Skip to main content

March 2022

Eich llwybr at hyder gyrfaol – Bossing It

Eich llwybr at hyder gyrfaol – Bossing It

Posted on 24 March 2022 by Emma Lewis (BA 2017)

Yn y farchnad swyddi gystadleuol, a’r byd cyflym sydd ohoni heddiw, mae hunan-gred yn bwysicach nag erioed. Yn aml, gall deimlo fel petai gan gydweithwyr, cyfoedion a'r rhai yr ydym yn eu hedmygu yn ein diwydiannau, beth wmbreth ohono, ond ydi hynny'n wir mewn gwirionedd? Fe fuom yn siarad â rhai o'n cynfyfyrwyr llwyddiannus am hyder o ran gyrfa, a gofynnwyd iddyn nhw rannu eu hawgrymiadau a'u triciau ar gyfer teimlo'n ddi-ofn a bod yn feiddgar yn eich gyrfa.

Cwrdd â’r Gwirfoddolwr – Audrey Long (BSc 1987)

Cwrdd â’r Gwirfoddolwr – Audrey Long (BSc 1987)

Posted on 15 March 2022 by Alumni team

Mae gan Audrey Long (BSc 1987) dros 25 mlynedd o brofiad proffesiynol mewn marchnata gwyddor bywyd a datblygu busnes ledled y byd. Mae Audrey newydd ddechrau ei hail flwyddyn yn fentor ar gyfer rhaglen Menywod yn Mentora Caerdydd, gan gynnig ei chyngor a'i chefnogaeth i fenywod graddedig ar ddechrau eu gyrfa.

Sut gallwn ni fwyta ein ffordd i blaned iachach – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Sut gallwn ni fwyta ein ffordd i blaned iachach – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Posted on 15 March 2022 by Alumni team

Steve Garret (MSc 2009) yw Sylfaenydd Bwyd Go Iawn Glan-yr-Afon, marchnadoedd bwyd wythnosol sy'n hyrwyddo bwyd ffres, cynaliadwy a lleol. Mae Steve yn actifydd angerddol am fwyd ac yn entrepreneur cymdeithasol arobryn. Yma, mae'n esbonio pam ei bod yn bwysig bwyta'n lleol a manteision siopa mewn marchnadoedd ffermwyr lleol.   

#TeamCardiff i gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd i godi arian

#TeamCardiff i gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd i godi arian

Posted on 14 March 2022 by Anna Garton

Ddiwedd mis Mawrth, bydd rhedwyr #TeamCardiff yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar ôl i’r ras gael ei ohirio am 18 mis oherwydd y pandemig, mae'r tîm o 350 o staff, myfyrwyr, cynfyfyrwyr a ffrindiau am geisio codi £70,000 ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, ac ar gyfer ymchwil canser.

Ryseitiau Er Mwyn Llwyddo: Cig e i d i o n gyda llysiau’r gwanwyn a mwstard

Ryseitiau Er Mwyn Llwyddo: Cig e i d i o n gyda llysiau’r gwanwyn a mwstard

Posted on 14 March 2022 by Alumni team

Mae Tomos Parry (BScEcon 2008), gogydd sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy'n berchen ar fwyty seren Michelin o'r enw Brat, a enwyd yn un o'r 100 o fwytai gorau yn y byd. Yn ein cyfres Ryseitiau sy’n llwyddo, mae Tomos yn rhannu'r rysáit berffaith ar gyfer noson stêc ar gyllideb.

Gwella diagnosis canser y prostad gyda phrawf gwaed syml

Gwella diagnosis canser y prostad gyda phrawf gwaed syml

Posted on 10 March 2022 by Anna Garton

Mae’r Athro Aled Clayton (BSc 1993, PhD 1997) wedi’i leoli yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru. Mae ei dîm ymchwil, y Grŵp Micro-amgylchedd Meinwe, yn grŵp o ymchwilwyr ymroddedig ac amrywiol sydd â’r nod o ddatgelu gwybodaeth hanfodol a fydd yn gwella'r ffordd yr ydym yn gwneud diagnosis ac yn trin canser y prostad.

Ryseitiau Er Mwyn Llwyddo: Uwd siocled, menyn cnau daear, a llus

Ryseitiau Er Mwyn Llwyddo: Uwd siocled, menyn cnau daear, a llus

Posted on 10 March 2022 by Alumni team

Sarah John (BA 2011) yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Boss Brewing, bragdy llwyddiannus a ddechreuodd. Nid cwrw yn unig sydd o ddiddordeb i Sarah - mae hi'n hoffi bwyd hefyd! Yn ein cyfres Ryseitiau sy’n llwyddo, mae'n rhannu ei rysáit uwd hawdd ac iachus.