Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

7 llyfr cynfyfyrwyr i’ch paratoi ar gyfer Dydd Sant Ffolant eleni

11 Chwefror 2021

Efallai bydd Dydd Sant Ffolant ychydig yn wahanol eleni ac mae’n annhebygol y gwelwn lawer o enghreifftiau mawr a chyhoeddus o gariad ond peidiwch â phoeni. Ewch i nôl paned poeth, setlwch ar y soffa ac ymgollwch i deimladau cynnes a braf gyda’r tudalennau cyffrous hyn.  

1. I’r rhai ohonom sy’n mwynhau stori dda am gariad a theithio yn ôl ac ymlaen mewn amser    

2045 and After: A Romantic Novel by James Geoffrey Hanlan (BScEcon 1977; BA 1999)

Y cyntaf ar ein rhestr ddarllen Dydd Sant Ffolant yw nofel ramant am deithio yn ôl ac ymlaen mewn amser. Mae ein cymeriad, Christopher Jones, yn cael ei daflu ymlaen i 2045 fel bachgen ifanc yng Nghernyw. Mae rhamant plentyndod yn datblygu ac mae’n ffurfio perthynas agos â Lorna Hopley. Mae anturiaethau’n dilyn gan gynnwys llu o ddatblygiadau technolegol anhygoel ac ansicrwydd gwleidyddol mewn byd dyfodolaidd sydd ddim mor bell i ffwrdd â hynny.  

2. I’r rhai ohonom sy’n chwilio am foethusrwydd a hwyl 

Draupadi in High Heels by Aditi Kotwal (MA 2009) 

Yn ferch i deulu busnes adnabyddus, mae Deeya yn ferch ddisglair, gyfoethog wedi’i difetha ac sy’n berchen ar siop ffasiwn elitaidd. Mae ei rhieni am iddi briodi a chynnal rhyw fath o swayamvar er mwyn iddi ddewis gŵr. Mae hi mewn penbleth – dewis Karan, y dyn hynod olygus a chyfareddol, neu Arjun, sy’n fywiog a chymdeithasgar. 

3. I’r rhai ohonom sy’n chwilio am ochr dywyllach cariad  

The Machine by James Smythe (BA 2001, PhD 2008)  

‘Hanes Frankenstein ar gyfer yr 21ain ganrif yw ‘The Machine’. Stori am annileadwyaeth cof, cost ddynol gwyddoniaeth ac erchyllterau cariad.’ Fel y gallwch ddyfalu o’r crynodeb siŵr o fod, nid eich rhamant arferol ac ysgafn yw hon, ond hanes tywyll a thorcalonnus. Mae Vic yn ddyn cythryblus ar ôl dychwelyd o’r rhyfel ac mae ei briodas hapus â Beth ar chwâl. Yna, daw’r peiriant. Mae’r peiriant yn addo iachawdwriaeth a bydd yn cael gwared ar atgofion treisgar Vic, ond mae’r rhan fwyaf o’r peiriannau wedi diflannu gan eu bod yn eu hystyried yn rhy ddadleuol. Mae Beth efallai’n gwybod ble mae un o’r peiriannau hyn, ac mae’n gobeithio drwy ei ddefnyddio y gall ailadeiladu ei gŵr fesul darn. 


4. I’r rhai ohonom sy’n chwilio am gariad sy’n llwyddo ‘yn erbyn yr holl ddisgwyliadau’ 

The Prisoner’s Wife by Dr Maggie Butt (writing as Maggie Brookes) (BA 1977, PhD 2002) 

Os ydych yn barod i’ch calon gael ei thorri a’i rhoi yn ôl at ei gilydd eto gan eiriau ar dudalen, yna ychwanegwch hwn at eich casgliad. Mae hyn yn seiliedig ar stori wir am fenyw Tsiec ifanc sy’n gwisgo fel milwr o Loegr er mwyn bod gyda’i gŵr mewn gwersyll carcharorion rhyfel. Bydd risg, cyffro, a gweithredoedd ysbrydoledig o gariad a dygnwch yn golygu y byddwch yn darllen yn hwyr yn y nos ac yn dal eich gwynt gyda phob pennod.  

5.   I’r rhai ohonom sy’n chwilio am gyffro

True Things About Me by Deborah Kay Davies (PhD 2003)  

Nid yw Dydd Sant Ffolant am ramant yn unig, weithiau mae’n ymwneud â nwyd. Mae’r llyfr hwn yn dilyn menyw ifanc sydd wedi’i llethu ag obsesiwn a nwyd. Mae’n dechrau gyda cyfarfod siawns mewn maes parcio ac yna’n arwain at lwybr cymhleth o hunanddarganfod.



6. I’r rhai ohonom sydd am ddarllen safbwynt newydd ar gariad a chyfeillgarwch

The Normal state of mind by Susmita Bhattacharya (MA 2007)  

Wedi’i osod yn India, ychydig cyn y mileniwm, pan oedd cynnydd cymdeithasol enfawr wedi digwydd ond dim ond mewn rhai meysydd o fywyd, mae ein dau brif gymeriad yn ceisio herio’r sefyllfa gymdeithasol. Priodferch ifanc yw Dipali sydd am weithio’n galed a sicrhau llwyddiant yn ei phriodas, ond mae ei gŵr yn marw ac nid oes llawer o opsiynau nac annibyniaeth ganddi. Athrawes ysgol yw Moushami sy’n cael ei denu at fenywod ac mae’n ceisio cadw’r gyfrinach hon o’i theulu, gan sleifio i bartïon celf moethus lle gall fod hi ei hun. Stori ddwys sy’n ysgogi’r meddwl a chynhelir yn India sy’n brwydro â therfysgoedd cymunedol a mudiadau hawliau pobl hoyw.  

7. I’r rhai ohonom … sydd ddim yn becso cymaint 

How Love Actually ruined Christmas by Gary Raymond (PhD 2020-)

It maEfallai nad yw’n Nadolig ond os nad oes awydd gennych am ramant draddodiadol ac yn ffansio clywed dadl ddifyr ynglŷn â sut mae un o’r ffilmiau rhamant mwyaf poblogaidd erioed yn nonsens llwyr, yna rydych wedi dod ar draws y llyfr cywir. Dadansoddiad doniol o’r ffilm boblogaidd Love Actually yw hwn sy’n ‘ein tywys trwy gwmwl trwchus o gymeriadau sydd wedi’u llunio’n wael, llinellau plot disynnwyr a rhagfarn agored, gan arwain at uchafbwynt o schmaltz di-sail.’ Mwynhewch!