Skip to main content

Newyddion

Cwrdd â’r Gwirfoddolwr – Glyn Lloyd

Cwrdd â’r Gwirfoddolwr – Glyn Lloyd

Postiwyd ar 26 Chwefror 2021 gan Anna Garton

Mae Glyn Lloyd (PhD 2008, PGDip 2007, MSc 2003, LLB 2002) yn Bartner a Sylfaenydd Newfields Law yng Nghaerdydd. Cwmni sy'n arbenigo mewn cyfraith mewnfudo. Gan ei fod wedi gwirfoddoli fel myfyriwr, mae Glyn wedi parhau i wneud hynny ar ôl graddio, gan rannu ei brofiad a'i arbenigedd er mwyn helpu myfyrwyr i wireddu eu potensial, ni waeth beth yw eu cefndir.

Dathlu Cymru a chefnogi cerddorion yn wyneb COVID-19

Dathlu Cymru a chefnogi cerddorion yn wyneb COVID-19

Postiwyd ar 25 Chwefror 2021 gan Kate Morgan (BA 2017)

Mae Iestyn Griffiths (BA 2016, MA 2018) yn disgrifio ei daith o fod yn blentyn oedd wedi'i wirioni â cherddoriaeth i gyd-gyfarwyddo cyngerdd digidol mawr ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, gan ddathlu a chefnogi cerddorion o Gymru.

Sut gwnaeth gwaith caled fy rhieni fy ysbrydoli i lwyddo – I Gyn-fyfyrwyr, Gan Gyn-fyfyrwyr

Sut gwnaeth gwaith caled fy rhieni fy ysbrydoli i lwyddo – I Gyn-fyfyrwyr, Gan Gyn-fyfyrwyr

Postiwyd ar 18 Chwefror 2021 gan Kate Morgan (BA 2017)

Mae Jackie Yip (BA 2018) wedi teithio’r byd ac wedi ymdrwytho ym mhob cyfle sydd wedi dod ei ffordd. Gan ddefnyddio’r agwedd at waith a ysbrydolodd ei rhieni ynddi, ynghyd â’r gefnogaeth ar gael gan Brifysgol Caerdydd, llenwodd Jackie ychydig flynyddoedd byr â llond oes o brofiadau.

7 llyfr cynfyfyrwyr i’ch paratoi ar gyfer Dydd Sant Ffolant eleni

7 llyfr cynfyfyrwyr i’ch paratoi ar gyfer Dydd Sant Ffolant eleni

Postiwyd ar 11 Chwefror 2021 gan Kate Morgan (BA 2017)

Efallai bydd Dydd Sant Ffolant ychydig yn wahanol eleni ac mae'n annhebygol y gwelwn lawer o enghreifftiau mawr a chyhoeddus o gariad ond peidiwch â phoeni. Ewch i nôl paned poeth, setlwch ar y soffa ac ymgollwch i deimladau cynnes a braf gyda'r tudalennau cyffrous hyn.

Dechrau hael i’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd

Dechrau hael i’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd

Postiwyd ar 28 Ionawr 2021 gan Kate Morgan (BA 2017)

Mae Cangen Prydain o Gymdeithas yr Ysgolheigion sy’n Dychwelyd o‘r Gorllewin wedi bod mor hael â rhoi masgiau i Brifysgol Caerdydd fel arwydd twymgalon o undod a chefnogaeth.

Dod yn Ffinnaidd a byw yn yr UE yn ystod Brexit  – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Dod yn Ffinnaidd a byw yn yr UE yn ystod Brexit – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Postiwyd ar 25 Ionawr 2021 gan Alumni team

Gweithiodd Chloe Wells (BA 2007) i Gyngor Caerdydd ar ôl graddio cyn ymfudo i'r Ffindir ar ddiwedd 2010 lle enillodd ei gradd Meistr Gwyddor Gymdeithasol a'i PhD. Yma, mae Chloe yn siarad am ei hatgofion ym Mhrifysgol Caerdydd, dod yn ddinesydd Prydeinig-Ffinnaidd, a byw yn yr UE yn ystod Brexit.

Rhedeg er lles dros y gaeaf hwn

Rhedeg er lles dros y gaeaf hwn

Postiwyd ar 18 Rhagfyr 2020 gan Alumni team

Gall misoedd y gaeaf fod yn anodd i unrhyw un sy'n cael trafferth â'u hiechyd meddwl, ac eleni yn fwy nag erioed.

Chwilio am y ‘cyswllt coll’ rhwng clefyd yr arennau a chlefyd cardiofasgwlaidd

Chwilio am y ‘cyswllt coll’ rhwng clefyd yr arennau a chlefyd cardiofasgwlaidd

Postiwyd ar 16 Rhagfyr 2020 gan Kate Morgan (BA 2017)

Mae Dr Anne-Catherine Raby yn ymchwilydd yn yr Ysgol Feddygaeth, yn chwilio am y cysylltiad rhwng clefyd cronig yr arennau a chlefyd cardiofasgwlaidd gyda ffocws ar lid. Mae ei gwaith yn bellgyrhaeddol, yn hollgynhwysol, ac yn hollbwysig i ddeall y clefyd sy'n gyfrifol am fwy o farwolaethau yn fyd-eang nag unrhyw achos arall.

Ein gwirfoddolwyr – Scott Bowers

Ein gwirfoddolwyr – Scott Bowers

Postiwyd ar 16 Rhagfyr 2020 gan Alumni team

Mae Scott Bowers (BA 2003, PGDip 2004) yn wirfoddolwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae wedi bod yn llysgennad cynfyfyrwyr, yn aelod o Lys Prifysgol Caerdydd ac yn fentor myfyrwyr. Prif swyddog materion corfforaethol i un o brif fusnesau chwaraeon y DU, The Jockey Club, yw ei rôl broffesiynol, ac yn ddiweddar mae wedi dod yn dad. Darllenwch ymlaen i weld pam mae’n wirfoddolwr mor frwdfrydig ac ymroddgar.

Dewch i gwrdd â’r ymchwilydd – yr Athro Anne Rosser

Dewch i gwrdd â’r ymchwilydd – yr Athro Anne Rosser

Postiwyd ar 14 Rhagfyr 2020 gan Kate Morgan (BA 2017)

Mae clefyd Huntington yn un dinistriol, a achosir gan enyn diffygiol sy'n atal yr ymennydd rhag gweithio'n iawn, gan effeithio ar symudedd, dysgu, meddwl ac emosiynau. Mae'r symptomau'n gwaethygu dros amser ac ar hyn o bryd nid oes modd gwella’r clefyd. Mae'n gyflwr etifeddol ac mae ganddo siawns o tua 50% y caiff ei basio i lawr gan riant. Fe wnaethom siarad â'r ymchwilydd Anne Rosser, Athro Niwrowyddoniaeth Glinigol, Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae interniaethau yn ‘fuddiol i bawb’

Mae interniaethau yn ‘fuddiol i bawb’

Postiwyd ar 9 Rhagfyr 2020 gan Kate Morgan (BA 2017)

Bu Mohammad Arshad (MEng 2020) ar interniaeth dros yr haf gyda KGAL Consulting Ltd. Cafodd y lleoliad gwaith ei gynnig gan gynfyfyriwr o Gaerdydd. O ganlyniad, cafodd swydd barhaol gyda’r cwmni ac mae wedi cychwyn ar ei yrfa ym maes peirianneg. Cawsom air gydag ag ef i glywed am sut y gwnaeth y mwyaf o'r cyfle a chael swydd mewn maes y mae galw mawr amdano.

Dewch i gwrdd ag arweinydd newydd ymchwil canser Caerdydd – cyfnod cyffrous i ddod

Dewch i gwrdd ag arweinydd newydd ymchwil canser Caerdydd – cyfnod cyffrous i ddod

Postiwyd ar 9 Rhagfyr 2020 gan Kate Morgan (BA 2017)

Yr Athro Awen Gallimore yw Arweinydd Thema Canser newydd Prifysgol Caerdydd. Mae hi’n llawn egni a brwdfrydedd ac mae ganddi gynlluniau mawr ar gyfer llywio ymchwil canser yng Nghaerdydd. Cawsom air gydag Awen i gael ei mewnwelediad i'r datblygiadau a'r arloesedd cyffrous sy'n cael eu cynnal yn y maes hwn.

I Orwedd Mewn Preswylfeydd – Mae cymuned cynfyfyrwyr Caerdydd yn anfon negeseuon o gefnogaeth

I Orwedd Mewn Preswylfeydd – Mae cymuned cynfyfyrwyr Caerdydd yn anfon negeseuon o gefnogaeth

Postiwyd ar 4 Rhagfyr 2020 gan Anna Garton

Mae cymuned cynfyfyrwyr Caerdydd wedi anfon negeseuon o gefnogaeth i fyfyrwyr mewn Preswylfeydd. Darllenwch rai o'r negeseuon hyfryd a anfonwyd.

Llwybrau gyrfa anghyffredin ac allfeydd creadigol – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Llwybrau gyrfa anghyffredin ac allfeydd creadigol – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Postiwyd ar 17 Tachwedd 2020 gan Alumni team

Mae James Orpwood (BSc 2002, PhD 2006) wedi newid o fod yn wyddonydd pysgodfeydd i fynyddwr, yn cyrraedd uchelfannau newydd a dechrau llwybr gyrfa newydd. Mae hefyd ar fin cyhoeddi ei lyfr cyntaf, a gafodd ei ysgrifennu dros nifer o oriau yn ystod y cyfnod clo o ganlyniad i’r pandemig COVID-19. Mae James yn disgrifio ei daith yrfaol bersonol a sut wnaeth y mwyaf o’i amser sbâr...

Saith o leoedd mwyaf arswydus Caerdydd

Saith o leoedd mwyaf arswydus Caerdydd

Postiwyd ar 27 Hydref 2020 gan Anna Garton

Gyda'i hanes hir sy'n aml yn erchyll, nid yw'n syndod bod Caerdydd yn gartref i rai lleoedd eithaf arswydus. Ac wrth i Galan Gaeaf gyrraedd eto, roeddem yn meddwl y byddem yn rhoi disgrifiad bach o safleoedd mwyaf arswydus y ddinas! Ymwelwch â nhw os ydych chi'n meiddio - ac wrth gwrs os yw rheolau’r cyfnod clo lleol yn caniatáu hynny!

Beca o Bake Off yn trafod Caerdydd, gyrfaoedd, a choginio

Beca o Bake Off yn trafod Caerdydd, gyrfaoedd, a choginio

Postiwyd ar 26 Hydref 2020 gan Kate Morgan (BA 2017)

Mae Beca Lyne-Pirkis (BMus 2004) yn awdur, darlledwr a chyrhaeddodd y rownd derfynol ar Great British Bake-Off a dilynodd ei gyrfa lwybr annisgwyl. Mae Beca'n disgrifio ei hamser ar y gyfres Deledu boblogaidd ac yn esbonio sut yr oedd yn cymhwyso'r sgiliau a ddysgodd o'i gradd mewn cerddoriaeth at rannau eraill o'i bywyd. Mae hefyd yn trafod rhai o'i hatgofion mwyaf gwyllt a hyfryd o fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Myfyrio ar Fywyd: Neville John (BMus 1957)

Myfyrio ar Fywyd: Neville John (BMus 1957)

Postiwyd ar 21 Hydref 2020 gan Alumni team

Cafodd Neville John (BMus 1957) ei eni yn y Tymbl, Sir Gâr a bu’n astudio’r soddgrwth ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd yrfa lwyddiannus fel athro cerdd a chyfansoddwr ar ôl ei astudiaethau, ac yn ddiweddar dathlodd ei ben-blwydd yn 90 oed. Yn yr erthygl hon sy’n Myfyrio ar Fywyd, mae’n edrych yn ôl ar ei deulu cerddorol, ei atgofion gorau o Gaerdydd a’r drychineb hanesyddol a fu’n ysbrydoliaeth iddo gyfansoddi.

Mae’r daith yn cychwyn yma – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Mae’r daith yn cychwyn yma – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Postiwyd ar 12 Hydref 2020 gan Alumni team

Mae Nadine Lock (BA 2001) wedi gweithio mewn Adnoddau Dynol ers dros ddeng mlynedd yn y Trydydd Sector a'r Sector Preifat. Mae'n adlewyrchu ar y daith y mae Dosbarth 2020 yn ei hwynebu, ac yn rhannu rhai pethau y byddai wedi bod yn falch o gael gwybod fel rhywun oedd newydd raddio.

Codwyr Arian Rhithwir #TîmCaerdydd Nelson Selvaraj

Codwyr Arian Rhithwir #TîmCaerdydd Nelson Selvaraj

Postiwyd ar 2 Hydref 2020 gan Kate Morgan (BA 2017)

Mae Nelson Selvaraj (MSc 2015) yn aelod o staff ac yn gynfyfyriwr sydd newydd redeg ras rithiol i godi arian ar gyfer ymchwil a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd. Yma, mae’n sôn am yr hyn a’i ysbrydolodd i wynebu’r her gorfforol hon ac mae’n rhannu ei ddoethineb â’r rheini sy’n ystyried gwneud rhywbeth tebyg.

Mae’n Gyfnod y Glas, ond mae’n un wahanol iawn i’r arfer

Mae’n Gyfnod y Glas, ond mae’n un wahanol iawn i’r arfer

Postiwyd ar 25 Medi 2020 gan Anna Garton

Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn gweithio’n galed dros yr haf i baratoi campws diogel i groesawu myfyrwyr a staff yn ôl. Fodd bynnag, bydd wythnosau cyntaf y myfyrwyr newydd yn brofiad hollol wahanol i’r un fyddai ei rhagflaenwyr wedi’i gael.