Skip to main content

DonateNewyddion

Cwrdd â’r Ymchwilydd – Dr Erik Mire

8 Mawrth 2021

Siaradon ni â Dr Erik Mire, Prif Ymchwilydd a Chymrawd Ymchwil Hodge yng Nghanolfan Hodge er Imiwnoleg Seiciatreg sy’n rhan o Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd, am ei ymchwil sy’n astudio’r ffordd y gall deietau mamau effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd mewn babanod yn y groth.  

Dywedwch ychydig wrthym am eich ymchwil

Yn y pen draw, nod fy ymchwil yw deall gwreiddiau anhwylderau’r ymennydd yn y groth. Mae’r ymennydd yn organ gymhleth iawn, sy’n gartref i nifer aruthrol o wahanol fathau ar gelloedd nerfol sy’n gorfod cyfathrebu’n fanwl gywir â chelloedd eraill. Mae’r celloedd hyn yn aml wedi’u lleoli mewn gwahanol ardaloedd o’r ymennydd, weithiau ymhell i ffwrdd yn hemisffer arall yr ymennydd neu i lawr i fadruddyn y cefn.  

Mae prif gamau ffurfio’r ymennydd yn digwydd yn y groth mewn gwirionedd ac yn gosod yr olygfa ar gyfer gweithrediad priodol yr ymennydd yn ddiweddarach mewn bywyd. Dyma pryd y sefydlir glasbrint cylchedau’r ymennydd a phan fydd y gwahanol fathau a’r nifer cywir o gelloedd nerfol yn datblygu. Dyma pryd y sefydlir y prif lwybrau cyfathrebu (a elwir yn llwybrau acsonau) rhwng gwahanol rannau’r ymennydd.  

Cyn hyn, nodwyd nifer o enynnau sy’n bwysig ar gyfer y prosesau datblygu hyn ac sy’n ein helpu i ddeall sut mae’r celloedd hyn yn cael eu ffurfio, sut maent yn cyrraedd eu lleoliad cywir neu sut mae’r llwybrau cyfathrebu yn cael eu sefydlu.  

Ond rydyn ni’n cymryd ymagwedd hollol wahanol i ddeall gwreiddiau anhwylderau meddwl yn well. Rydym yn ymchwilio i ganlyniadau datguddiadau i ffactorau amgylcheddol yn ystod beichiogrwydd ar ddatblygiad ymennydd y ffetws, yn benodol y ffactorau sy’n gysylltiedig â risg uwch o anhwylderau niwroseiciatrig.  

Un o’r ffactorau hyn yw gordewdra mamau, sy’n gyffredin iawn yn ein cymdeithas (rhagwelir y bydd gordewdra yn effeithio ar 21% o fenywod ledled y byd erbyn 2025), ac mae gordewdra yn aml yn gysylltiedig â diet gwael. Rydym yn astudio sut y gallai gwahanol fathau ar ddiet a fwyteir gan y fam newid nifer y celloedd nerfol a gynhyrchir, y math ar gelloedd sy’n cael eu cynhyrchu a sut mae llwybrau cyfathrebu’n cael eu sefydlu yn ymennydd y ffetws. Mae ein canlyniadau’n awgrymu bod y math o ddiet y mae’r fam yn ei fwyta yn cael effaith, mewn gwirionedd, ar broses ffurfio’r ymennydd.  

Yr hyn yr ydym yn ei wneud nawr yw gweithio i ddeall beth sy’n mynd o’i le yn y celloedd nerfol hyn. A ydyn nhw’n sensitif i faetholion penodol a geir yn y diet? Oes ganddynt yr un gallu ag sydd gan gelloedd arferol i luosi a chynhyrchu niwronau? A yw diet y fam yn newid eu cyfansoddiad cellol (y gwahanol flociau adeiladu y maent wedi’u gwneud ohonynt)? Rydym yn ceisio ateb y cwestiynau hyn. 

Mae agwedd bwysig arall ar ein gwaith yn archwilio rhyngweithiadau rhwng y system imiwnedd a nerfol yn ystod bywyd y ffetws. Rôl fawr y system imiwnedd yw canfod ac amddiffyn y corff rhag ysgogiadau niweidiol, rhai allanol fel arfer. Yn yr ystyr hwnnw mae mewn sefyllfa ddelfrydol i ganfod ffactorau amgylcheddol a throsglwyddo’r wybodaeth hon. Mae celloedd imiwnedd yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygiad cywir yr ymennydd trwy ddileu celloedd a chysylltiadau diangen, ond hefyd trwy helpu i adeiladu llwybrau cyfathrebu rhwng gwahanol ardaloedd yr ymennydd. Yr hyn nad ydym yn ei wybod yw a all unrhyw un o’r celloedd imiwnedd hyn gyflawni’r gwahanol dasgau hyn neu a oes rhai celloedd arbenigol yn bodoli. Dyma’r cwestiwn y mae Jonathan Davis, fy myfyriwr PhD talentog iawn, yn mynd i’r afael ag ef yn y labordy. Bydd datgelu poblogaethau arbenigol o gelloedd imiwnedd yn yr ymennydd sy’n datblygu yn ein helpu i ddeall sut y gall sarhadau amgylcheddol effeithio ar ymennydd y ffetws.      

Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer eich ymchwil a sut y gallai fod o fudd i bobl yn y dyfodol?  

Trwy gymryd dull amgen sy’n canolbwyntio ar ffactorau amgylcheddol a bywyd y ffetws, credwn y byddwn yn darparu mewnwelediadau newydd ar darddiad ac achosion anhwylderau meddyliol, a fydd yn ategu dulliau mwy clasurol sy’n canolbwyntio ar enetig. Bydd ein ffocws ar fywyd cynnar yn helpu i ddatblygu therapïau newydd ac, yn bwysicach byth, yn dylunio strategaethau ataliol trwy nodi risg yn ystod beichiogrwydd a thrwy ddarparu cyngor ar sail gwyddoniaeth i lunwyr polisïau. Po gynharaf y gallwn adnabod y bobl hynny a allai ddatblygu’r afiechydon hyn, y cynharaf y gellir gofalu amdanynt, eu cefnogi, a’u helpu i gyfyngu ar effaith eu cyflwr. Mae gwir angen dull ehangach i fynd i’r afael â’r mater hwn ac rwy’n gweithio i ddod ag arbenigedd amrywiol iawn ynghyd.  

Beth wnaeth i chi ddod i weithio yng Nghaerdydd?  

Roeddwn yn chwilio am rywle lle y gallwn i ddechrau fy ngrŵp fy hun i weithio ar y cwestiynau hyn. Mae gan Gaerdydd gymuned bywiog ym maes y niwrowyddorau, yn ymestyn o ymchwil sylfaenol i waith clinigol, ac mae hynny’n ei gwneud yn lle anhygoel i wneud ymchwil. Mae hefyd sawl grŵp y tu allan i’r niwrowyddorau yn gwneud gwaith gwych a gallwn i yn amlwg weld bod gennym ddiddordebau mewn cyffredin.  

Pa rôl y mae rhoddwyr wedi’i chwarae yn eich ymchwil?
 
Mae eu rôl yn hanfodol yn bendant ac rwy mor ddiolchgar i Sefydliad Hodge am eu holl gefnogaeth imi ac i Ganolfan Imiwnoleg Seiciatryddol Hodge. Mae’r cymorth dyngarol y bydd gwyddonwyr yn ei gael yn caniatáu iddyn nhw gymryd mwy o risgiau wrth wneud eu hymchwil ac mae hyn yn rhoi mwy o gyfle iddyn nhw wneud darganfyddiadau arloesol a fydd yn effeithio ar y gymdeithas yn y DU a ledled y byd.
 
Beth yw eich hoff bethau am Gaerdydd?

Yr hyn rydw i wir yn ei hoffi am y Brifysgol yw’r ymdeimlad o gymuned. Rwy’n ei chael hi’n eithaf hawdd mynd a chnocio ar ddrysau a thrafod gyda phobl am syniadau o gydweithredu ac ati felly mae’n braf iawn. Mae’r ddinas ei hun yn hyfryd. Rwy’n mwynhau ei maint rhesymol, y dŵr sy’n ei amgylchynu a’i phobl groesawgar. 

Beth rydych chi’n mwynhau ei wneud yn eich amser hamdden? 

Bwydgarwr ydw i! Rwy’n dwli ar fwyd da felly rwy’n mwynhau coginio prydau neis, efallai oherwydd mai Ffrancwr ydwyf ac roedd fy nhad yn gogydd. Rwyf hefyd yn hoffi teithio a darganfod lleoedd newydd, diwylliannau newydd. Felly, yn amlwg, rwy’n edrych ymlaen at pryd y gallwn symud yn rhydd eto. 

Rhagor o wybodaeth am ymchwil yn y niwrowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd.