Kate Morgan (BA 2017)

Kate Morgan (BA 2017)


Postiadau blog diweddaraf

Rhedwyr Marathon Llundain #TîmCaerdydd yn codi arian i ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd

Posted on 22 Medi 2021 by Kate Morgan (BA 2017)

Marathon Llundain yw un o ddigwyddiadau rhedeg mwyaf poblogaidd y byd ac mae’n codi miliynau i elusennau bob blwyddyn. Ar ôl cael ei ohirio yn 2020, mae’r byd yn fwy awyddus nag erioed i fwynhau’r digwyddiad eleni a gynhelir ddydd Sul 3 Hydref 2021. Gydag ond ychydig o wythnosau ar ôl i hyfforddi, mae rhedwyr #TîmCaerdydd eleni yn ymateb i’r her.
Read more


Awgrymiadau gorau gan y podledwyr proffesiynol

Posted on 21 Medi 2021 by Kate Morgan (BA 2017)

Mae podledu ym mhobman y dyddiau hyn, gydag unigolion a busnesau fel ei gilydd yn creu tameidiau o sain i wrandawyr eu mwynhau wrth gymudo, cerdded, neu wneud tasgau bob dydd. Mae cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd (wrth gwrs) wedi neidio’n syth i mewn, gan sefydlu eu podlediadau llwyddiannus eu hunain a rhannu’r hyn y maen nhw’n angerddol amdano gyda’r byd. Sut wnaethon nhw hynny? Wel, fe wnaethon ni ofyn iddynt …
Read more


Lleoliadau Blas ar Fyd Gwaith: mantais amlwg i unrhyw fusnes

Posted on 9 Medi 2021 by Kate Morgan (BA 2017)

Cymerodd Beth Addison (BSc 2019) ran mewn Lleoliad Blas ar Fyd Gwaith Prifysgol Caerdydd gyda Microsoft, ac ar ôl wythnos yn unig cafodd awydd i weithio ym maes technoleg. Cafodd ei thywys drwy’r sefydliad gan Arweinydd Addysg Uwch Microsoft a chynfyfyriwr Prifysgol Caerdydd, Elliot Howells (BSc 2016), ac mae hi bellach wedi gweithio am ddwy flynedd fel Arbenigwr Datrysiadau Azure ar gyfer Manwerthu, Ysbyty a Theithio gyda Microsoft.
Read more


Y ffoadur o Syria sy’n codi arian i roi rhywbeth yn ôl

Posted on 6 Medi 2021 by Kate Morgan (BA 2017)

Fe ddaeth Naser Sakka (MSc 2019) i’r DU yn 2015 fel ffoadur o Syria. Ers hynny, ei genhadaeth yw gwneud popeth o fewn ei allu i roi yn ôl i’r gymuned a’i helpodd i ailadeiladu ei fywyd. Yn ogystal â gwirfoddoli gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru a helpu busnesau lleol yn ystod y pandemig, fe redodd Hanner Marathon Caerdydd yn 2019, gan godi arian ar gyfer ymchwil canser Prifysgol Caerdydd.
Read more




Creu amgylchedd gwaith hapusach mewn byd ôl-bandemig

Posted on 19 Mai 2021 by Kate Morgan (BA 2017)

Mae cynfyfyriwr Prifysgol Caerdydd, Megan Wesley (BA 2015) yn gyd-sylfaenydd ac yn gyfarwyddwr yn Libratum, cwmni ‘lles yn y gweithle’ a greodd gyda’i mam cyn i COVID-19 daro. Mae Megan yn esbonio pam nawr, yn fwy nag erioed, bod lles mor bwysig ac yn rhannu rhai o’i hawgrymiadau gorau i weithwyr a chyflogwyr i’w helpu i greu lle cadarnhaol i weithio ynddo.
Read more


10 awgrym i godi hwyl wrth godi arian

Posted on 6 Mai 2021 by Kate Morgan (BA 2017)

Mae wedi bod yn flwyddyn neu ddwy anarferol, a p’un a wnaethoch chi ymuno â Hanner Marathon Caerdydd filiwn o flynyddoedd yn ôl neu’n ddiweddar iawn, gall codi arian ymddangos yn lletchwith yn dilyn pandemig byd-eang. Ond mae rheolau COVID-19 ar draws sawl rhan o’r DU a’r byd yn newid. Mae llawer ohonom yn dechrau mentro allan i’r byd a gwneud pethau. I’ch helpu chi i ddechrau arni, mae gennym syniadau syml (a hawdd) i godi arian.
Read more


Chwiorydd mewn busnes – cynnyrch cychod gwenyn

Posted on 28 Ebrill 2021 by Kate Morgan (BA 2017)

Astudiodd dwy chwaer, Gillian Nimmo (BSc 1985) a Jane Nimmo (BSc 1986) yr un cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd dros 30 mlynedd yn ôl ac yn ddiweddar rhoddodd y ddwy eu pennau at ei gilydd i redeg busnes bach ecogyfeillgar o’r enw Let it Bee, yn gwerthu gofal croen cynaliadwy, sebon a cynhyrchion eraill o gychod gwenyn. Maen nhw’n gweithio yn eu ceginau eu hunain, gyda chymorth miloedd o wenyn prysur.
Read more


Bragu storm: Sarah John heb os yw’r Bòs

Posted on 25 Mawrth 2021 by Kate Morgan (BA 2017)

Mae Sarah John (BA 2011), sylfaenydd a chyfarwyddwr Boss Brewing, yn fenyw sy’n benderfynol i gyflawni ei nodau a thorri rhwystrau ar hyd y ffordd. Yma, mae’n disgrifio taith gyffrous llawn llwyddiannau busnes, gan frwydro yn erbyn cewri corfforaethol, dod â’i baban newydd-anedig i gyfarfodydd, a herio’r drefn sydd ohoni yn gyffredinol.
Read more