Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Bragu storm: Sarah John heb os yw’r Bòs

25 Mawrth 2021

Mae Sarah John (BA 2011), sylfaenydd a chyfarwyddwr Boss Brewing, yn fenyw sy’n benderfynol i gyflawni ei nodau a thorri rhwystrau ar hyd y ffordd. Yma, mae’n disgrifio taith gyffrous llawn llwyddiannau busnes, gan frwydro yn erbyn cewri corfforaethol, dod â’i baban newydd-anedig i gyfarfodydd, a herio’r drefn sydd ohoni yn gyffredinol.

Mae busnesau newydd yn cymryd eich holl waed, chwys a dagrau. Wrth edrych yn ôl, dydw i ddim yn gwybod sut wnes i bopeth.

Roeddwn i wedi gweithio ym maes gwerthu yn y brifysgol ac ar ryw adeg, cefais y foment entrepreneuraidd glasurol honno pan sylweddolais fy mod am wneud hyn i fi fy hun. Roeddwn i am adeiladu rhywbeth a rheoli tynged fy hun.

Hobi oedd bragu; dechreuais i a fy mhartner busnes fel bragwyr cartref ac yna newidiodd ein hangerdd yn fusnes.

Roeddwn i’n hoffi’r ffaith ei fod yn ddiwydiant llawn dynion yn bennaf. Roeddwn i’n gwybod y gallem fod yn wahanol, yn unigryw, ac ychydig yn aflonyddgar.

Y gwir drobwynt i mi oedd pan aethom ar gwrs ar sut i ddechrau bragdy, gan obeithio cael rhai awgrymiadau. Roedd tri siaradwr a’u prif neges oedd: peidiwch â gwneud hyn, fyddwch chi ddim yn llwyddo! Y cwrs hwnnw oedd y peth mwyaf negyddol dwi wedi bod iddo, ond gwnaeth fy ysgogi hefyd. Roeddwn i am ei wneud yn gywir ac yn well. Rwyf bob amser yn barod am her.

Rydych yn trin eich busnes fel eich babi

Gwnaethom lansio Boss Brewing yn 2015 a gwnaethom ddysgu llawer.

Fi yw’r cyfarwyddwr gwerthu a marchnata, ond dysgais eich bod yn cyflawni nifer o rolau gwahanol yn eich busnes eich hun. Rwyf wedi ennill cymaint o sgiliau ymarferol sy’n golygu fy mod wedi cael addysg ragorol o ran rhedeg busnes, waeth beth fydd yn digwydd nawr.

Rwyf wedi dysgu am ddatblygu brand a phwysigrwydd creu hunaniaeth ac ymdeimlad o gymuned. Nid yw’n rhwydd! Mae’r farchnad yn llawn dop – mae cymaint o gwrw crefft ar gael, mae angen i chi sefyll allan a bod yn wahanol. Felly, yn 2017 gwnaethom ddatblygu ein byd llyfrau comig; mae’r holl gymeriadau ar ein cwrw yn seiliedig ar bobl yn y bragdy.

Ar lefel bersonol, rwyf wedi dysgu cymaint amdanaf fy hun. Does dim byd tebyg i’r her o redeg busnes! Rydych yn trin eich busnes eich hun fel babi ac mae’n teimlo’n fwy personol o lawer. Rwyf wedi dysgu pa mor wydn ydw i wrth oresgyn heriau. Mae’n bendant wedi datblygu cryfder fy nghymeriad.

Mae pobl yn dweud bod gwneud rhywbeth rydych yn ei garu yn cymryd yr hwyl allan ohono, ond i mi, mae wedi fy helpu i ymdopi â’r cyfnodau anodd. Fy musnes yw fy hobi. Chwe blynedd yn ddiweddarach, rwy’n dal i garu’r hyn rwy’n ei wneud.

Peidiwch â bod ofn canu ei glodydd

Yn wreiddiol, pan ddechreuais i byddai pobl yn tybio mai fi oedd y ferch oedd yn gwerthu neu’n hyrwyddo’r cynnyrch yn unig, neu’r mathau hynny o rolau ystrydebol.

Roeddwn i’n aml yn synnu pobl yn fawr wrth esbonio mai fi oedd y perchennog. Nid oedd pobl yn faleisus na’n gas yn fwriadol, anwybodus oedden nhw. Rwyf bob amser wedi mynd amdani heb feddwl gormod am fod yn fenyw na bod yn wahanol. Pe bawn i wedi bod ychydig yn llai hyderus ar y dechrau efallai y byddwn i’n sigledig ar ôl hynny. Cymerodd nerth cymeriad i anwybyddu’r bobl anwybodus.

Ar yr ochr arall, rwy’n ymwybodol ein bod yn fath gwahanol o gwmni bragu gan mai menywod ydyn ni. Roeddwn i bob amser yn hapus i ddefnyddio hynny i’n mantais ni. Cawsom lawer o gysylltiadau cyhoeddus, straeon newyddion a gwobrau am ei fod yn wahanol – roedd yn stori nad oedd pobl yn ei weld yn aml iawn.

Os ydych yn fenyw sy’n mynd i faes llawn dynion yn bennaf, peidiwch â bod ofn tynnu sylw at hynny gan mai dyna sy’n eich gwneud i sefyll allan. Gall fod yn bwynt gwerthu unigryw sy’n eich gwneud yn wahanol ac yn gwneud i chi sefyll allan mewn marchnad orlawn.

GALL menywod gael y cyfan

Roeddwn i’n feichiog pan wnaethom lansio ac roedd hynny’n anarferol – dydych chi ddim yn gweld llawer o fenywod beichiog ym maes cwrw ond doeddwn i ddim yn gweld pam y dylai hynny fy rhwystro.

Wedi dweud hynny, roedd yn heriol iawn gyda babi newydd-anedig. Cymerais hi gyda fi i gyfarfod pan oedd hi’n saith diwrnod oed! Cymerais hi i bob un o fy nghyfarfodydd gan nad oeddwn am i ni fod ar wahân i’n gilydd ac roeddwn i’n bwydo ar y fron, ond cefais lawer o gefnogaeth hefyd o ran gofal plant, gan mam.

Maen nhw’n dweud na all menywod gael y cyfan, ond maen nhw 100% yn gallu, dim ond y system gymorth honno sydd ei hangen arnynt.

Delio â’r sefyllfa sydd ohoni

Cyn y pandemig, tafarndai a bwytai oedd 80% o’n busnes. Pan gyhoeddwyd y cyfnod clo ym mis Mawrth y llynedd, roedd yn dorcalonnus. Ond gwnaethom newid yn sydyn a symud at fanwerthwyr mawr. Gwnaethom lansio ein siop we gan ddatblygu gwasanaethau newydd. Mae gennym ein pecyn bragu a chaniau a photeli ein hunain, felly gwnaethom becynnu llawer o ddeunydd ar gyfer bragdai eraill. Roedd yn flwyddyn lwyddiannus yn y pen draw gan ragori’n fawr ar ein disgwyliadau.

Addasu oedd yn bwysig, ac nid ni oedd yr unig bobl i wneud hynny,. Mae cymaint o straeon am fusnesau’n bod yn greadigol. Mae wedi dangos i ni pa mor wydn a dyfeisgar ydyn ni i gyd.

Pan mae sefyllfa’n newid, mae angen delio â hi, ac felly mae llawer o fusnesau wedi delio â’r sefyllfa.

Mae bragu’n eithaf cydweithredol ac mae’n ddiwydiant defnyddiol iawn. Rydym wedi cydweithio â chwmnïau eraill o Gymru ac mae pobl yn hoff iawn o hyn gan eu bod yn hoffi gweld dau berson lleol yn dod at ei gilydd ac maen nhw am i fusnesau lleol wneud yn dda.

Rydym wedi cael cymaint o negeseuon o gefnogaeth wrth i bobl archebu cwrw. Mae pobl wir yn garedig ac am weld eraill yn llwyddo. Mae wedi dod â’r ysbryd cymunedol allan ym mhob un ohonom.

Bos mawr, bos bach – mae’r cyfan yn yr enw

Yn (2018) gwnaethom gais am nod masnachol a oedd fod i gostio £300, ond cawsom lythyr gan gyfreithiwr Hugo Boss yn gwrthwynebu ein cais.

Fy ymateb cyntaf oedd ymdeimlad o falchder ein bod hyd yn oed ar eu radar, ond dilynwyd hyn yn gyflym gan sioc enfawr. Roedd yn gyfnod ofnadwy gyda llawer o nosweithiau heb gwsg. Roeddem yn meddwl ein bod yn mynd i golli popeth roeddem wedi gweithio amdano. Roedd hyd yn oed y cyfreithwyr yn dweud wrthym am ystyried newid ein henw. Roeddem wedi gweithio mor galed ar ailfrandio ac nid oedd yr enw’n ymwneud â Hugo Boss o gwbl.

Mae’r enw ‘Boss’ yn seiliedig ar hanes hynafol yr Aifft. Yn draddodiadol, roedd bragu yn faes benywaidd, ac roedd yn dasg a gyflawnwyd yn y gegin. Roedd y bragwyr cyntaf erioed yn fenywod, ond wrth iddo ddod yn gynnyrch roeddech yn gallu ei werthu, cymerodd dynion drosodd. Yna, daeth yn faes llawn dynion yn bennaf. Mae ein henw yn chwarae â’r ffaith mai menywod oedd y ‘bosys’ gwreiddiol ym maes bragu.  

Y cyngor oedd i ni ildio, ond roeddwn i am frwydro hyn, felly gwnaethom barhau i wthio yn ôl. Yn y pen draw, daethom i setliad. Roeddem yn gallu cadw’r enw Boss ond bu’n rhaid i ni newid enw dau o’n cwrw.

Roedd yr holl broses yn flinedig iawn. Dylai fod wedi costio £300 ond gwnaethom dalu £10,000 mewn ffioedd cyfreithiol. Ar ôl cytuno ar setliad, penderfynais rannu ein stori a chysylltais ag Wales Online. Yn sydyn, daeth yn stori Dafydd yn erbyn Goliath ac roedd yn codi momentwm.

Cawsom alwad gan raglen Joe Lycett. Mae’r rhaglen yn cynnwys Joe yn herio’r ‘cwmnïau mawr’ ar ran y ‘bobl fychain’. Newidiodd ei enw i Hugo Boss drwy weithred newid enw a chafodd gryn sylw. Roedd yn rhyfeddol.

O ran ymwybyddiaeth o’r brand, hwn yw’r peth cyntaf mae pobl yn gwybod amdanom nawr. Maen nhw’n gofyn ai ni yw’r brand Hugo Boss. Cynyddodd ein gwerthiannau mewn archfarchnadoedd 50%, ac roedd cwsmeriaid yn gofyn amdano mewn tafarndai. Gwelodd cwmni yn Ffrainc y stori a dechreuodd archebu gennym ac aeth ein cyfryngau cymdeithasol yn wyllt. Mae wedi cymryd ein brand i lefel hollol newydd.

Dysgais gymaint o’r profiad hwn. Nid oedd yn sefyllfa dda ond rwy’n falch o’r ffaith ein bod wedi’i throi’n stori gadarnhaol ac wedi cael dilynwyr a gwerthiant o’r profiad. Roedd yn enghraifft go iawn o hyd yn oed pan mae rhywbeth yn ymddangos yn ofnadwy, gallwch ddod o hyd i rywbeth cadarnhaol ynddo.

Ewch amdani

Mae hon yn adeg anodd i raddio. Efallai na fyddai’r farchnad swyddi yno, ond yr hyn y mae COVID-19 wedi’i ddangos i ni yw bod cyfleoedd i bobl ddatblygu eu busnesau eu hunain os ydynt yn ymddwyn yn entrepreneuraidd ac yn greadigol.

Rydym wedi gweld cymaint o wahanol fusnesau yn ffynnu yng nghanol storm COVID-19. Mae pobl sydd wedi cael breuddwyd am amser hir yn gwireddu’r freuddwyd honno bellach.

Os oeddwn i’n fyfyriwr nawr, byddwn i’n meddwl am yr hyn allwn i fynd allan i’w greu. Nid yw’r swyddi diogel ar gael o reidrwydd, felly beth am gymryd risg? Cynlluniwch rywbeth newydd i chi eich hun, o’r dechrau.

Nid oes unrhyw sicrwydd, felly efallai mai nawr yw’r amser i gymryd risg?