Skip to main content

Arts, Humanities & Social SciencesEin Cyn-fyfyrwyrModern LanguagesUncategorized @cy

Lucy Jenkins (BA 2014, MA 2015)

10 Gorffennaf 2018
Lucy Jenkins
Lucy Jenkins

“Bywiog, ysbrydoledig, trylwyr, angerddol a chartref” yw’r pum gair a ddefnyddiodd Lucy Jenkins (BA, 2014, MA, 2015) i ddisgrifio Prifysgol Caerdydd. Ar ôl graddio o’r Ysgol Ieithoedd Modern yn 2015, dychwelodd ddwy flynedd yn ddiweddarach yn Gydlynydd Cenedlaethol y Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor.

Nid oedd dewis astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn benderfyniad anodd. Roedd y ffaith fy mod yn byw yn yr ardal ac yn ymwybodol o’r costau sy’n gysylltiedig â mynd i’r brifysgol, yn golygu mai aros mewn man lleol i adref oedd y dewis gorau i mi. Yn ogystal, fe wnaeth ymweliad ysbrydoledig iawn a Phrifysgol Caerdydd ar gyfer diwrnod agored, pan gyfarfûm â’m darpar ddarlithydd Eidaleg am y tro cyntaf, gadarnhau fy mhenderfyniad yn llwyr.

Wrth weld a theimlo egni’r Ysgol Ieithoedd Modern, yn enwedig brwdfrydedd y staff, teimlais yn siŵr y byddai astudio iaith ym Mhrifysgol Caerdydd yn brofiad gwych.

Heb amheuaeth, cefais fy mhrofiad mwyaf cofiadwy fel myfyriwr y tu allan i Gaerdydd pan dreuliais fy mlwyddyn dramor yn Parma, yr Eidal. Fy mlwyddyn dramor oedd blwyddyn orau fy mywyd ac agorodd fy llygaid yn llwyr. Roedd y broses o baratoi a gawsom gan yr Ysgol heb ei hail, a chefais yr hyder i fynd i’r afael â’r hyn oedd yn gryn her gyda chyffro a brwdfrydedd… a thamaid o nerafu. Fe wnaeth astudio dramor gynyddu fy hyder, gwella fy sgiliau iaith yn ogystal a chaniatáu i mi gwrdd â phobl o bedwar ban byd, sy’n parhau i fod ymysg rhai o fy ffrindiau agosaf hyd heddiw. I mi, newidiodd fy agwedd yn llwyr ac fe gafodd ddylanwad aruthrol ar fy newis gyrfa.

Bu’r cymorth a gefais yn yr Ysgol Ieithoedd Modern a’r sgiliau a ddatblygais drwy fy astudiaethau iaith yn hanfodol wrth roi hyder i mi gyflwyno fy hun mewn modd cadarnhaol, a rhoi o’m gorau bob amser. Fe wnaeth manylrwydd fy rhaglenni BA ac MA fy nysgu i fod yn gydwybodol ac i weithio’n galed bob amser ac mae hynny’n sicr wedi cyfrannu’n helaeth at fy llwyddiant.

Ar ôl graddio, cefais interniaeth tri mis o hyd gyda chwmni addysg, Rewise Learning , wnaeth arwain at swydd weithredol amser llawn. Ar ôl 15 mis yn y rôl gwnes gais am y swydd Cydlynydd Cenedlaethol Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd.

Nid oes unrhyw ddiwrnod yr un fath yn y swydd hon, a dyna pam yr ydw i mor hoff ohoni! Mae’r prosiect yn gweithio mewn partneriaeth a thair prifysgol arall yng Nghymru ac yn cynnwys cyfarfodydd gyda chyllidwyr a thechnolegwyr, mae fy nyddiau yn llawn amrywiaeth a llawer o bobl ddiddorol.

 


Arts, Humanities & Social SciencesModern LanguagesOur Alumni

Lucy Jenkins (BA 2014, MA 2015)

10 Gorffennaf 2018
Lucy Jenkins
Lucy Jenkins

“Vibrant, inspiring, rigorous, passionate and home” are the five words Lucy Jenkins (BA 2014, MA 2015) used to describe Cardiff University. After graduating from the School of Modern Languages in 2015 she returned two years later as National Coordinator of the Modern Foreign Languages Student Mentoring Project. (rhagor…)