Skip to main content

DonateNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Cwrdd â’r Ymchwilydd – Dr Sarah Lauder

17 Medi 2020

Canser y fron yw’r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod a phob blwyddyn mae tua 55,000 o bobl yn cael diagnosis yn y DU yn unig. Cyn Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron ym mis Hydref, buom yn siarad â’r ymchwilydd canser Dr Sarah Lauder (BSc 2002, PhD 2007), sy’n Gydymaith Ymchwil yn Lab Imiwnoleg Canser Gallimore Godkin Prifysgol Caerdydd.  

Dywedwch ychydig wrthym am eich ymchwil.   

Mae ein system imiwnedd yn gwneud gwaith gwych o glirio heintiau feirysol a bacterol, ond nid yw’n gwneud gwaith cystal bob tro wrth greu ymateb a allai glirio canser. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar addasu ein system imiwnedd er mwyn ceisio gwella’r ymateb i ganser y fron. 

Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer eich ymchwil a sut y gallai fod o fudd i gleifion canser y fron yn y dyfodol?   

Mae fy astudiaethau diweddar wedi canolbwyntio ar ddefnyddio cyffuriau sy’n trin canserau gwaed yn llwyddiannus ar hyn o bryd, er mwyn gweld a allant wella’r ymateb imiwnedd i ganser y fron. Gallai’r gwaith hwn fod yn fuddiol iawn i gleifion, ac oherwydd bod y cyffuriau hyn eisoes yn cael eu defnyddio, rydym yn gwybod beth yw eu sgil-effeithiau ac ati sy’n golygu y gallai treialon mewn cleifion canser y fron ddechrau’n llawer cynharach os bydd ein data cyn-glinigol yn llwyddiannus. Gallai’r cyffuriau hyn gynnig opsiwn arall i gleifion lle nad yw triniaethau eraill wedi llwyddo. 

Beth a’ch ysbrydolodd i ddilyn y maes ymchwil hwn?   

Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mawr mewn imiwnoleg, ac yn enwedig yn rôl y system imiwnedd wrth reoli canser. Fodd bynnag, ar ôl i’m mam gael diagnosis o ganser y fron Cam III yn 2016, roedd ffocws llawer mwy personol i fy ymchwil. 

Beth wnaethoch chi ei astudio ym Mhrifysgol Caerdydd?   

Cwblheais BSc mewn Bioleg Gymhwysol yn 2002, ac yna ar ôl 18 mis yn gweithio mewn diwydiant, dechreuais fy PhD yn yr Ysgol Feddygaeth, gan raddio yn 2007. 

Beth wnaeth i chi ddod i astudio yng Nghaerdydd?   

Dewisais ddod i Gaerdydd i astudio fy ngradd israddedig gan fy mod yn mwynhau dod i’r ddinas i ymweld â’m mam-gu a thad-cu pan oeddwn yn blentyn. Mae gan Brifysgol Caerdydd enw da iawn hefyd am ei chyrsiau biolegol a gwyddorau bywyd. Roeddwn wrth fy modd gyda’m hamser fel myfyriwr israddedig yng Nghaerdydd ac roeddwn yn awyddus hefyd i gwblhau fy PhD yn y Brifysgol.  

Beth yw eich hoff bethau am y ddinas? 

Rydw i’n hoffi bod gan Gaerdydd yr holl bethau y byddech yn eu disgwyl gan ddinas fawr, ond mae’r arfordir a’r parciau cenedlaethol ar garreg y drws. 

Beth rydych chi’n mwynhau ei wneud yn eich amser hamdden?   

Mae gen i ychydig o obsesiwn gyda rhedeg! Rwy’n treulio’r rhan fwyaf o’m amser hamdden allan yn rhedeg i unrhyw le ac i bobman. Rydw i wedi rhedeg dros 20 marathon ledled y byd, Llundain, Boston, Tokyo a Singapore i enwi ond ychydig, ond fy ras gyntaf, ac un o’m hoff rasys, yw Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd, sy’n codi arian gwych ar gyfer ymchwil yng Nghaerdydd. 

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth roddwr neu godwr arian sy’n ystyried cefnogi ymchwil canser Prifysgol Caerdydd?    

Mae pob ceiniog sy’n cael ei roi yn cael ei wario ar hyrwyddo ein dealltwriaeth o ganser a dod o hyd i ffyrdd newydd o drin cleifion. 

Rhagor o wybodaeth am sut y gallwch helpu i gefnogi ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd