “Mae’r Brifysgol yn lle delfrydol i roi cynnig ar bethau newydd. Ymaelodwch a chlybiau a chymdeithasau, ewch allan a gwnewch ffrindiau newydd.”
Mae Mark McArthur-Christie (BA 1989) yn eich sicrhau nad chi yw’r unig un sy’n teimlo ychydig yn swil i ddechrau.

“Er bod pawb arall yn ymddangos yn fwy hyderus, yn fwy galluog ac yn fwy trefnus na chi, dydyn nhw ddim. Maen nhw yr un mor ofnus, ar goll ac mor ddryslyd â chi. Felly ewch i siarad â nhw! Defnyddiwch ‘ie’ yn fwy na ‘na’. Mwynhewch bob munud, a manteisiwch ar bob cyfle i gwrdd â chymaint o bobl ag y gallwch.”

“Gwnewch yn fawr o’ch amser, ychwanegodd. “Bydd tair blynedd yn teimlo fel oes adeg Wythnos y Glas, ond bydd yr amser yn gwibio heibio.”

“Dylech werthfawrogi pob eiliad, ei gadw a’i drysori,” cytuna Kaywana Edgecombe (LLB 2009). “Roeddwn yn rhy brysur yn cyfri’r dyddiau nes y gallwn fynd adref am doriad. Erbyn hyn, mae Caerdydd yn rhan ohonof ac rwy’n dyheu i ddod yn ôl bob dwy flynedd. Dwi’n difaru wnes i ddim ymlacio a mwynhau pob diwrnod yn lle hiraethu am adref.”

Jenifer A. Daley (PhD 2002) sy’n cael y gair olaf, gyda’i chyngor sy’n berthnasol er mai dim ond atgof yw’r dyddiau cyntaf nerfus hynny.

“Ymlaciwch. Rydych yma am reswm. Mae gennych bwrpas yma. Dysgwch hyd eithaf eich gallu. Datblygwch er mwyn gwireddu eich gallu.